
Gareth Williams
Mi fydd y cwest i farwolaeth Gareth Williams, yr ysbïwr MI6, yn digwydd ym mis Ebrill.
Cafodd y gŵr 31 oed o’r Fali ym Môn ei ddarganfod yn farw mewn bag chwaraeon wedi ei gloi, yn ei fflat yn Llundain, ym mis Awst 2010.
Mae ymchwiliad sylweddol gan yr Heddlu Metropolitanaidd wedi methu â darganfod sut fuodd e farw.
Diogelu cyn-gydweithwyr o MI6
Roedd Gareth Williams yn dorrwr codau i MI6.
Mae Llys Crwner San Steffan wedi dweud bydd adolygiad cyn y cwest.
Fydd hwn yn digwydd ar Fawrth 29ain, gydag ymchwiliad llawn i ddilyn tair wythnos wedi hynny.
Bydd yr adolygiad yn penderfynu pwy sydd angen rhoi tystiolaeth, ac ar ba ffurf, gyda pheth o’r tystiolaeth yn gyfrinachol er mwyn diogelu cyn-gydweithwyr Gareth Williams yn MI6.