
Mae un o ffigyrau amlycaf Plaid Cymru yn rhybuddio os bydd yr iaith farw yn Nyffryn Aman, fydd hi’n ddiwedd ar y Gymraeg.
Yn ôl Adam Price, y ‘Mab Darogan’ i lawer yn y Blaid, mae’n rhaid cynnal yr iaith yn ei ardal enedigol yn Nyffryn Aman os oes unrhyw obaith o’i chadw’n fyw drwy weddil y wlad.
”Dyw hi ddim yn ardal sy’n cael ei chysylltu gan lawer fel cadarnle’r iaith Gymraeg, ac eto os na chynhaliwn ni’r iaith yn yr ardal yma dw i ddim yn gweld y bydd dyfodol i’r iaith fel iaith hyfyw,” meddai Adam Price mewn rhaglen i’w dangos ar S4C.
Mae ei eiriau yn adlais o rybudd apocolyptaidd Saunders Lewis i’r genedl yn ôl yn 1962 – edrych yn ôl ar yr araith arbennig honno fydd Adam Price mewn rhaglen arbennig i’w darlledu ar S4C ar 13 Chwefror.
Cyfrifiad am ddangos cynnydd, ond…
Hanner can mlynedd ers araith Saunders Lewis, bydd Adam Price, y cyn-Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, yn bwrw golwg dros sefyllfa’r iaith – ac yn defnyddio ardal Aman-Tawe fel drych.
Mae’r ardal yn un lle mae’r Gymraeg “dan fygythiad difrifol” yn ôl Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
Ar drothwy cyhoeddi canlyniadau cyfrifiad 2011, mae Adam Price yn disgwyl y bydd cynnydd eto yn nifer y siaradwyr Cymraeg, ond mae’n rhybuddio Llywodraeth Cymru a chyrff statudol eraill rhag credu “bod y frwydr wedi’i hennill, bod y Gymraeg wedi troi cornel”.
Bydd y gwleidydd yn cwrdd ag arbenigwyr ym maes iaith, addysg, diwylliant a gwaith wrth edrych ar sefyllfa’r iaith yn yr ardal.
Un o’r rhai hynny fydd yr arbenigwr addysg, Heini Gruffydd, sydd yn dweud bod twf ysgolion Cymraeg wedi bod yn lwyddiant – ond bod ymdrechion i drosglwyddo’r iaith i oedolion yr ardal wedi bod yn fethiant llwyr.
Bydd y rhaglen hefyd yn edrych ar gyfraniad sefyllfa’r economi leol, ac effaith y mewnlifiad ar sefyllfa’r iaith.
Adam Price – y Saunders newydd?
Wrth edrych yn ôl ar rybuddion Saunders Lewis yn 1962, mae Adam Price yn cyfaddef ei fod yn gweld rhywfaint o debygrwydd yn agweddau ei hun a rhai Saunders Lewis.
“Un o’r pethe pwysicaf am Saunders yw’r ffaith ei fod e’n fodlon sefyll y tu fas i’r consensws ar y pryd,” meddai Adam Price.
“Roedd e’n fodlon cymryd y safbwynt amhoblogaidd ac roedd hynny yn beth prin yng Nghymru ym 1962, ac yn y Gymru fodern hefyd.
“Yn fy arddegau, roeddwn i’n gweld yr iaith fel trysor allai gael ei golli os nad oedden ni yn fodlon brwydro drosto, ac roedd hynny yn agwedd bur lleiafrifol yn yr ardal bryd hynny.”
Jon Tomos , Chwefror 3, 2012 1:59 pm
§| Nodi camddefnydd