Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Bardd y bogs ar S4C

Chwefror 3, 2012 14:15


Toilet symudol
Mae’r Prifardd Ifor ap Glyn wedi bod yn crwydro o doilet i doilet ar gyfer ei raglen ddiwedddara’ ar S4C.

Bydd fersiwn Saesneg o Tai Bach y Byd hefyd, i’w dangos ar BBC4.

 “Mae wedi bod yn syniad genna’i ers blynyddoedd,” meddai Ifor ap Glyn wrth Golwg360 heddiw.

Fe gafodd y syniad am raglen ar ôl darllen am dai bach Cymru.

“Yn wreiddiol trwy ddarllen llyfrau Aelwyn Roberts, sydd wedi ysgrifennu dau lyfr am doiledau Cymru,” eglura’r cyflwynydd.

 “Mae’r prosiect yn cwmpasu hanes y toiled, yn hanes cymdeithasol, ac yn hanes dylunio ‘y toiled’ yn ein diwylliant ni, o’i gymharu â phobl eraill.”

Pwysigrwydd y tŷ bach

Mae Ifor ap Glyn yn pwysleisio bod toilet yn gallu bod yn bwnc difrifol a phwysig.

Os oes toiled ar gael, mae tlodion yn llai tebygol o farw o heintiau mewn dŵr yfed, megis colera.

“Mae 2.6 biliwn o bobl yn y byd heb doiled, ac mae’n ffaith amlwg fod pobl yn byw yn hirach mewn gwledydd sydd â mwy o doiledau

“Dw i newydd ddod nôl o Dhaka, yn Bangladesh, ac roedd y slymiau yna’n rhyfeddol.”

Bu’n crwydro Bangladesh wledig hefyd, yn gweld carthffosiaeth wrth ymyl y ffordd.

“Mae’n sobreiddio dyn.”

Gwobrau’r Pŵ

Yn ogystal â’r dwys o Fangladesh bydd blas yn y rhaglen o Wobrau’r Pŵ Euraidd yn Llundain.

Bydd Tai Bach y Byd i’w gweld fis Ebrill.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Gerwyn Preis , Chwefror 3, 2012 3:06 pm

Rhaglen hanner pan arall ar y ffordd…..!

§

Gwyn, Cwm Taf , Chwefror 3, 2012 3:49 pm

Cachbeth

§| Nodi camddefnydd

eirwen haf , Chwefror 3, 2012 10:56 pm

Addas gan fod S4C bron mynd lawr y pan!

§| Nodi camddefnydd

Ifor Hughes , Chwefror 3, 2012 11:39 pm

Syniad da edrych ‘mlan i weld a gret bod nhw wedi ‘allforio’ rywbeth o Gymru dramor.

§| Nodi camddefnydd

Martin Wilias , Chwefror 7, 2012 2:05 pm

“Bydd fersiwn Saesneg o Tai Bach y Byd hefyd, i’w dangos ar BBC4″
Hoffwn glywed y fersiwn Cymraeg ar BBC4 (hefo isdeitlau Saesneg). Mmm…stori dda i’r e.e. Daily Mail, Daily Express a phapurau newydd cachu eraill?
Go iawn? Ia pam lai- nid wyf yn cymryd y piss

Pwynt difrifol- safon garffosiaeth o’r radd flaenaf i bawb o bobl y byd ddyweda i.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.