
Mae cais y criw wnaeth ffurfio cwmni cydweithredol i geisio ennill yr hawl i redeg Radio Ceredigion, wedi ei dderbyn gan y rheoleiddiwr Ofcom.
Mae Cyfeillion Radio Ceredigion wedi cwyno’n gyson am ddiffyg Cymraeg ar yr orsaf ers iddi ddod i ddwylo Town and Country Broadcasting yn Ebrill 2010.
Ond mae’r cwmni hwnnw’n dadlau bod angen addasu’r arlwy a chael llai o Gymraeg er mwyn iddi fedru talu ei ffordd.
Erbyn hyn mae Cyfeillion Radio Ceredigion a Townd and Country Broadcasting ill dau wedi cyflwyno eu ceisiadau i Ofcom.
Cyfranddaliadau
Yn eu cais mae Cyfeillion Radio Ceredigion yn amlinellu’r bwriad i godi £100,000 i redeg yr orsaf trwy werthu cyfranddaliadau am £100 yr un.
Yn ôl eu cais: ‘Mae trafodaethau â Credcer (undeb gredid Ceredigion) eisoes ar waith er galluogi gymaint fyth a phosib o bobl Ceredigion i berchen ar gyfranddaliad yn yr orsaf. Trwy’r trafodaethau hyn disgwylir y bydd modd i unigolion neu fudiadau fenthyg £100 i’w ad-dalu dros gyfnod o dair blynedd (tua £4.00 y mis). Mae cyfartaledd cyflogau Ceredigion yn isel. Felly, mae sicrhau cynhwysiant cymdeithasol eang yn flaenoriaeth i’r cwmni.’
Yn cyhwanegol at y £100,000 yma bydd rhai o gefnogwyr y fenter gydweithredol yn benthyg £50,000 i’r fenter os lwyddith y cais am drwydded.
Ond yn eu cais nhw mae Town and Country Broadcasting yn brolio eu bod ‘wedi cyflawni model gweithredol cynaliadwy ar gyfer Radio Ceredigion drwy integreiddio’r orsaf mewn i’w isadeiledd presennol’.
Ffrae’n fwy na Radio Ceredigion
Yn y cefndir mae Bwrdd yr Iaith ag Ofcom wedi bod yn dadlau am natur ieithyddol yr orsaf dan adain y perchnogion presennol.
Tra bo Ofcom yn haeru nad oes ganddyn nhw unrhyw hawl yn ôl y gyfraith i fynnu bod Radio Ceredigion yn cynnig arlwy yn Gymraeg, mae Bwrdd yr Iaith wedi dadlau bod yr hawl gyfreithiol yn bodoli i ofyn bod y Gymraeg a’r Saesneg yn cael yr un faint o barch ac amser darlledu.
Eisoes mae’r mater wedi ei gyfeirio at y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros yr Iaith Gymraeg yn Llywodraeth Cymru, ond nid yw Leighton Andrews wedi penderfynu pwy sy’n iawn hyd yma.