Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Amcan Un – fflop y ganrif?

Chwefror 3, 2012 16:09


Guto Bebb
Mae gwerth biliynau o arian grant o Ewrop – Amcan Un – sydd wedi ei wario yn ardaloedd tlotaf Cymru wedi bod yn fethiant enbyd, a’r sector gyhoeddus sydd ar fai.

Dyna gasgliad yr AS Guto Bebb yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon.

“Er gwaethaf derbyn arian Amcan Un ers 1999 ac arian Cydgyfeirio, mae Cymru yn dlotach heddiw na’r hyn oedd yn wir yn 199,” meddai’r Tori yn ei ddydiadur wythnosol i’r cylchgrawn.

“Yn wir, Cymru yw un o chwe rhanbarth allan o 56 ddaru dderbyn arian Amcan Un yn 1999 sydd wedi gweld dirywiad yn ein sefyllfa. Pa syndod gyda 99.5% o holl gyllid Amcan Un dan arweiniad prosiectau o fewn y sector gyhoeddus?”

Ac mae un o’r ymgeiswyr yn y ras i olynu Ieuan Wyn Jones yn cytuno i raddau.

“Mae’n wir i ddweud nad yw Cymru wedi gwella’n economaidd yn y deng mlynedd diwethaf,” meddai Simon Thomas wrth Golwg360.

Ond doedd e ddim yn cytuno gyda gosodiad Guto Bebb fod ‘Amcan un wedi methu’. Dywedodd Simon Thomas efallai base Cymru mewn gwaeth cyflwr heb yr arian ychwanegol yma.

Gweledigaeth Simon Thomas yw Cymru fwy mentrus yn sefyll ar ei thraed ei hun. “Fi isie gweld diwedd i’r ‘grant culture’, ond ddim trwy ‘big bang’ dros nos.”

Dywedodd fod y llywodraeth yn Llundain yn gwneud hyn yn rhy gyflym. Dywedodd hefyd fod polisi’r llywodraeth o dorri swyddi cyhoeddus a disgwyl i swyddi preifat gymryd eu lle wedi bod yn fethiant.

“Pam ryda ni’n fodlon i Gymru fod yn ddibynadwy? Mae angen mwy o gyfoeth yng Nghymru.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dafydd , Chwefror 3, 2012 4:44 pm

“Yn wir, Cymru yw un o chwe rhanbarth allan o 56 ddaru dderbyn arian Amcan Un yn 1999 sydd wedi gweld dirywiad yn ein sefyllfa. Pa syndod gyda 99.5% o holl gyllid Amcan Un dan arweiniad prosiectau o fewn y sector gyhoeddus?”

Mae Bebb yn iawn am unwaith. Angen adfywi’r sector breifat sydd ac adiladu isadeiledd. Ond wele meddylfrydd ‘Labour in Wales’…..ac yn sgil hynny, cadw’r brodorion yn gaeth i arian a swyddi cyhoeddus. Mae’n wirioneddol dor calonus.

§| Nodi camddefnydd

CGT , Chwefror 3, 2012 5:16 pm

Mae Llafur eisiau cadw pobl y Cymoedd yn dlawd ac yn ddi-addysg , gan fod cyfoeth yn arwain at fwy o dueddiad at bleidlais i’r Ceidwadwyr , ac addysg yn dueddok o arwain at bleidlais i’r Lib Dems/ Plaid Cymru .
A bod yn deg a Guto Bebb, petai mwy o Gymry yn pobl busnes fel yntau, buasem yn fwy parod i sefyll ar ein traed ein hunain. Y Cymoedd a’u tlodi enbyd yw maen melin Cymru , a’r prif rwystr i ddadl gall am annibyniaeth.

§

Andrew , Chwefror 3, 2012 5:33 pm

Y broblem oedd fod yr arian yn cael ei ddefnyddio ar brosiectau bach yn yr ardaloedd difreintiedig. Llawer gwell fyddai fod wedi gwario’r arian ar brosiectau mwy (ryw fath o New Deal Cymreig), e.e. gwella’r A470, a fyddai’n help i fusnesau a chwmnioedd preifat yn yr ardaloedd hynny.

§| Nodi camddefnydd

Ben , Chwefror 3, 2012 5:54 pm

199? Pryd oedd hynny? Oedd Ewrop yn bodoli yn 199?

§

Ifor Hughes , Chwefror 3, 2012 6:07 pm

Plis gwrandewch ar Guto neu aeth pethe o ddwrg i waeth ! Rhaid i’r chwith ddeall fod rhaid i arian ‘ddod o rywle’ sef treth ar fusnesau sy’b gwneud arian. Does dim ffynnon ddi-waelod yn rhywle.

§| Nodi camddefnydd

Lewis , Chwefror 3, 2012 6:12 pm

Roedd pawb yn gyfoethocach yn 1999, dros y byd.

§| Nodi camddefnydd

Rhodri Jones , Chwefror 3, 2012 9:28 pm

Guto Bebb yn siarad sens unwaith eto! byth yn siomi.

§

Ifor Hughes , Chwefror 3, 2012 11:36 pm

Os bydde’r sector prifat wedi cael yr arian yna – O my god dros Gymru nawr bydde yna fusnesau llewyrchus FEL digwyddodd gydag Amcan 1 yng Ngorllewin Iwerddon . Creuwyd venture capital funds gyda’r arian – ariannwyd cynlluniau busnes a dros Iwerddon gyfa nawr ma canran o’r busnesau hynny dal yna – ma canran wedi mynd yn bust OND ma rhywbeth yna nawr .

§| Nodi camddefnydd

Ifor , Chwefror 4, 2012 11:55 am

Mae Guto Bebb yn hollol iawn ar hyn, a phur anaml rwyf yn cytuno a Thori.
Bechod fasa ni fel cenedl yn gallu fod cystal am greu gwaith a dysgu sgiliau a phwrpas iddynt i’n pobl ifanc yn hytrach na rwdlian efo’r busnes canu, adrodd ac actio di ddim ‘ma.

§

Sion , Chwefror 4, 2012 7:05 pm

Fi byth yn cytuno gyda Guto Bebb ond mae tro cyntaf i bopeth. Gwarthus sut mae’r arian ma wedi cael ei gam-wario ar hyd y blynyddoedd.

§| Nodi camddefnydd

John Griffith , Chwefror 5, 2012 9:05 am

Amcan Un – fflop y ganrif? Onid yw hi’n braidd yn rhu fuan i ddweud?

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.