Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Gweithiwr banc yn cyfaddef i dwyll

Chwefror 4, 2012 08:32, Diweddarwyd am 08:32


Llysoedd Merthyr
Mae gweithiwr Barclays wedi cyfaddef o flaen llys iddi gymryd mwy na £100,000 o arian yr oedd cwsmer wedi ei fuddsoddi yn y banc.

Roedd Gaynor Russ, 59, o Dreherbert yn y cymoedd wedi cynnal y twyll dros gyfnod o 10 mis nes mis Mai 2008.

Cyfaddefodd i 13 achos o dwyll wrth ymddangos o flaen Llys y Goron Merthyr Tudful ddoe.

Roedd ei gŵr a’i tri o blant yn bresennol wrth iddi gael gwybod ei bod hi’n wynebu carchar am ei throseddau.

Dywedodd yr erlynydd, Rachel Knight, fod Gaynor Russ yn gweithio yng nghangen Treherbert banc Barclays ar y pryd.

Roedd pob trosedd yn ymwneud â chyfri banc cwsmer penodol oedd wedi ei dargedu gan Gaynor Russ.

Gohiriodd y Barnwr Eleri Rees yr achos nes 24 Chwefror er mwyn derbyn adroddiadau cyn ei dedfrydu. Cafodd Gaynor Rees ei rhyddhau ar fechnïaeth ond bu’n rhaid iddo ildio ei phasbort.

Fe fydd yr erlynwyr yn rhoi gwybod faint yn union oedd Gaynor Russ wedi ei ddwyn erbyn y gwrandawiad nesaf.

Dywedodd y Barnwr “mai’r unig reswm y mae hi wedi ei ryddhau ar fechnïaeth yw er mwyn rhoi trefn ar bethau”.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.