
Ysbyty Athrofaol Cymru
Mae beiciwr modur wedi ei anafu yn ddifrifol ar ôl gwrthdrawiad ym Mhen-y-Bont ar Ogwr.
Dywedodd y gwasanaethau brys eu bod nhw wedi eu galw i safle’r ddamwain ar gylchfan bychan ar Stryd Evans, Mynydd Cynffig, toc wedi 2.20pm ddoe.
Aethpwyd a’r dyn 30 oed mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.
“Roedd y dyn a fu ar gefn y beic modur wedi dioddef anafiadau difrifol i’w ben,” meddai llefarydd ar ran Heddlu De Cymru
“Rydyn ni’n galw am lygaid-dystion i’r hyn ddigwyddodd yn ystod y gwrthdrawiad a hefyd i symudiadau’r beic modur o flaen llaw.
“Rydyn ni hefyd eisiau clywed gan bobol a welodd fan Fort Transit a oedd yn teithio o flaen y beic modur cyn y gwrthdrawiad.”
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru ar 01656 655555 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.