
Llys Ynadon Caerdydd
Bu bron i feithrinfa orfod cau ar ôl i’r trysorydd gymryd mwy na £12,000 o’r coffrau, clywodd llys yng Nghaerdydd.
Roedd Suzy Barrett, 34, wedi gwirfoddoli i ofalu am arian Cylch Meithrin Pentrebane oherwydd ei “phrofiad” blaenorol.
Roedd hi’n cael ei thalu £260 y mis am ei gwaith wyth awr yr wythnos, ond cytunodd yn ddiweddarach i gwblhau’r gwaith yn wirfoddol wrth i bethau fynd yn dynn.
Ond yn ddiarwybod i aelodau’r feithrinfa iaith Gymraeg, roedd Suzy Barrett wedi parhau i dalu cyflog i’w hun, a hefyd wedi bod yn rhoi arian ychwanegol yn ei chyfri.
Gadawodd y ddynes o Roach Crescent, y Tyllgoed, Caerdydd, y swydd ar ôl 18 mis, wedi i’w phlentyn adael y feithrinfa.
Clywodd y llys fod olynydd Suzy Barrett wedi sylweddoli beth oedd wedi bod yn digwydd.
Daeth i’r amlwg yn ddiweddarach fod Suzy Barrett wedi rhoi £3,400 yn ôl yng nghyfri banc y feithrinfa. Ond doedd dim sôn am y £8,346.26 arall.
Ymddangosodd o flaen Llys Ynadon Caerdydd ddoe a chyfaddef i dwyll.
Dywedodd yr erlynydd Katy Pidgeon fod y troseddau, rhwng Ionawr 2010 a mis Mehefin y llynedd, wedi digwydd dros gyfnod hir.
Ychwanegodd fod y feithrinfa bron a dod i ben oherwydd gweithredoedd y cyn-drysorydd, ac mai dim ond haelioni aelodau a rhieni oedd wedi ei achub.
Pwysleisiodd ei chyfreithiwr, Aled Watkins, ei bod hi wedi cyfaddef i’r drosedd o’r cychwyn cyntaf, ac yn fodlon talu’r arian yn ôl.
Ychwanegodd fod Suzy Barrett wedi cymryd yr arian am ei bod hi wedi mynd i drafferthion ariannol.
Dywedodd y Barnwr John Charles fod y troseddau yn rhai difrifol, ac mai dim ond dedfryd o gaethiwed fyddai yn gwneud y tro.
Serch hynny penderfynodd oedi cyn dedfrydu gan ddweud y byddai ei hanfon i garchar yn syth yn peryglu gallu Suzy Barrett i dalu’r arian yn ôl.
Fe fydd hi’n ymddangos o flaen Llys Ynadon Caerdydd unwaith eto am 2pm ar ddydd Gwener, 3 Awst.