
Nikitta Grender
Mae cariad merch ifanc feichiog a gafodd ei llofruddio wedi gwadu iddo rannu merched efo’r dyn sydd wedi ei gyhuddo o’i lladd.
Cafodd Nikitta Grender, 19, ei threisio a’i thrywanu i farwolaeth ym mis Chwefror y llynedd. Fe fuodd y plentyn oedd heb ei eni hefyd farw o ganlyniad i’r ymosodiad.
Daethpwyd o hyd i gorff y ferch 19 oed wedi llosgi’n ddrwg yn ei fflat ym Mharc Broadmead, Lliswerry, Casnewydd.
Roedd disgwyl iddi roi genedigaeth mewn llai na phythefnos pan ddigwyddodd yr ymosodiad.
Mae Carl Whant, 27, sy’n gefnder i Ryan Mayes, 17, cariad Nikitta Grender, yn gwadu’r cyhuddiadau iddo edreisio a llofruddio Nikitta Grender, cyn llosgi’r fflat yn fwriadol. Mae e hefyd yn wynebu cyhuddiad o ladd plentyn.
Roedd Carl Whant a Ryan Mayes yn gweithio â’i gilydd yn gwerthu ffenestri dwbl ac wedi bod yn yfed yng nghwmni ei gilydd ar noson y llofruddiaeth.
Clywodd Llys y Goron Casnewydd yn gynharach fod yr heddlu wedi dod o hyd i sberm Carl Whant y tu mewn i gorff marw Nikitta Grender.
Honnodd Carl Whant ei fod wedi cael rhyw â Nikitta Grender tua 19 awr cyn y llofruddiaeth.
Daeth yr honiad yn natganiad yr amddiffyniad ym mis Chwefror, ond doedd dim sôn a hynny yn ystod ei 26 cyfweliad â’r heddlu cyn hynny.
Mae Carl Whant yn honni fod ei gefnder wedi ei wahodd i gael rhyw â Nikitta Grender yn ei fflat. Mae hefyd yn honni bod yr un peth wedi digwydd 18 mis cyn hynny â cyn-gariad i Ryan Mayes.
Wrth gael ei holi gan gyfreithiwr y diffynnydd, Christopher Kinch QC , gwadodd Ryan Mayes fod unrhyw beth o’r fath erioed wedi digwydd.
“Na,” meddai Ryan Mayes. “Doedd yna ddim byd fel yna wedi digwydd. Dydw i ddim i mewn i’r math yna o beth. A dweud y gwir fydden i byth yn gwneud y math yna o beth.”
Bydd yr achos llys yn parhau dydd Llun.