Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Sharon Morgan yn ‘ail-ymuno â’r blaid er mwyn Leanne’

Chwefror 6, 2012 11:55


Sharon Morgan
Mae’r actores Sharon Morgan yn dweud ei bod wedi ail-ymuno â Phlaid Cymru er mwyn cefnogi ymgyrch Leanne Wood am yr arweinyddiaeth.

Mae’r actores – sydd wedi ymddangos ar gyfres Torchwood a ffilmiau Martha, Jac a Sianco, a Resistance, gyda Michael Sheen – yn dweud bod gan Leanne Wood weledigaeth gyffrous iawn ar gyfer y blaid.

Mae Sharon Morgan wedi bod yn ymgyrchydd brwd dros yr iaith ers blynyddoedd lawer, cyn ac yn ystod ei gyrfa fel actores.

Dywedodd heddiw fod Leanne Wood yn apelio at ei egwyddorion “sosialaidd a gweriniaethol” a’i bod wedi ysgogi’r actores i ail-ymuno â’r Blaid eleni.

‘Cyffrous’

“Dwi’n teimlo bod gweledigaeth Leanne, nid yn unig ar gyfer Cymru, ond ar gyfer lle Cymru yn y byd, yn gyffrous a thrawiadol, ac yn adlewyrchu ehangder meddylfryd gwleidyddol,” meddai.

Dywedodd Sharon Morgan fod Leanne Wood yn “gwerthuso cyflwr truenus cyfalafiaeth yr unfed ganrif ar hugain,” ond ei bod hefyd yn “cynnig atebion” i’r argyfwng.

“Tra bod y glymblaid yn Llundain yn benderfynol o danseilio’r union werthoedd hynny sy’n rhan o’n DNA ni yma yng Nghymru, y Blaid Lafur yn ymddangos yn gwbl analluog i amddiffyn ei hegwyddorion sylfaenol honedig,  a gwleidyddion yn ymhyfrydu mewn sgorio mân bwyntiau pleidiol, mae’n hyfrytwch pur clywed Leanne yn siarad yn blaen, ac yn credu beth mae’n gweud!” meddai Sharon Morgan.

“Mae’n fy llwyr argyhoeddi i bod pob polisi mae’n cofleidio wedi ei seilio ar integriti ac angerdd.”

‘Symud ymlaen’

Ond rhybuddiodd Sharon Morgan heddiw y byddai hi’n “beryglus” i Gymru sefyll yn ei hunfan nawr.

“Mae Leanne yn ifanc, ac mae’n edrych i’r dyfodol,” meddai.

“Dwi’n teimlo bod gwir angen i Gymru, yn ogystal â Plaid, mwy nag unrhyw adeg arall yn ein hanes diweddar, symud ymlaen.”

Cyn-actores Pobol y Cwm yn cefnogi

Mae un o gyn-actoresau Pobol y Cwm hefyd wedi rhoi ei chefnogaeth i ymgyrch Leanne Wood heddiw, oherwydd ei “hangerdd, uchelgais ac egni”.

Dwi’n credu ei bod hi’n ysbrydoli llawer o bobol,” meddai Shelley Rees-Owen, oedd yn arfer chwarae rhan y cymeriad Stacey Jones yn y gyfres sebon.

“Mae hi’n ysbrydoli’r  hen a’r ifanc, y siaradwyr Cymraeg a’r di-Gymraeg, a dwi’n credu bod pobol yn ymddiried ynddi,” meddai.

Mae Shelley Rees-Owen bellach wedi cyhoeddi y bydd hi’n sefyll yn yr etholiad dros Blaid Cymru ar gyfer ward Pentre, Rhondda Cynon Taf ym mis Mai eleni.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dafydd , Chwefror 6, 2012 12:07 pm

Stori arall *eto fyth* am Leanne Wood, Golwg360?!

§

Adam Jones , Chwefror 6, 2012 12:13 pm

Grawnwin surion o garfannau rasus arweinyddol eraill fan hyn mae’n amlwg, os nad yw’r ymgyrchoedd hynny’n egino ddigon o sylw a thân wedyn dyna brofi eu tranc, mae’r ffaith bod ymgyrch Leanne yn un gyffrous llawn bwrlwm wedi profi’n allweddol i’w gobeithion.

§

Dafydd , Chwefror 6, 2012 12:16 pm

Iawn, ond beth am y stori (sy’n cylchredeg ar twitter ers ryw awr bellach) fod Simon Thomas yn tynnu’i enw nôl o’r ras am arweinyddiaeth ac yn cefnogi Elin Jones? Mae hynny’n fwy o *stori* ddwedwn i na’r hyn mae actores benodol yn ei chefnogi, onid yw?

§| Nodi camddefnydd

Dafydd , Chwefror 6, 2012 12:17 pm

Ah, ac ar y gair – wrth fynd nôl i’r dudalen hafan, mae’r stori ar Golwg – go dda. Diolch.

§

Rhys Llwyd , Chwefror 6, 2012 12:30 pm

Dafydd – mae’n amlwg fod mwy o storiau am ymgyrch Leanne gan fod llawer mwy i ddweud am ymgyrch Leanne!

§| Nodi camddefnydd

jones2 , Chwefror 6, 2012 12:50 pm

Dewch mlaen Golwg – chydig bach o wrthrychedd os gwelwch chi’n dda. Tydi Sharon Morgan erioed wedi gwneud dim byd i Blaid Cymru heblaw siarad.

§| Nodi camddefnydd

Ifor Hughes , Chwefror 6, 2012 1:11 pm

Nonsens Jones2 ma hi wedi gwneud lot .

§

Adam Jones , Chwefror 6, 2012 2:11 pm

Angen aderyn glan i ganu Jones, a beth yn gwmws wnaethoch chi erioed? Welais i neb sy’n fwy o siop siarad na thi ar hwn!.

§| Nodi camddefnydd

Siôn Eurfyl Jones , Chwefror 6, 2012 2:56 pm

Rhaid imi ddweud nad ydwyf wedi clywed am y ddwy yn y stori – on mae’m siwr for nifer eraill, efallai bobol iau na fi, wedi, felly, newyddion da i Gymru.

Dim on Leanne all ein harwain drwy y tir carregog sydd o’n blaen yn y blynyddowdd nesaf i anibyniaeth. Hi yw’r unig un all darbwyllo win cyd-wladwyr fod yna ddyfodol diogel in ni yn anibynol, ag mae peryglus fydd aros yn rhan o ‘little britain’ unwaith i’r alban oresgyn terfynnau ‘riwlbritania’ .

§

Andrew , Chwefror 6, 2012 3:32 pm

Dim pwysau, felly, Leanne…

§| Nodi camddefnydd

Dafydd 3 , Chwefror 6, 2012 4:47 pm

Newyddion ardderchog am Sharon. Dwi’n synnu nad yw’r stori yma ar News at Ten a dweud y gwir.

Be nesa’, Ifan Gruffydd yn ymuno a’r blaid yn gyhoeddus i gefnogi Elin?

§

huw , Chwefror 6, 2012 6:20 pm

Dwi hefyd ‘di ail ymuno i gefnogi Leanne

§

Y Frenhines Elizabeth , Chwefror 6, 2012 9:01 pm

Yr wyf wedi ail-ymuno a Plaid Cymru , ac yn taflu holl nerth, cyfoeth a dylanwad fy nheyrnas y tu ol i ymgyrch yr Arglwydd Ellis-Thomas. Gwae chi os colli fydd ei ffawd !

§

eirwen haf , Chwefror 6, 2012 10:31 pm

Zzzzzz

§| Nodi camddefnydd

Katie Wyn , Chwefror 6, 2012 11:11 pm

Gret – go Leanne!

§

Ifor Hughes , Chwefror 7, 2012 1:55 pm

Ma gan Dafydd El lot i gynnig – o glywed trailer ar BBC 2 yn dweud ‘on Newsnight in an hour leader of Plaid Cymru Dafydd Elis Thomas’ bydde neb yn poeni – tonight Leanne Wood hold on to your seats – tonight Elin Jones – get behind the sofa !

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.