Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Simon Thomas yn tynnu’n ôl o ras arweinyddiaeth Plaid

Chwefror 6, 2012 12:15, Diweddarwyd am 12:45


Simon Thomas
Mae Simon Thomas wedi tynnu allan o’r ras am arweinyddiaeth Plaid Cymru heddiw.

Gwnaeth yr Aelod Cynylliad dros ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru y cyhoeddiad am hanner dydd heddiw yn y Senedd ym Mae Caerdydd.

Daw’r cyhoeddiad ar ôl mis gweddol siomedig i’r Aelod Cynulliad, sydd wedi bod ymhell tu ôl yn llygaid y bwcis ers y dechrau.

Mae’r Aelod Cynulliad bellach yn dweud ei fod yn rhoi ei gefnogaeth i Elin Jones, Aelod Cynulliad Ceredigion, yn y ras i fod yn arweinydd nesaf y blaid.

Wrth roi ei gefnogaeth i Elin Jones, bydd Simon Thomas nawr yn rhedeg y ras ar y cyd â hi – sy’n golygu os bydd Elin Jones yn cael ei hethol yn arweinydd, bydd Simon Thomas yn ymuno â’i thîm fel dirprwy-arweinydd y blaid.

Ail-wynt

Mae cwmni betio Paddy Power bellach wedi rhoi Elin Jones a Leanne Wood ar ods cyfartal o 6/5. Roedd Elin Jones wedi bod yn ffefryn i ennill yn gynharach yn y ras, cyn llithro tu ôl i Leanne Wood yn ddiweddar, wrth i enwau blaenllaw’r blaid fel Adam Price a Dafydd Iwan roi eu cefnogaeth iddi.

Ond heddiw mae cyhoeddiad Simon Thomas wedi rhoi ail-wynt i ymgyrch Elin Jones, gan roi’r ddwy ddynes yn y ras dipyn ar y blaen yn llygaid y bwcis i’r unig ŵr sydd ar ôl, sef yr Aelod Cynulliad dros Ddwyfor Meirionydd, Dafydd Elis-Thomas.

Bydd Golwg 360 yn dod â mwy o wybodaeth am y penderfyniad wrth iddo’n cyrraedd ni.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Rhys Llwyd , Chwefror 6, 2012 12:31 pm

Simon Thomas yn ddirprwy-arweinydd y Blaid os fydd Elin Jones yn ennill? Rheswm arall dros bleidleisio i Leanne Wood!

§

Rhys Llwyd , Chwefror 6, 2012 12:37 pm

Y sylwad uchod yn swnio braidd yn bersonol, sori. Nid dyna oedd y bwriad! Meddwl am gyfeiriad y Blaid oeddwn i, nid sylwad ar sail personoliaeth y sawl dan sylw.

§

Iwan Rhys , Chwefror 6, 2012 12:48 pm

Ai’r arweinydd sy’n cael dewis y dirprwy arweinydd?

§

Ifor Hughes , Chwefror 6, 2012 12:59 pm

Dyle Dafydd El & Leanne Wood wneud rywbeth tebyg – angen tudalen lan Leanne ond hefyd angen profiad Dafydd.

§

CGT , Chwefror 6, 2012 1:30 pm

Tydw i ddim yn siwr pa mor ddiolchgar y bydd Elin Jones o glywed fod Simon Thomas yn ‘Taflu ei bwysau’ y tu ol iddi.
Beth yw gwrthwyneb y ‘Midas Touch ‘ , deudwch ?.
Nid yw’n wleidydd poblogaidd bellach .

§

Neilyn , Chwefror 6, 2012 2:04 pm

Mae wythnos yn parhau i fod yn amser hir mewn gwleidyddiaeth felly! Beth sydd ar y gorwel rhwng nawr a’r etholiad y sgwn i? DET yn tynnu’n ol a thaflu ei bwysa tu ol i Elin Jones hefyd tybed????

§

Ifor Hughes , Chwefror 6, 2012 2:12 pm

Cytuno gyda CGT , pe bawn ni yn cefnogi Elin ac o ddarllen y sylw taw Simon fydd y dirprwy bydden ni’n sgrechen ‘hold on say’s who?’

Seriously, Dafydd El yw’r gore o bell fordd ond ma Leanne yn cynnig rywbeth newydd – bydde Elin yn disaster ar y teledu yn edrych fel athro celf mewn bad mood achos bod rhwyun wedi torri’r potters wheel.

§

CO Jones , Chwefror 6, 2012 2:37 pm

Presumptuous ar ei ran, braidd.
Y grwp sy’n ethol y dirprwy aweinydd, nid penodiad gan yr arweinydd.

§

Iwan Rhys , Chwefror 6, 2012 2:46 pm

Os ydy CO Jones yn gywir yn dweud mai’r grwp sy’n ethol y dirprwy (dyna’r oeddwn i’n meddwl hefyd), wedyn mae Simon Thomas wedi bod yn ewn a thwp i ddweud ei fod yn “ymuno â’i thîm fel dirprwy arweinydd”.

Golwg360 – beth yw ymateb ymgyrch Elin Jones i hyn?!

Gallai hyn fod yn fwy o broblem nag o hwb i ymgyrch Elin.

§

Ifor Hughes , Chwefror 7, 2012 1:26 am

Cytuno 100% gydag Iwan

“Gallai hyn fod yn fwy o broblem nag o hwb i ymgyrch Elin.”

§

Cymrodor , Chwefror 7, 2012 6:14 am

“Gallai hyn fod yn fwy o broblem nag o hwb i ymgyrch Elin.”

Dybl blyff gan Simon er mwyn hybu Leanne?!

§

Jones , Chwefror 7, 2012 9:45 am

Rodd y comment “fisher price” yn hynod siomedig- arfer hoffi Simon. Dim nawr.

dwi’n teimlo bod hyn yn broblem i Elin hefyd – yn y bon, mae Simon nawr yn siarad are rhan ei ymgyrch hi… ydy hynny yn rywbeth i’r groeso?

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.