Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Dyn wedi ei gyhuddo o ymosod yn rhywiol ar ferch 18 oed

Chwefror 6, 2012 13:12


Mae dyn 48 oed wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o ymosod yn rhywiol ar ferch yn ei harddegau, meddai’r heddlu.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig ar y ferch 18 oed yn ystod oriau mân 16 Ionawr yn Stryd York, Abertawe, ar ôl i’r ferch fynd i mewn i’r car a gafodd ei yrru i leoliad tu ôl i siop Argos yn y ddinas.

Cafodd y dyn ei arestio yn ardal Dartford yng Nghaint ar 2 Chwefror ar ôl apêl gan yr heddlu.

Cafodd ei gyhuddo o ddau ymosodiad rhywiol difrifol ac fe ymddangosodd gerbron Llys Ynadon Abertawe ddydd Sadwrn.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron Abertawe yn ddiweddarach.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.