Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Simon Thomas yn amddiffyn cael ei benodi’n ‘ddirprwy’

Chwefror 6, 2012 17:54, Diweddarwyd am 18:05


Simon Thomas
Mae Simon Thomas wedi wfftio honiadau ei fod yn torri cyfansoddiad Plaid Cymru trwy gael ei benodi  yn ddirprwy i Elin Jones yn y ras am arweinyddiaeth y blaid heddiw.

Mynnodd Simon Thomas wrth Golwg 360 y prynhawn yma nad oedd yn torri unrhyw gyfansoddiad, a’i fod yn sicr y bydd yn ymuno ag Elin Jones fel dirprwy arweinydd os yw hi’n cael ei hethol yn arweinydd.

Mae’r cyhoeddiad heddiw fod Simon Thomas yn tynnu allan o’r ras am arweinyddiaeth y blaid er mwyn sefyll gydag Elin Jones fel rhyw fath o ‘docyn dwbwl’ wedi cael ei feirniadu’n llym gan rai.

Cyfansoddiad

Mae’r feirniadaeth yn ymwneud â’r broses o ddewis dirprwy arweinydd, sydd wedi ei nodi yng nghyfansoddiad Plaid Cymru.

Yn ôl Rheolau Sefydlog grŵp y Blaid yn y Cynulliad mae’n rhaid i swyddogion grŵp y Cynulliad gael eu dewis trwy bleidlais gudd gan aelodau’r grŵp.

Mae rhai yn teimlo fod Simon Thomas wedi rhoi’r cart o flaen y ceffyl, felly, wrth ddatgan ei fod yn sefyll fel ‘dirprwy-arweinydd’ i Elin Jones.

Ond gwrthod hyn i gyd wnaeth Simon Thomas wrth siarad â Golwg 360 heddiw.

“Os fydd Elin yn ennill yr arweinyddiaeth, fe fydd hi’n fy enwebu i fel dirprwy, ac wedyn fe fydd aelodau Grŵp Plaid Cymru yn pleidleisio,” meddai.

“Ac mae mwyafrif aelodau’r grŵp yn gwbwl hapus ’da’r tocyn dwbwl yma,” ychwanegodd.

Tîm arweinyddol

Dywedodd Simon Thomas y prynhawn yma fod Elin Jones hefyd wedi cadarnhau y byddai hi’n ei benodi fel rhan o’r tîm arweinyddol petai argymhelliad yr adolygiad ar Blaid Cymru yn cael ei fabwysiadu.

Mae’r argymhelliad, o’r adroddiad a gwblhawyd ddiwedd y llynedd gan Eurfyl ap Gwilym, yn dweud y dylid creu “tîm arweinyddol llai” o blith aelodau Plaid Cymru, fyddai wedi cael ei benodi gan yr arweinydd.

Dywedodd Simon Thomas ei fod wedi cael sicrwydd gan Elin Jones y byddai’n cael ei ddewis yn aelod o’r tîm hwnnw petai hi’n llwyddo i gymryd awenau Plaid Cymru.

Cynnwrf y gystadleuaeth

Mae’r cyhoeddiad heddiw wedi creu cynnwrf newydd yn y gystadleuaeth am arweinyddiaeth Plaid Cymru – gyda’r bwcis yn gorfod altro’u ods yn rheolaidd i adlewyrchu’r diddordeb.

Dywedodd llefarydd ar ran Paddy Power wrth Golwg 360 y prynhawn ’ma fod y ras am yr arweinyddaieth wedi creu llawer o symud ymhlith y ffefrynnau.

“Pan gyhoeddwyd bod Simon Thomas ddim yn rhedeg, daeth llawer o arian i mewn dros Elin Jones,” meddai Marc Webber, o Paddy Power.

Roedd Elin Jones a’i chyd-ymgeisydd, Leanne Wood, ar ods cyfartal o 6/5 tua 1pm.

“Ond yn yr oriau diwetha ma’ lot o arian ’di dod mewn dros Leanne,” meddai.

“Mae’n farchnad fywiog iawn,” meddai Marc Webber.

Mae’r ods gan Paddy Power bellach wedi sefydlogi’r prynhawn ’ma gyda Leanne Wood yn ôl fel ffefryn ar 11/8, Elin Jones ar 13/8, a Dafydd Elis Thomas ar 9/4.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Adam Jones , Chwefror 6, 2012 10:24 pm

Geith e amddiffyn ta faint mafe moyn, mafe’n erbyn y rheolau!

§

Sioni , Chwefror 6, 2012 10:26 pm

“Os fydd Elin yn ennill yr arweinyddiaeth, fe fydd hi’n fy enwebu i fel dirprwy, ac wedyn fe fydd aelodau Grŵp Plaid Cymru yn pleidleisio,” meddai. “Ac mae mwyafrif aelodau’r grŵp yn gwbwl hapus ’da’r tocyn dwbwl yma,” ychwanegodd.

Faint o aelodau cynulliad Plaid Cymru nath gefnogi Simon Thomas yn ei ymgyrch? Dim un. Pwy nath ofyn iddo sefyll yn y lle cyntaf? Doedd dim cefnogaeth ganddo, ond nawr mae’n meddwl galliff e neidio i bwer drwy’r drws cefn.

Dyma’r sut odd hi gyda fi
1. Leanne Wood
2. Elin Jones
3. Dafydd Elis Thomas
4. Simon Thomas.

Ie, hyd yn oed Dafydd El dros Simon. Mae parch gyda fi i Elin Jones. Er taw ail o bell fydde hi i Leanne Wood, bydden i wedi bod yn hapus gyda hi fel arweinydd. Mae’r parch oedd gyda fi ati hi wedi mynd lawr ar ol iddi neud y ‘deal’ ma. Falle oedd dewis anodd gyda hi pan nath Simon fynd ati hi gyda cynnig, ond dyle hi wedi gwneud y penderfyniad caled, y penderfyniad cywir, dim cael ei chlymu mewn i ddewis fe fel dirprwy. Os bydde Simon wedi gwneud y cynnig i Leanne neu Dafydd El, beth fydden nhw wedi dweud? Boi backroom deals yw Simon Thomas, os yw pleidlais i Elin Jones yn bleidlais iddo fe, bydda i’n rhoi #2 i Dafydd El, dim Elin. Trist iawn.

§

Ifor Hughes , Chwefror 6, 2012 10:30 pm

Smo ni moyn Elin na Simon – y naill yn edrych fel athrawes art sy’n flin achos bod rhywun wedi torri’r potters wheel a’r llall gollodd e Geredigion

§

Ifor Hughes , Chwefror 7, 2012 1:24 am

Your not the deputy leader of Plaid you’ll never be the deputy leader of Plaid – go away !

§

Jason Morgan , Chwefror 7, 2012 8:32 am

Dw i’n meddwl bod Elin Jones wedi gwneud cam gwag mawr yma. Tan hyn hi oedd fy newis cyntaf yn ddigon ddiamheuaeth – rwan bydd rhaid i bopeth ddod lawr at yr hystings!

§

BUTTER FINGERS , Chwefror 7, 2012 10:48 am

A ma nhw’n dweud bod gan Elin Jones bar saff o ddwylo

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.