Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Prifysgol Aberystywth yn creu 27 swydd academaidd newydd

Chwefror 7, 2012 13:51



Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi heddiw y byddan nhw’n recriwtio 27 aelod newydd o staff i’r brifysgol yn ystod y misoedd nesaf.

Yn ôl y brifysgol, bydd y swyddi academaidd newydd yma yn cael eu creu ar gyfer pobol ar lefel Darlithydd, Uwch-Ddarlithydd, Darllenydd ac Athro.

Mae disgwyl i’r swyddi, sydd i’w hysbysebu’n swyddogol ddydd Iau, gyfrannu at yr adrannau Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Gwleidyddiaeth Rhyngwladol, Cyfrifiadureg, Hanes a Hanes Cymru, Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Seicoleg, Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, a’r Gyfraith a Throseddeg.

‘Uchelgeisiol’

Yn ôl Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro April McMahon, sydd wedi cynnal adolygiadau mawr ar weithgareddau’r brifysgol ers iddi ddechrau ei swydd yn yr haf y llynedd, mae’r ymgyrch recriwtio staff diweddaraf gyda’r “mwyaf uchelgeisiol a gynhaliwyd gan y brifysgol erioed.”

Mae Prifysgol Aberystwyth yn dathlu ei phenblwydd yn 140 oed eleni, ond yn ôl yr Is-Ganghellor newydd, amser i edrych ymlaen yw’r cyfnod hwn.

“Ein blaenoriaethau yw ehangu a hyrwyddo ein henw da rhyngwladol ar sail ymchwil blaengar amlddisgyblaethol mewn ystod eang o feysydd academaidd, ynghyd â darparu cyfleoedd dysgu ac addysgu o safon byd,” meddai’r Athro April McMahon.

Dywedodd hefyd y byddai’r “27 swydd academiadd yma yn wahoddiad i ymuno â phrifysgol o safon byd, ac ein cynorthwyo ni wrth i ni lunio ein dyfodol.”

Bydd y swyddi newydd hyn yn cael eu hysbysebu’n swyddogol o ddydd Iau, 9 Chwefror, ymlaen.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


meirion , Chwefror 7, 2012 6:22 pm

Faint o rhain fydd yn siarad Cymraeg neu fydd Prifysgol Aber yn parhau fel asiantaeth mewnfudo Season dosbarth cannol ?

§| Nodi camddefnydd

Efrowgr , Chwefror 7, 2012 6:31 pm

Cwestiynau da, Meirion. Mae’r ehangu ‘ma yn rhoi y buddsoddiad bach i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ei gyd-destun trist.

§| Nodi camddefnydd

Benjiman , Chwefror 7, 2012 7:10 pm

Hoffwn i glywed yr ateb i gwestiyn Meirion. Pwynt perthnasol

§| Nodi camddefnydd

Adam Jones , Chwefror 7, 2012 10:29 pm

Clywch Clywch pam nad oes penodiadau Cyfrwng Cymraeg yn cael ei wneud? April MacMahon yn deall ei phrifysgol?

Hmmmmm

§| Nodi camddefnydd

Medwen Scourfield , Chwefror 10, 2012 10:54 pm

Oherwydd bod April MacMahon yn gwybod a deall yn iawn os ydy Prifysgol Aberystwyth yn mynd i oroesi bod rhaid i’r sefydliad wneud llawer gwell yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil sydd ar fin digwydd … a thrwy ddenu ysgolheigion gorau’r byd i Aberystwyth mae gwneud hynny. Mae April MacMahon yn gwneud hyn oherwydd ei bod yn deall Prifysgol Aberystwyth ac yn deall byd Prifysgol.

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.