Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



S4C – ‘torri swyddi i gyflymu’r system’

Chwefror 7, 2012 16:28, Diweddarwyd am 17:44


Mae S4C wedi datgelu y bydd swyddi’n diflannu fel rhan o newidiadau i strwythur comisiynu rhaglenni’r sianel dan arweiniad y Prif Weithredwr newydd, Ian Jones.

Lai na phythefnos ers i Ian Jones gymryd yr awennau, cafodd nodyn ei ddosbarthu i staff y sianel heddiw yn eu hysbysu o’r bwriad i dorri’r grŵp presennol o wyth comisiynydd ac un pennaeth comisiynu, gan olygu colli pedair o swyddi.

Bydd y tîm comisiynu newydd yn cynnwys un Cyfarwyddwr Cynnwys, a phedwar Comisiynydd Cynnwys.

Yn ôl Ian Jones, fe fydd y strwythur newydd yn golygu bod penderfyniadau ar gyfer comisiynu yn cael eu gwneud gan bob Comisiynydd Cynnwys unigol, gyda sêl-bendith y Cyfarwyddwr Cynnwys.

Dywedodd y Prif Weithredwr newydd heddiw y byddai’r system newydd yn golygu bod syniadau’n gallu cael eu gweithredu’n gyflymach nag ydyn nhw dan y drefn bresennol.

Ar hyn o bryd mae penderfyniadau comisiynu yn cael eu gwneud ar y cyd gan yr holl dîm comisiynu.

‘Ymateb i ddisgwyliadau cynulleidfa’

“Bydd y drefn newydd yn galluogi S4C i ymateb yn gyflym i syniadau gan roi ystyriaeth fanwl i ddisgwyliadau ein gwylwyr a defnyddwyr,” meddai Ian Jones.

“Dwi’n edrych ymlaen at gyflwyno strwythur newydd fydd yn hybu creadigrwydd ar draws y maes darlledu a chyfryngau digidol yng Nghymru a thu hwnt.”

Dywedodd mai amcan y strwythur newydd fyddai creu patrwm lle mae “comisiynwyr unigol yn comisiynu cynnwys a gwasanaethau digidol aml-lwyfan.

“Bydd y Cyfarwyddwr Cynnwys a’r unigolion a benodir yn ddolen gyswllt allweddol gyda’r sector gynhyrchu a BBC Cymru ac yn hybu cydweithio ar draws y sector greadigol er mwyn creu cynnwys bydd yn feiddgar ac uchelgeisiol,” meddai.

Mae S4C yn dweud y bydd y swyddi newydd yn cael eu hysbysebu yn fewnol ac yn allanol yn ddiweddarach yn yr wythnos.

Cadarnhaodd S4C hefyd y bydden nhw’n ymgynghori gyda’r unigolion sy’n cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan y newidiadau.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ifor Hughes , Chwefror 7, 2012 4:35 pm

Gobeithio y bydd y ‘genius’ y ‘sgwennodd Vision 2012 yn mynd !
Y ddogfen fwy chwerthynllyd yn hanes darlledu.

§

Jones , Chwefror 7, 2012 7:41 pm

Beth yw pwynt S4C Clirlun, a faint nath o gostio?

§

Ifor Hughes , Chwefror 8, 2012 12:14 am

Dim pwynt i Clirlun

§| Nodi camddefnydd

Richard , Chwefror 8, 2012 2:12 am

‘Does dim angen bwrw bai ar staff presenol S4C am hyn, wnaeth Geraint ac Arwel eu gorau.

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.