Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



John Hardy – colli swydd gyda Wedi 7/Wedi 3

Chwefror 7, 2012 17:59



Y cyflwynydd John Hardy yw’r diweddaraf i glywed na fydd yn rhan o’r rhaglenni cylchgrawn newydd sy’n cymryd lle Wedi 3 a Wedi 7 ym mis Mawrth.

Cadarnhaodd Cadeirydd Gweithredol Tinopolis wrth Golwg 360 y prynhawn yma na fyddai John Hardy yn cyflwyno’r rhaglenni cylchgrawn dyddiol ar ôl 1 Mawrth eleni, wrth i’r cwmni lansio’r rhaglenni ar eu newydd gwedd.

Yn ôl Ron Jones, dim ond y diweddaraf ar y rhestr o gyflwynwyr nad yw S4C yn dymuno eu gweld yn arlwy’r rhaglenni newydd yw John Hardy.

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Tinopolis y byddai’r cyflwynwyr Meinir Gwilym a Gerallt Pennant hefyd yn colli eu gwaith fel rhan o’r newidiadau – ac y byddai swyddfa’r cwmni yng Nghaernarfon yn cau.

“Does dim byd mwy wedi digwydd nag o’r blaen,” meddai Ron Jones wrth Golwg 360 heddiw.

“Doedd John ddim yn un o’r rhai roedd S4C moyn ar y rhestr.”

Cadarnhaodd S4C wrth Golwg 360 y prynhawn ’ma fod trafodaethau wedi cael eu cynnal ynglyn â phwy fyddai’n cyflwyno’r rhaglenni newydd.

“Mae trafod cyflwynwyr yn arferol rhwng S4C a’r cwmni fel rhan o’r broses o gomisiynu,” meddai llefarydd ar ran y Sianel.

“Ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gyflwyno’r tîm newydd yn swyddogol cyn bo’ hir.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Eifion Williams , Chwefror 7, 2012 6:37 pm

Mae hynny yn dreuni, John Hardy yn gyflwynydd gwbwl naturiol a gyfforddus o flaen y camera, fydd yna golled mawr ar ei ol.

§

Llinos , Chwefror 7, 2012 6:37 pm

Gog Hunt!

§

Jones , Chwefror 7, 2012 6:41 pm

BE?
John Hardy oedd cyflwynydd gorau Wedi 3! Roedd banter fo ag Emma werth rhoi S4C ymlaen i.

Teimlo fel bod nhwn cael gwared ar bob Gog ar y teledu!

§

John Vivian Harris , Chwefror 7, 2012 7:17 pm

Bydd hi’n chwith ar ôl Gerallt, Meinir a John Hardy. A hwntw dw i cofiwch!

§

Gwyn, Cwm Taf , Chwefror 8, 2012 9:35 am

Bydd Angie Mair yn cadw’i swydd hi, sbo.

§| Nodi camddefnydd

Ifor Hughes , Chwefror 8, 2012 2:31 pm

O leif wnaeth ‘Angie Mair’ ei rhan yn yr ymgyrch yn erbyn y torridau ‘ma Gwyn Cwm Taf, yn wahnol i nifer fawr iawn sy’n gweithio ym myd teledu !

§

Gwynfor Roberts , Chwefror 12, 2012 6:07 pm

Wedi 3 yn raglan wych, er ma angen newid popeth gydag amser. Mwynhau Emma, Rhodri – JH wedi cal good run… Nawr rho gyfle ir gynhedlaeth nesa

§

Anest matyhews , Chwefror 12, 2012 6:10 pm

Gwd thing

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.