Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



‘Panic’ tros addysg yn lladd syniadau newydd

Chwefror 8, 2012 08:13, Diweddarwyd am 08:16


Y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews
Mae peth o’r ‘panic moesol’ am safonau addysg yng Nghymru yn lladd trafodaeth a syniadau newydd yn hytrach na gwella pethau, meddai arbenigwr yn y maes.

Mae hynny’n cynnwys ymateb brys Llywodraeth Cymru a’r Gweinidog Addysg Leighton Andrews i adroddiad diweddar gan y corff rhyngwladol PISA.

Nid methiant mewn arholiadau academaidd fel TGAU yw’r broblem fawr, meddai’r Athro Gareth Rees, ond y diffyg cyfle i bobol ifanc ddilyn cyrsiau ymarferol, galwedigaethol.

Mae hynny yn ei dro yn cael effaith waeth ar bobol ifanc o gefndiroedd llai breintiedig, meddai mewn erthygl i wefan y Sefydliad Materion Cymreig.

Mae angen edrych yn agored ar ffeithiau, yn ôl yr Athro o Brifysgol Caerdydd a rhan o’r ateb yw cynlluniau llawn dychymyg i ddatblygu cyrsiau gwaith.

Cam-ddeall

Roedd yn awgrymu fod gormod o bwyslais a cham-ddeall ar gymariaethau rhyngwladol heb eu deal yn iawn – er enghraifft tabl rhyngwladol PISA a chymhariaeth rhwng canlyniaidau TGAU Cymru a Lloegr.

  • Dim ond yn ddiweddar y mae llawer o ysgolion Cymru wedi ymuno gyda chynllun PISA, meddai, ac roedd yr arholiadau hynny’n mesur pethau gwahanol i’r hyn sy’n cael ei bwysleisio gan gyrsiau TGAU.
  • Roedd yr ystadegau am ganlyniadau TGAU yn cynnwys cyrsiau gwaith – llwyddiant Lloegr yn y rheiny oedd yn cyfri’ am yr holl wahaniaeth rhwng y ddwy wlad.

“Does dim dadl fod angen gwella’n sylweddol ar berfformiad addysg Cymru,” meddai Gareth Rees. “Ond y peryg ar hyn o bryd yw fod dehonglaidau simplistig o PISA a meini prawf allanol eraill yn lladd trafodaeth, yn hytrach nag agor ffyrdd newydd o ddatblygu addysg.”

Fe fydd yr Athro Rees yn cymryd rhan mewn cynhadledd sy’n cael ei threfnu gan y Sefydliad ar 21 Chwefror i drafod y pwnc.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.