
Mae corff dyn gafodd ei ddarganfod ar draeth yn Ne Lloegr wedi cael ei adnabod fel dyn 60 oed o Abertawe.
Fe gadarnhaodd Heddlu Hampshire heddiw mai corff Eric Williams o Ffordd Dillwyn, Sgeti y cafwyd hyd iddo ar y traeth ger Ynys Hayling yn Hampshire ar Ddydd Calan.
Dywed yr heddlu nad ydyn nhw’n trin ei farwolaeth fel un amheus.
Dywedodd Heddlu De Cymru heddiw nad oedd unrhyw adroddiadau bod Eric Williams ar goll.
Credir bod ei gorff wedi bod yn y môr am hyd at wythnos.
Mae ei deulu wedi cael gwybod am ei farwolaeth ac mae’r crwner wedi ei hysbysu.