Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Y Drindod Dewi Sant yn helpu i achub Canolfan

Chwefror 9, 2012 07:54


Cuddfan adar yn y Ganolfan Technoleg Amgen
Mae Prifysgol y Drindod Dewi Sant wedi camu i’r bwlch i helpu achub y Ganolfan Technoleg Amgen ger Machynlleth.

Fe gyhoeddodd y ddau gorff heddiw eu bod wedi ffurfio partneriaeth gydweithredol newydd ym maes addysg amgylcheddol.

Mae Golwg360 yn deall bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn allweddol wrth weithio gydag Ymddiriedolwyr y Ganolfan i gael ateb i’w phroblemau ariannol.

O dan y cytundeb, fe fydd WISE, adain addysgol y Ganolfan, yn cydweithio gydag uned o’r enw INSPIRE a gafodd ei lansio’r mis diwetha’ ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Mae’r ddau gorff yn cynnig graddau ym maes cynaliadwyedd ond maen nhw hefyd yn dweud eu bod am gyflwyno gwybodaeth a syniadau gwyrdd i’w holl fyfyrwyr.

Colli rhywfaint o swyddi?

Roedd yna gyfarfod o staff y Ganolfan Technoleg Amgen ym Mhantperthog ddoe pan gafodd tua 120 o weithwyr glywed am y cynllun Newydd.

Ond roedd yna rybudd hefyd y bydd angen ad-drefnu ac fe allai hynny olygu colli rhywfaint o swyddi. Roedd y newyddion ar led ers tro bod y Ganolfan yn wynebu problemau ariannol, yn rhannol yn sgil datblygu WISE, Sefydliad Cymru ar Gyfer Addysg Gynaliadwy.

Yr wythnos ddiwetha’, roedd rhai o benaethiaid y Ganolfan a chynrychiolwyr o rai o brifysgolion Cymru wedi cael eu gweld yn adeilad Llywodraeth y Cynulliad yn Aberystwyth.

Mae’n ymddangos mai’r Drindod Dewi Sant a gafodd eu dewis ar gyfer y bartneriaeth – mae’r brifysgol newydd hefyd yn paratoi i uno gyda Phrifysgol Fetropolitan Abertawe a Phrifysgol Cymru.

Ymateb y ddau gorff

Dyma’r dyfyniadau a ddaeth gyda’r datganiad yn cyhoeddi’r bartneriaeth newydd.

Meddai’r Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: “Rwy’n falch fod y Ganolfan Technoleg Amgen wedi dewis ymuno mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae gennym uchelgais ar gyfer ein myfyrwyr ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda phob sector i gefnogi’r agenda cynaliadwyedd yn frwd.

“Bydd y bartneriaeth hon yn ein galluogi i gyfoethogi profiadau dysgu ein myfyrwyr a darparu cyfleoedd newydd ar gyfer ymchwil a datblygu. Edrychaf ymlaen at y dydd y bydd Graddedigion y Ganolfan Dechnoleg Amgen yn raddedigion i ni hefyd.

Meddai Dr Iolo ap Gwynn, Cadeirydd Ymddiriedolwyr elusen y Ganolfan Technoleg Amgen: “Mae Ymddiriedolwyr y Ganolfan yn croesawu’r datblygiad hwn gan y bydd yn datblygu ymhellach genhadaeth addysgol benodol yr elusen, mewn cydweithrediad agos â phobl o’r un bryd â ni. Bydd sylfaen ehangach o lawer ar gael, fel y gallwn barhau i ddatblygu cyrsiau ac ymchwil archwiliadol ar raddfa eang ac ar bob lefel.

“Bydd y Ganolfan yn parhau i archwilio llwybrau newydd i geisio sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy i’n planed. O ganlyniad i’r datblygiad hwn, edrychwn ymlaen at gyfnod llawer mwy bywiog ac ysgogol i’r sefydliad.”

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.