Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Plaid: Dim ond tri ymgeisydd yn y ras yn ‘broblem i Dafydd El’

Chwefror 9, 2012 10:59, Diweddarwyd am 16:06


Dafydd Elis-Thomas
Mae’r ffaith mai dim ond tri ymgeisydd sydd yn y ras am arweinyddiaeth Plaid Cymru  erbyn hyn yn mynd i achosi “problem” i un o’r ymgeiswyr, yn ôl un sylwebydd gwleidyddol.

Wrth gyfeirio at yr ymgeisydd Dafydd Elis-Thomas dywedodd Gareth Hughes:  “Dw i yn meddwl ei fod yn dipyn o broblem iddo fo bod Simon Thomas wedi tynnu nôl. Mwya’n y byd oedd yn y cae, gorau i gyd oedd iddo fo  gael ail bleidlais. Nawr mae’r cae wedi cael ei gyfyngu dipyn a dydy o ddim o fantais iddo fo, dw i ddim yn credu,” meddai.

Yn ôl Gareth Hughes mae’r gwleidydd profiadol yn gobeithio ennill pleidleisiau fel yr ail ddewis gan fod y system i ethol arweinydd newydd Plaid Cymru yn system bleidlais amgen drosglwyddadwy – AV. Mae hyn yn golygu fod yr aelodau yn rhifo’r ymgeiswyr mewn trefn gan roi eu ffefryn yn gyntaf.

Ond dydy Gareth Hughes ddim yn credu bod hyn yn golygu na allai Dafydd Elis-Thomas gipio’r awenau.

Annibyniaeth

Wrth drafod annibyniaeth mae’r newyddiadurwr gwleidyddol yn dweud bod gan yr ymgeiswyr safbwynt gwahanol ar y pwnc.

“Mae Dafydd Elis-Thomas yn gyson. Dydy o ddim yn meddwl bod annibyniaeth yn bosib ac mae o wedi bod yn sôn am bethau fel ein bod ni yn rhan o Ewrop, bod Cymru yn wahanol i Loegr. Mae o yn mynd yn ôl i’r Canol Oesoedd weithiau i gyfiawnhau ei ddadl. A dyna ei safiad o dros y blynyddoedd.

“Wrth gwrs, mae Elin a Leanne yn dweud mai annibyniaeth ydy  nod Plaid Cymru. Mae nhw wedi gwneud hynny yn blwmp ac yn blaen. Mae Elin, yn ei hymgyrch, wedi dweud os ydach chi yn ethol dwy Lywodraeth Plaid Cymru, ar ôl hynny fe ddylai fod  refferendwm ar annibyniaeth, ac mae Leanne hefyd wedi dweud dylen ni gael annibyniaeth. Ond mae hi’n dweud bod yn rhaid i Gymru fod yn fwy hunangynhaliol.”

‘Nod y blaid’

Er ei fod yn cydnabod mai dim ond traean o gefnogwyr Plaid Cymru, a gafodd eu holi ar gyfer arolwg barn diweddar YouGov ar gyfer ITV, sydd eisiau annibyniaeth, mae’n dweud mai dyma yw nod y blaid.

“Yn y pendraw mae’n debyg mai dyna nod eu plaid nhw, mae o yn rhan o’r cyfansoddiad. Mae’n anodd iawn i unrhyw un arwain y blaid a ddim fod yn cydweld â’r nod sydd gan y blaid ei hun yn y pendraw.”

‘Gwleidydd deallus’

Ond mae’n teimlo fod sylwadau Dafydd Elis-Thomas ynghylch y pwnc yn rhai craff.

“Dw i’n meddwl bod Dafydd El yn dangos mewn un ystyr ei fod o’n wleidydd deallus, ac  sy’n deall na fedrwch chi redeg yn rhy bell o flaen beth mae’r boblogaeth ei hun eisiau.

“Mae yna ddau fath o wleidydd.  Mae yna wleidydd sydd yn dweud yr un fath â’r hyn mae Alex Salmond yn ei ddweud.  Dyma be ydan ni eisiau, dyma be ydan ni am wneud, rydan ni am greu y ddadl er mwyn i bobl yn y pendraw ein dilyn ni.

“Ac wedyn mae yna wleidydd fel Dafydd El sy’n cydnabod mai dyma beth mae pobl eisiau, dim pwynt  i ni fynd yn rhy bell o be mae pobl eisiau, mae hynny yn mynd i greu rhwyg rhwng gwleidyddion a’r cyhoedd a dydy hynny ddim yn beth iach i ddemocratiaeth.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Iwan Rhys , Chwefror 9, 2012 11:30 am

Cytuno â’r pwynt gwreiddiol bod ymadawiad Simon Thomas yn rhoi chydig o dolc yng ngobeithion DET, ac yntau (DET) wedi bod yn annog pobl i roi eu hail-bleidleisio iddo fe. Dwi’n rhagweld mai DET fydd yn drydydd ar ol y rownd gyntaf, felly ni fydd ail bleidleisiau yn helpu ddim ar DET wedyn.

Ond wedi dweud hynny, dwi ddim yn rhoi llawer o sylw i sylwebaeth wleidyddol Gareth Hughes. O ran ei sylwad ‘Mae Dafydd Elis-Thomas yn gyson.’ Hawdd iawn yw dod o hyd i res o ddyfyniadau gan DET dros y 5 mlynedd diwethaf ar bwnc annibyniaeth lle mae e’n gwrthddweud ei hun.

A chofier mai Gareth Hughes ddwedodd mewn stori ar Golwg360 rai wythnosau yn ol nad yw Leanne Wood yn siarad Cymraeg. Sgwn i oedd Mr Hughes yn gwylio S4C rhwng 9:30 a 10pm neithiwr? Byddai wedi cael sioc, mae’n debyg!

Fel sydd wedi’i awgrymu o’r blaen, naill ai mai Gareth Hughes yn llai gwybodus am wleidyddiaeth Cymru nag y byddai rhywun yn disgwyl gan ‘sylwebydd profiadol’, neu mae’n mynd ati’n fwriadol i gamarwain pobl.

§| Nodi camddefnydd

Jones , Chwefror 9, 2012 11:49 am

Do nes i weld CF99 ddoe, chwarae teg i Leanne – wedi bod yn ddewr gwneud hynny!

Ond blydi hel!, odd Daf El yn ofnadwy o flin hefo Elin – rwbath wedi digwydd!?

§

Ifor Hughes , Chwefror 9, 2012 2:38 pm

Blydi hell ofnadwy o ddewr o hynod hynod hynod ffol – fedrai ddim pledleisio i Leanne ar ol iddi gerdded mewn i’r mantrap yna. Doedd ei Chymraeg hi ddim yn ddigon da .

§| Nodi camddefnydd

Barry , Chwefror 9, 2012 4:06 pm

“Wrth gwrs, mae Elin a Leanne yn dweud mai annibyniaeth ydy nod Plaid Cymru.”

Anghywir. Dywed cyfansoddiad y Blaid mai annibyniaeth yw nod y Blaid.

§

Iwan Rhys , Chwefror 9, 2012 4:16 pm

Cyfansoddiad Plaid Cymru: Annibyniaeth i Gymru
Leanne ac Elin: Annibyniaeth i Gymru
DET: ol-genedlaetholdeb/datganoli pellach yn Ewrop/ffydj

Cyfansoddiad Plaid Cymru: Dim ynni niwclear
Leanne ac Elin: Dim ynni niwclear
Dafydd El: Cefnogi dau atomfa newydd yng Nghymru/ofn colli Môn.

Ydy Dafydd Elis-Thomas wedi drysu ynghylch pa blaid y mae eisiau ei harwain?!

Peryglus iawn fyddai ethol arweinydd sydd yn amlwg mor barod i fynd yn groes i bolisiau’r Blaid sydd wedi’u llunio’n ddemocrataidd gan yr aelodau.

§

CGT , Chwefror 9, 2012 5:15 pm

Os felly, sut ar wyneb ddaear y bu Ieuan Wyn Jones yn arweinydd am gyhyd ?

§

Iwan Rhys , Chwefror 9, 2012 5:59 pm

O leia roedd IWJ yn dweud yn glir mai dyma oedd polisi’r Blaid, a dyma oedd ei farn bersonol e. Mae DET yn siarad fel mai ei farn e yw’r polisi, a dyna ni. Sylwer ar y modd y mae’n torri ar draws Elin Jones wrth drafod niwclear.

§| Nodi camddefnydd

Benjiman , Chwefror 9, 2012 6:37 pm

Amser i ddwy blaid Cymraeg?

§

Siôn Eurfyl Jones , Chwefror 9, 2012 8:27 pm

Cytuno ‘da gareth huws fod DET yn gyson iawn – mae e bob tro yn gwneud beth sydd orau iddo fe ei hunan.

Ifor – “fedrai ddim pledleisio i Leanne ar ol iddi gerdded mewn i’r mantrap yna”

Os wyt am farnu leanne am fod yn anghyfforddus yn y Gymraeg – dylet wneud yn siwr dy fod ddim wedyn yn defnyddion geirau seisnig yn dy osodiad. Hefyd. rhaid i ti dderbyn os ydy’r Blaid o ddifrif am enill grym ac anibyniaeth i Gymru, nid bobol fel Elin na SET fydd yn darbwyllo pleidleiswyr y cymoedd a’r gogledd ddwyrain – dim on Leanne all gwneud hynny.

Efallai fod parhau fel rhyw grwp brotest di- uchelgais, mewn ghetto Cymraeg ei hiaith yn ddigon i ti a rhai bobol eraill, ond ‘rwy i yn teimlo fod mwyafrif aelodau’r blaid – gan gynwwys mwyafrif y 1500 aelod newydd – am weld gwell i’n plant, a na pham y byddwn yn pleidleiso dros Leanne.

§| Nodi camddefnydd

Crebwyll , Chwefror 9, 2012 11:49 pm

Mae Leanne yn amlwg yn risg. Ond mae’r ddau arall, heb fod yn ddifriol o’u doniau o gwbl, yn golygu apél etholiadol gyfyngedig, arhosiad yn yr unfan, ac yn y diwedd ddifodiant neu ymdoddiad. Os yw’r aelodaeth o’r farn fod jobyn o waith gan y Blaid i’w gwneud o hyd does ond un dewis – Leanne.

§| Nodi camddefnydd

twrch , Chwefror 10, 2012 9:52 am

Es i i’r hystings neithiwr

Roedd Dafydd El yn rhy hen rili ac yn trin y peth fel rhyw gyfle am standup

Roedd Elin Jones yn dda iawn, yn impressive, ond yn ddeallusol ac heb y ‘common touch’

Roedd Leanne Wood yn medru ysbrydoli’n dda ac yn siarad a angerdd ond yn dal yn swnio chydig bach yn ‘form five’

Doedd dim un ohonnyn nhw’n angerddol iawn dros yr iaith gymraeg a dwi ddim yn credu fod dim un o’r ymgeiswyr yma yn mynd i arwain y blaid at fuddugoliaeth ysgubol – nawr pe bydde modd cywasgu Elin a leanne mewn i un person

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.