Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Comisiynydd Heddlu’r De: Simon Weston i sefyll

Chwefror 9, 2012 13:17, Diweddarwyd am 20:21

 


Simon Weston
Mae’r cyn filwr Simon Weston wedi datgelu heddiw y bydd e’n herio cyn-Weinidog Cymru Alun Michael yn yr etholiad ar gyfer Comisiynydd Heddlu newydd De Cymru.

Wrth gyhoeddi ei fwriad i sefyll heddiw, dywedodd Simon Weston, 50, fod angen i mwy o bobol roi eu henwau ymlaen i sefyll yn  yr etholiad ar 15 Tachwedd, er mwyn atal “gwleidyddion oedrannus” rhag cymryd yr holl swyddi.

“Pam ddylai gwleidyddion fod â monopoli dros y swyddi?” gofynodd y Simon Weston, sy’n dad i dri o blant, heddiw.

“Mae ‘na gymaint o bobol talentog  sydd heb gael cyfle i wneud eu rhan eto. Dwi’n mynd i sefyll fel ymgeisydd annibynnol gan fy mod i’n credu y galla’ i wneud cyfraniad a dod â rhywbeth gwahanol at y bwrdd.”

Cafodd Simon Weston ei losgi’n ddifrifol mewn ymosodiad bom yn ystod Rhyfel y Falklands ym Mehefin 1982.

Rol y Comisiynwyr

Bydd bob un o heddluoedd Cymru a Lloegr, heblaw Llundain, â Chomisiynydd Heddlu eu hunain erbyn diwedd y flwyddyn. Bydd y Comisiynwyr hyn â’r grym i gyflogi a diswyddo prif gwnstablau, a goruchwylio cyllidebau’r heddlu, ond fyddan nhw ddim yn gyfrifol am gynnal y gwasanaeth o ddydd i ddydd.

Ffrwyth cynlluniau’r Ceidwadwyr yw’r swyddi newydd hyn, gyda chyflog o £85,000 y flwyddyn, ac mae sawl un amlwg wedi awgrymu diddordeb yn y swydd.

Mae dau enw eisoes wedi eu crybwyll ar gyfer swydd Comisiynydd Heddlu Gogledd Cymru, ac un ohonyn nhw’n fab i Alun Michael.

Dydi Elfyn Llwyd AS ddim wedi cadarnhau a fydd yn sefyll am y swydd eto, ond mae Tal Michael eisoes wedi ymddiswyddo o’i rôl fel Prif-Weithredwr Awdurdod Heddlu’r Gogledd er mwyn  sefyll yn yr etholiad am y swydd.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Mali , Chwefror 9, 2012 2:02 pm

Gwych! Pob lwc i Simon

§| Nodi camddefnydd

John Griffith , Chwefror 9, 2012 6:21 pm

Da iawn fo!

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.