Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Symudwch S4C o Gaerdydd

Chwefror 10, 2012 16:00


Keith Davies
 Mae Aelod Cynulliad Llanelli wedi galw am symud S4C i’r broydd Cymraeg heddiw, a dilyn esiampl teledu Gaeleg Iwerddon.

 Yn Iwerddon, meddai Keith Davies AC, mae swyddfeydd teledu Gaeleg Iwerddon wedi eu lleoli yn y gymuned – ac mae’n dweud mai dyna sydd ei angen ar S4C.

Daw ei sylwadau yn sgîl y newyddion fod cwmni teledu Tinopolis yn cael gwared ar 30 o weithwyr yn eu prif swyddfa yn Llanelli, ac wyth arall wrth iddyn nhw gau eu swyddfa yng Nghaernarfon.

Mae’r cyn-Weinidog Diwylliant Alun Ffred Jones eisoes wedi dweud mai symud swyddi teledu o Gaerdydd i’r Gorllewin sydd angen, ac mae Aelod Cynulliad Llanelli yn cytuno.

 “Mae angen i ni edrych ar model Iwerddon,” meddai Keith Davies.

 “Mae pencadlys y teledu Gaeleg mas mewn pentre’ yn y gorllewin lle mae’r mwyafrif yn siarad yr iaith… mewn pentre’ cofiwch.” 

Trwy symud S4C i’r fro Gymraeg fe fyddai swyddi’n cael eu creu ar gyfer y Cymry yn eu cymunedau eu hunain, yn ôl Keith Davies.

“Mae’r Cynulliad wedi gwneud hynny’n barod,” meddai, “Mae ganddon ni swyddfeydd yn Aberyswyth, Llandudno a Merthyr… nawr beth am S4C?“Mae Ian Jones wedi dweud nad yw e’n erbyn rhannu swyddfeydd gyda’r BBC, wel na fydde hi’n well eu symud nhw i’r gorllewin, neu’r gogledd?”

 “Mae’n rhaid cael swyddi, mae swyddi’n allweddol i gadw’r Cymry Cymraeg yn yr ardaloedd lle mae’r Gymraeg,” ychwanegodd.

 Yn ôl Keith Davies, mae hyn yn arbennig o wir yn Llanelli, lle mae’r toriadau diweddaraf sydd wedi eu cyhoeddi yn Tinopolis – fydd hefyd yn effeithio ar ei wraig ef sy’n gweithio i’r cwmni– yn ergyd pellach i ardal lle mae 8.4% o’r boblogaeth eisoes ar y clwt.

 “Mae Llanelli £42 yr wythnos tu ôl i’r cyflog wythnosol cyfartaledd yng Nghymru, ac £85 tu ôl i’r cyflog wythnosol cyfartaledd ym Mhrydain.

 “Dyna’r sefyllfa yr ydym ni ynddo cyn i ni hyd yn oed sôn am golli’r swyddi hyn yn Tinopolis,” meddai.

 Mae Tinopolis yn dweud fod ganddyn nhw 103 o staff yn gweithio ar Wedi 3 a Wedi 7 ar hyn o bryd, ond maen nhw’n dweud bod y gyllideb yn y cytundeb newydd yn golygu bydd yn rhaid torri’r nifer yna i lawr i 65.

 Ond mae S4C yn mynnu mai penderfyniad Tinopolis yw sut i wario’r £7.8 miliwn ar gyfer y rhaglenni newydd dros y ddwy flynedd nesaf.

 

Catrin Hâf Jones

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Gwilym Prydderch , Chwefror 10, 2012 4:11 pm

Clywch, clywch. Mae pencadlys TG4 ym mhen pella Conemara. Oni fasa S4C yn arbed ffortiwn mewn rhenti ac yn y blaen yn rhywle fel Aberaeron, Aberystwyth neu Gaernarfon?

§

Jones , Chwefror 10, 2012 4:24 pm

Cytuno.

§

Llinos , Chwefror 10, 2012 4:28 pm

Cytuno’n llwyr!

§

Ifor Hughes , Chwefror 10, 2012 7:21 pm

Plaid Cymru – ble i chi !

Hen bryd symud S4C i Gaernarfon i gadw’r dre Gymraeg honno yn eitha llewyrchus AC hefyd i dorri’r drwg mas o’r caws sef y gwrthdaro enfawr rhwng gwerthoedd dinesig pobl fel Iona Jones a’r criw yna yn y tim comisiynu wnaeth hi benodi ( nifer ohonynt gan gynnyws Rowlands dal yna) a gwerthoedd a ffordd o ymddwyn y gwylwyr ar bobl hynny sy’n cynhyrchu a chyfrannu i raglenni Cymraeg. Wnaeth S4C yng Nghaerdydd ddatblygu yn ‘enclave’ o Notting Hill neu Camden yng Nghymru ac nawr ma’r cyfan wedi implodio.

Symud i Gaernarfon a gweithio yn agosach gyda chyrff Cymreig eraill fel y Cyngor Llyfrau a chyrff addysg fel gall peth weithio ar draws sawl ‘platform’.

§

cris , Chwefror 10, 2012 8:17 pm

Does/ doedd fawr neb o staff cynhyrchu Tinopolis yn byw yn Llanelli. Rhan fwyaf yn teithio o Gaerdydd pbo dydd.

§| Nodi camddefnydd

Llew , Chwefror 10, 2012 8:27 pm

Clywch clywch Mr Keith Davies!

§

DC , Chwefror 10, 2012 9:03 pm

Peidiwch a chael eich twyllo hogie. Ydach chi o ddifri isio’r math o wasanaeth sydd gan siaradwyr Gaeleg Iwerddon? Dyma, yn fy nhyb i, ydi’r agenda y mae Keith Davies yn ei wthio go iawn. Os ydi S4C yn symud o Gaerdydd – ddim yn ddrwg o beth o ran egwyddor – mae’n rhaid iddo fod mewn lle a sefyllfa i allu darparu gwasanaeth cenedlaethol, a chael – a dyma’r pwynt sylfaenol – y cyllid i wneud hynny hefyd. Ychydig iawn o bres sydd ei angen i ddarparu gwasanaeth lleiafrifol i ryw bethau dibwys yn y gorllewin.

§| Nodi camddefnydd

Gareth Williams , Chwefror 10, 2012 10:00 pm

Balch o weld fod Keith Davies yn cytuno gydag Alun Ffred Jones Plaid Cymru.

§

Ifor Hughes , Chwefror 10, 2012 10:46 pm

cris ti wrong ambell i berson ‘high profile’ yn byw yng Nghaerdydd ond y mwyafrif llethol yn byw yn local – anyway trafod Caernarfon i ni nawr.

§

Ifor Hughes , Chwefror 10, 2012 10:49 pm

DC bydde’r arian yn mynd ym mhellach yng Nghaernarfon i gael gwasanaeth cenedlathol ! Ac hefyd criw Caerdydd wnaeth presided dros golli’r arian ! Doedd neb yn licio nhw hyd yn oed yn ei beloved Lloegr!

§

DC , Chwefror 11, 2012 8:59 am

Cytuno’n llwyr Ifor. Isio tynnu sylw at y defnydd posib o syniad da at bwrpasau arall oeddwn i.

§

cris , Chwefror 11, 2012 9:28 am

Dwi ddim yn rong Ifor.

§

Rhiwlyg , Chwefror 11, 2012 9:43 am

Atgoffwch fi pwy yw gwraig Keith Davies ac i ba gwmni teledu mae hi’n gweithio.

§

Sbardun , Chwefror 11, 2012 9:44 am

Jyst cofiwch llanast Barcud – bai s4c neu’r gogs yn prynu cwmniau dramor bob man?

§

gweriniaethwr , Chwefror 11, 2012 11:08 am

“a dilyn esiampl teledu Gaeleg Iwerddon”

Pa ddiawl iaith yw ‘Gaeleg’ ???

‘Gwyddeleg’ yw iaith Iwerddon – c’mon Golwg360, alle chi o leiaf cael y ffeithiau yn iawn …

§

Martin Wilias , Chwefror 11, 2012 11:08 am

Cynigiaf y stori (Cymru decach- nid gwrth-Caerdydd) ganlynol i golwg360:
Sut ar wyneb y ddaear y mae cyfiawnhau y ffaith y bydd pencadlys y Comisiynydd Iaith yng Nghaerdydd? Pwy yn union sy’n gyfrifol am y penderfyniad? A yw Meri Huws yn gwbl hapus hefo’r penderfynaid?
Beth yw barn mwyafrif aelodau Plaid Cymru (y blaid sy’n honni ei bod yn malio am y pethau yma)?
Faint o staff Meri Huws fydd yn gweithio y tu allan i Gaerdydd?
A fydd mwyafrif staff MH yn gweithio yn y brifddinas? Ynfydrwydd. Lol Caerdydd-centric.
Eisiau cwyno ynglyn a’r ffaith fod pencadlys S4C yng Nghaerdydd? Ffoniwch Gwifren Gwylwyr S4C- 08706004141

§

Martin Wilias , Chwefror 11, 2012 12:30 pm

Neges i Lywodraeth Cymru GYFAN:
Lleoliad y swyddi. Caerdydd ar y top o ran nifer yn fan hyn:
http://www.swyddi360.com/index.php?cat=1
Brwydr barhaus…

§

Ifor Hughes , Chwefror 11, 2012 3:36 pm

Rhiwlyg – yr idiot, ma Keith Davies yn deud yn yr erthygl ei hun i ba gwmni ma ei wraig ein gweithio smo fe’n trio cuddio hynny !

A sut ma hynny yn effeithio ar y ddadl i symud S4C o Gaerdydd a’r ffefryn hyd yn hyn yw Caernarfon?

§

Ifor Hughes , Chwefror 11, 2012 3:40 pm

Gwerinaethwyr

Ma y ddau derm yn gywir Gwyddeleg a Gaeleg – dwi wedi clywed Gwyddelod yn defnyddio y ddau ganwaith.

§

Ifor Hughes , Chwefror 11, 2012 3:46 pm

Beth am i rywun o Gaernarfon greu petition i’r Cynulliad yn gofyn i ‘r Llywodraeth “Gynnig pob cymorth ymarferol ac ariannol i symud S4C o Gaerdydd i Gaernarfon ?”

Beth am i ti wneud Martin ? Saeseng a Chymraeg cywir da ti.

Ma’r modd creu y petitions yma online drwy wefan y Cynulliad.

A gyda llaw dwi’n gwynod taw nid y Cynulliad sy’n tallu am ddarlledu ond fedran nhw helpu i greu swyddi mewn ardal di-freintiedig drwy godi adeilad pwrpasol ayyb .

Beth am i Dyfed Edwards o Blaid Cymru wneud hyn – fedwrn ni gael milloedd i arwyddo .

§

Ifor Hughes , Chwefror 11, 2012 4:09 pm

“Ond mae S4C yn mynnu mai penderfyniad Tinopolis yw sut i wario’r £7.8 miliwn ar gyfer y rhaglenni newydd dros y ddwy flynedd nesaf”.

Ie, ond penderfyniad S4C oedd torri’r gyllideb 65% o gymharu a’r hen budget oherwydd y torridau o Lundain HEB gymryd dim o’r boen ei hunain a chynnig payoff i Iona Jones o dros £300 000 !

Ond wedi’r cynfan ma angen yr arian ar bobl Gaerdydd achos ma sun dried tomatoes a chianti mor ddrud ddyddie ma!

O wario yr arian yng Nghaernarfon neu Lanelli bydde’r arian yn mynd ar Pot Noodle & Felinfoel a beth wnele ffermwyr Italy wedyn ?

Triple gins all round .

Cofiwch taw diffyg charisma ac anallu Ms Iona a’i chriw i siarad yn gall gyda’r DCMS sydd wrth wraidd y broblem yma. Diddorol fydde gweld sawl diwirnod o ‘sick leave’ ma staff S4C yn ei gymryd bob mis a chymharu hynny gyda staff Cwmni Da yng Nghaernarfon neu’r crowd yna’n Llanelli.

§

Dai , Chwefror 11, 2012 4:27 pm

Ha ha…mae gwraig Keith Davies yn gweithio i Tinopolis…..’sdim syndod felly ei fod am symud S4C i Laanelli!!

§

gweriniaethwr , Chwefror 11, 2012 4:48 pm

@Ifor – Ma’n flin gyda fi, ond Gwyddeleg yw iaith Iwerddon – dyle fi wybod, wi’n Gwyddel fy hun!

Gaeleg yw iaith yr Alban

§

Adam Jones , Chwefror 11, 2012 5:57 pm

A phob parch dwi ddim yn gweld byddai Caernarfon yn lle delfrydol o gwbwl, byddai’n eithrio pobol y de yn llwyr, byddai rhywle canolog megis Aberystwyth yn ddelfrydol, neu cael adrannau o S4C yng Nghaerfyrddin, Aberystwyth a Chaernarfon fel bod na groes-doriad draws Gymru gyfan.

Mae Caernarfon dal i fod yn gadarnle cryf i’r iaith beth am ardaloedd fel Dyffryn Aman, Cwm Ystwyth, Dolgellau, Caerfyrddin, Caergybi? Sydd yn colli’i hiaith yn sydyn?

Yr ardaloedd hyn mae angen canolbwyntio arno nid Caernarfon.

§

losin , Chwefror 11, 2012 6:11 pm

@Chris – ti wedi cael dy niferoedd yn anghywir fanna Chris. Mae mwyafrif o staff Tinopolis yn byw yn ochre’r gorllewin neu Abertawe.Bach iawn sy’n teithio nol a mlaen o Gaerdydd.

Rhowch S4C i’r BBC er mwyn Duw! Yn gyfangwbwl.Mae’r sefyllfa blaenorol/presenol ond yn profi na alle nhw drefnu pi$$ up mewn bragdy heb son am rhedeg Sianel deledu Cenedlaethol. Mae gan y BBC swyddfeydd ar draws Cymru, sy’n cadw eu presenoldeb yn y cymunedoedd. Pencadlys S4C yng Nghaerdydd gyda staff hefyd wedi gwasagari ar draws Cymru yw’r ffordd ymlaen.

§

Crebwyll , Chwefror 11, 2012 7:30 pm

Anghytuno. Mae ystyriaethau strategol pwysig yn y fan hon. Nid mater o pwy sy’n cael eu ffafrio yw hi bellach mae gen i ofn. Mae Caernarfon yn allweddol ar gyfer sicrhau nad oes dirywiad pellach yng Ngwynedd. Gwaetha’r modd Adam mae rhai o’r lleoedd rwyt ti yn eu henwi wedi gweld colli’r dydd yn barod o ran defnyddio’r Gymraeg bob dydd.

§

Jones , Chwefror 11, 2012 9:05 pm

Adam – nid ddadl Cymdeithas yw i achub yr “cadarnleoedd” yma? Os felly – fysa fon syniad agor o yn g’fon cyn i’r iaith dirywio?

§

Rhys Gethin , Chwefror 11, 2012 10:53 pm

Adam – ond beth am y canoli sy’n digwydd yng Nghaerdydd ers blynyddoedd lawer bellach ac sydd yn eithrio pobl y Gogledd yn llwyr? Mae angen amddiffyn yr iaith yn ei chynefin naturiol trwy gynnig ystod eang o swyddi.

§

eirwen haf , Chwefror 11, 2012 11:17 pm

Teimlo bod y rhagfarn am Gaerdydd yn droedig! Symudais i o Gwm Gwendraeth i weithio ma ac ar gyflog yn y cyfryngau sy ymhell o fod yn ddigon bras i brynu Chianti rownd y ril! Cyfanswm bach iawn iawn o gyfryngis sy’n cael cyflogau mawr. Dwi wedi gweithio i’r 3 prif ddarlledwr yng Nghymru ac ma cyflogau’r ‘pobol bach’ ar y llawr yn bitw! Ma angen gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg trwy Gymru gyfan! Sut ma symud i Gaernarfon yn mynd i helpu holl bobol Cymru?

§

Crebwyll , Chwefror 11, 2012 11:36 pm

Trwy helpu orau i gadw’r gunulleidfa graidd i ddal i fedru’r iaith ac felly ddiogelu swyddi hefyd y rhai sy’n gweithio ym myd darlledu Cymraeg.

§

Jones , Chwefror 11, 2012 11:50 pm

eirwen- bysa dy gyflog yn myn LOT pellach yn g’fon na g’dydd.

Ac y teimlad yw, pe bai S4C wedi leoli “yn y fro” fe fysa nhwn gwybod y rhaglenni mae pobl yn ei eisiau- nid y sh*t sydd ar y fo ar y funud. Hefyd, fe fysa cael o i ffwrdd o g’dydd yn gneud yn siwr mai pobl ymysg “y fro” fydd yn cael y swyddi – nid rhai sydd yn byw yn y ddinas, syn cogio bod nhwn llundain, a cogio bod nwn ryw ‘big wigs’.

O ran ochr yr economi- fe fysa symud S4C yn hwb anferthol i g’fon, sydd bellach wedi colli lot o swyddi Llywodraeth Cymru i Landudno.

Ac yn olaf, dwin teimlo bod gormod yn mynd i g’dydd – maen amser i Abertawe cael BBC Wales, Swyddfa’r Comisiynydd i Aberystwyth, S4C i G’narfon ayyb.
Nathoni ddim pleidleisio am ddatganoli i gael ryw ‘mini llundain’ yn y de- dani eisiau datganoli drwy Cymru i gyd (dwi felly yn croesawu bod Leanne Wood eisiau creu Office for Energy ar Ynys Mon).

Dwi ddim yn erbyn c’dydd- dwi digon bodlon gweld HQ y Cynulliad a’r Llywodraeth lawr ‘na, ac hefyd y Stadiwm Cenedlaethol. Ond dwi yn erbyn cael bob dim i lawr yna!- maen amser i g’dydd cael y sector breifat, nid cyhoeddus yn y ddinas – dani di talu i nhw cael cyflusterau gwych yno- mae’n bryd i nhw’i ddefnyddio!

§

Crebwyll , Chwefror 11, 2012 11:53 pm

Byddai’r gymwynas á wneid á’r gymdeithas Gymraeg ei hiaith pe buddsoddid yr adnoddau prin economaidd sydd ar gael yng Nghaernarfon neu Gwm Gwendraeth yn amlwg yn un llawer mwy pwrpasol na’r un cyfredol a wneir yng Nghaerdydd – hyn heb son am y fantais o roi’r cynllunwyr yn ól mewn cysylltiad agosach a’u cynulleidfa fel ag i fedru cynhyrchu rhaglenni fwy at ei blas.

§

Dafydd , Chwefror 12, 2012 8:33 am

Jones , Chwefror 11, 2012 11:50 pm

Cytuno 100%

Dyna fel mae hi’n mynd yng Nhymru….creu fersiwn llai o’r DU yng Nghymru lle mae pobpeth yn cael ei ganoli yng Nghaerdydd. Dim digon da!!

§

Rhygyfarch , Chwefror 12, 2012 9:30 am

Dwi ddim am daflu dwr oer ar y syniad hwn, oherwydd mae’n rhaid gwneud rhywbeth er lles yr iaith yn yr ardaloedd gwledig gorllewinol.

Ond mae nifer o broblemau. Un lle bydd yn cael ei wella dan y cynllun hwn (Llanelli? Caernarfon? llebynnag…). Yn ail – problem fawr ein ardaloedd gwledig ar hyn o bryd yw fod costau byw mor boenus o uchel rhwng prisiau tanwydd, tai, a bwyd; byddai costau gweithredu yn y gorllewin o hyd yn sylweddol. Yn drydydd – oes rhywun yma wedi ystyried y dylanwad mae S4C wedi ei gael ar gymreigio’r de-ddwyrain?! Mae’r Gymraeg yn iaith i Gymru gyfan – ac roedd hi hefyd, gyn lleied a chanrif yn ol; rhaid gwrthod y naratif (hanesyddol wallus) sy’n dweud mai iaith Gwynedd, Sir Gar, a Cheredigion yn unig yw hi.

Os oes gobaith i’r Gymraeg rhaid troi oddi wrth opsiynau fel hyn a sylwi fod angen creu amgylchiadau mewn ardaloedd gwledig i fusnesau ffynnu. e.e. – pam na ellid lleihau’r dreth danwydd i fusnesau bach mewn ardaloedd ‘pell o bob man’ er mwyn annog menter a busnes yno? Beth am annog co-operatives ynni lleol sy’n talu’n ol i’r gymuned/ galluogi lleihau biliau, yn lle gadael i’r sector ynni adnewyddol gymryd mantais heb dalu dividend yn ol i’n cymunedau. Gellid gwneud y fath gynlluniau yn genedlaethol- yr un achosion sy’n creu problemau i gymunedau ol-ddiwydianol hefyd, yn y bon.

Rhaid meddwl ar hyd llinellau menter, a gweld swyddogaeth llywodraeth ddatganoledig fel buddsoddwr – plannwr coed derw – ac nid fel corff sy’n cynnig sybsidi yn unig: byddai symud S4C yn gam a allai danseilio’r hyn sydd angen digwydd mewn meysydd eraill.

§

Rhys Gethin , Chwefror 12, 2012 1:40 pm

Rhygyfarch – o fewn radiws cymudo realistig o Gaernarfon (tuag awr), cynhwysir rhai o ardaloedd Cymreiciaf Cymru, o Ben-llyn i Feirionnydd ac i ben draw Sir Fôn. Maent hefyd yn ardaloedd sy’n profi dirywiad sydyn, a hynny’n rhannol gan nad oes swyddi digon breision i gadw’r bobl ifainc orau yn eu cynefinoedd. Felly, mae angen creu ystod eang o swyddi ar gyfer y Cymry Cymraeg hyn, a dwi’n amau’n fawr a fyddai gan unrhyw un syniad gwell na symud S4C yn ôl at ei gwreiddiau.
A beth am y manteision i S4C ei hun? Mae nifer o raglenni diweddar fel pe baent wedi eu hanelu tuag at gynulleidfa ffug, nad ydyw’n bodoli, ac sy’n gelyniaethu llawer o’r gynulleidfa real, deyrngar.
Os yw S4C am fod yn “Galon Cenedl” fel y mae hi’n hoffi ei galw’i hun, yna rhaid iddi gofio am ei gwreiddiau.

§

Ifor Hughes , Chwefror 12, 2012 2:00 pm

Os yw S4C yn symud i Gaernarfon aros ti yng Nghaerdydd Eirwen Haf.

§

Henri , Chwefror 12, 2012 2:30 pm

Mae gan S4C swyddfa yng Nghaernarfon yn barod. Y cwmniau cynhyrchu yno sy’n creu gwaith nid yr un sy’n cyhoeddi eu gwaith.
Os daw gwell syniadau o wahanol rannau o Gymru bydd y gwaith yn mynd yno, dim ots ble bydd y pencadlys.

§

Ifor Hughes , Chwefror 12, 2012 2:53 pm

Na Henri ti’n ‘rong bydde symud i Gaernarfon yn newid diwylliant S4C a thrwy wneud hynny yn newid y feddylfryd gomisiynnu sydd wedi methu mewn modd mor erchyll dros y blynyddoedd diwetha’.

Hefyd o bosib gall Cymru ddisgyn mewn cariad gyda’r sefydliad eto achos ar y foment does neb yn rhy hoff ohoni ac yn anfodlon
‘sefyll yn y bwlch’ pan ma eraill yn ymosod arni – wnaeth symud i Fro gobeithio newid hyn i gyd .

§

slim goru , Chwefror 12, 2012 5:17 pm

Ifor – beth yw dy broblem yn erbyn Caerdydd? Rho dy resymau. Fel arall ystyriaf dy hun yn genedlaetholwr plwyfol sydd methu gweld y darlun real, llawn.

§

Ifor Hughes , Chwefror 12, 2012 8:36 pm

Slim does da fi ddim problem a Chaerdydd ‘per se’ ond ma dosbarth wedi codi yna o Gymry Cymraeg sydd wedi mabwysiadu arferion gweathaf y dosbarth canol Saesneg. Canlyniad hynny yw colli perthyrnas a’r gymuned Gymraeg – ma nhw elyniaethu gwylwyr a chefnogwyr S4C. Think Orwell and walking pigs and ‘some animals are more equal than others’.

Doedd Gwynfor etc yn golygu dim i Iona Jones a’i thebyg and that’s when it all started to go wrong achos daeth y DCMS i gredu fod yr asgwrn cefn wedi mynd. Caernarfon = Cefn.

§

losin , Chwefror 12, 2012 9:50 pm

tyfwch lan pawb sy meddwl fod hyn yn syniad da. wir o dduw i chi.

§

losin , Chwefror 12, 2012 10:33 pm

Ydyd chi gyd ddim yn gwrando ar Radio Cymru i weld be all ddigwydd drwy fynd a pethe ‘i’r gymuned wledig’? Aethpwyd a slot nodweddiadol Radio Cymru i Aberystwyth a’r canlyniad oedd? GERAINT LLOYD. Nuff Said.

§

Owain Llyr bwcibo , Chwefror 13, 2012 12:49 am

Caernarfon, Caernarfon, Caerdydd, Caerdydd…

Diflas iawn i bawb arall yng Nghymru yw’r pobl pwysig sy’n dweud eu dweud…

§

Ifor Hughes , Chwefror 13, 2012 8:10 am

Dwi’n licio Gerant Lloyd Losin, ond wedyn dwi ddim yn metro sophisticated fel ti !

Ble ma’r cortyn bales ‘na i gadw fy trousers lan ?

Tony ac Aloma anyone ?

§| Nodi camddefnydd

Jones , Chwefror 13, 2012 11:01 am

Losin,
Dwin eithaf hoffi strwythyr radio cymru – swyddfa/stiwdio yn pob congl o Gymru.

Y pwynt mae lot yn ei gredu yw bod C’dydd yn cael lot rhy gormod. Mae’n ddinas sydd wedi cael £miloedd wedi’i bwmpio i fewn iddi – mae’n brydd iddi ddenu cwmniau preifat yno (oherwydd yn amlwg, nid yw C’fon yn gallu gneud hyn). Yna gadael sefydliadau “cyhoeddus” megis S4C, Swyddfa’r Comisiynwyr, y BBC, Companies House ayyb i sefydlu o gwmpas Cymru. Os ddim, fe fyddem yn troi i ‘mini Lloegr’ ble mae un ardal yn cael bob dim ar gweddill dim.

Dim ond cynnal % isel iawn o swyddi mae S4C yn gynnal yn G’dydd – tra fysa fo’n symud i G’fon fe fysan cadw nifer o bobl ifanc yn yr ardal ac dros nos yn codi ‘average’ cyflog y dref.

Mae’r rhain i gyd yn bwyntiau teg, a dwi heb hyd yn oed son am y positifs o gael swyddfeydd yn agosach i’r gwylwyr!

Dwi ddim yn gwrth-g’dydd, dim ond teimlo ei bod nhw yn cael gormod o bethau. Dwin derbyn dylai y Senedd, HQ y Llywodraeth ag Stadiwm fod yno – ond pam S4C?

Ac ar yr un eitem, mae gwariant Y PEN yn g’dydd llawer rhy uchel. Fel arfer mewn dinasoedd mae gwariant Y PEN yn llai (mwy o bobl, mewn milltir sgwar llai). Ond yng Nghymru mae sir tlotaf Cymru (Ynys Mon) yn cael 4 gwaith yn llai o wariant Y PEN na G’dydd – tydy hyn ddim yn deg. A sut mae rhywle fel Mon fod i dyfu os tydy’r Llywodraeth ddim yn rhoi arian i ddenu swyddi?

Mae’n amser i bethau newid.

§| Nodi camddefnydd

Eirwen Haf , Chwefror 13, 2012 11:18 am

Ifor – mae dy sylwad di yn pathetig -jyst achos bo rhywun yn anghytuno gyda ti, mae’n rhaid i ti ymosod. Dwi’n cytuno bod angen lledu gwaith trwy Gymru gyfan, nid yn unig un fangre, boed yn Gaerdydd neu Caernarfon.

§

Eirwen Haf , Chwefror 13, 2012 11:26 am

Dwi ddim yn gweld problem gyda symud S4C o gwbl -jyst yn erbyn y grwgnach yn erbyn Caerdydd. Felly bihafia dy hun, Ifor, gyda dy sylwadau plentynaidd sy’n bla ar draws adran sylwadau Golwg 360!

§

Dafydd Iwan , Chwefror 13, 2012 12:07 pm

Mae’r diddordeb yn y pwnc hwn yn codi calon, dim ond i ni gadw’n glir o blwyfoldeb neu gnocio Caerdydd heb reswm.
Y ffaith amdani yw bod datganoli o Gaerdydd i ranbarthau Cymru yn hanfodol, ac nid S4C yn unig, ond sawl corff arall.
Wrth gwrs, mae cael swyddfa yn y brif-ddinas yn fantais fawr, ond does dim rheswm yn y byd pam na allwn gael prif swyddfa nifer o gyrff yn Aberystwyth (fel y Llyfrgell Gen. a’r Cyngor Llyfrau), Caernarfon, Caerfyrddin, Wrecsam, Dolgellau, Merthyr, Drenewydd….Ac hyd yn oed o fewn ein siroedd, mae angen gofalu nad yden ni yn gor-ganoli. Ond ar yr un pryd, sicrhau crynhoi ein hadnoddau gwledig fel bod gyda ni ysgolion, capeli ac ati ddigon cryf i oroesi.
Hunan-lywodraeth lwyr i Gymru, a datganoli i bawb, hwnna ydi o.

§

Ifor Hughes , Chwefror 13, 2012 2:19 pm

Eirwen Haf – edrych adre gyda dy attacks personol ar bobl

§| Nodi camddefnydd

Ifor Hughes , Chwefror 13, 2012 2:20 pm

Da iawn Dafydd Iawn – ife rhywbeth fel yna yw cynghanedd?

§| Nodi camddefnydd

Martin Wilias , Chwefror 13, 2012 2:23 pm

Gwych iawn gan Dafydd Iwan uchod. Diolch am daro’r hoelen ar ei phen!

§| Nodi camddefnydd

Martin Wilias , Chwefror 13, 2012 2:48 pm

Fy neges trydar i i Dylan Iorwerth, Dan yr Wyneb, Radio Cymru 1315-1400 heddiw:
“Be di barn MPJ am y ffaith bydd pencadlys Comisiynydd Iaith yng Nghaerdydd?Camgymeriad yw lleoli gormod o jobs da Cymraeg yno”
Ni wnaeth y Bonwr Iorwerth ddarllen y cwestiwn. Pam? Newyddiaduriaeth ddof. Rhaid bod yn barod i ofyn cwestiynau caled heb boeni am bechu.

§| Nodi camddefnydd

Jon , Chwefror 14, 2012 12:52 pm

Sgwrs ddiddorol iawn, yn enwedig gan y mod i o Gaerdydd. Cwpwl o bwyntiau – beth fyddai’n digwydd i holl staff S4C petai’r sefydliad yn symud i Gaernarfon neu Aberystwyth? Ac yn ail, o ran symud S4C yn ôl i’r cadarnleoedd, beth fydd yn digwydd i’r Gymraeg yn y brifddinas ac yn Cymoedd er enghraifft? Yn ôl y son, rydym yn colli 3,000 o siaradwyr Cymraeg yn flynyddol – dwi ddim yn credu y byddai cael S4C yng nghanol Gwynedd yn helpu hyn rhyw lawer. Ond fel ‘na mae Ifor – bydd digon o Gianti yn llifo’n y Brifddinas felly bydd y Cardiffians yn rhy gaib i boeni….

§| Nodi camddefnydd

Dewi Gregory , Chwefror 17, 2012 7:02 pm

Cadwer swyddi S4C yn y brifddinas meddwn i. Wedi’r cyfan, yn Morgannwg a Gwent mae dyfodol yr iaith. Yn ol sensws 2001, roedd 200 mil o drigolion y de-ddwyrain yn siarad Cymraeg, o’i gymharau a 210 mil o hen siroedd ‘Cymraeg’ Gwynedd a Chlwyd (gyda 171mil yn hen siroedd Dyfed a Phowys). Ac ym Morgannwg a Gwent y gwelwyd y cynnydd mwya oddi ar y sensws blaenorol ym 1991 – 54%. 0.0005% oedd y cynnydd yn y Gogledd. O na bai’r Gogleddwyr yn cofleidio’r iaith fel y mae Cymry’r De ‘Seisnigaidd’! Falle haeddech gael y swyddi wedyn.

§| Nodi camddefnydd

losin , Chwefror 19, 2012 3:24 am

@dewi gregory – yn hollol.

§| Nodi camddefnydd

Eirwen Haf , Chwefror 27, 2012 11:24 am

Ifor Hughes , Chwefror 12, 2012 2:00 pm

Os yw S4C yn symud i Gaernarfon aros ti yng Nghaerdydd Eirwen Haf.

Erm… fi yn gwneud “attacks personol”?! Ymateb i dy sylwad di wnes i diolch.

§| Nodi camddefnydd

Eirwen Haf , Chwefror 27, 2012 11:35 am

Da iawn Dewi Gregory!

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.