
Mae pedwar o bobl wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio ar ôl i ddyn gael ei ddarganfod yn farw mewn ty ym Mangor.
Cafodd yr heddlu eu galw i’r ty yn Sgwâr Britannia ym Mangor Uchaf toc wedi 3am fore dydd Sul ar ôl adroddiadau am ddigwyddiad yn y ty. Cafodd parafeddygon weu galw ond roedd y dyn 43 oed eisoes wedi marw.
Dyw achos ei farwolaeth heb gael ei gyhoeddi.
Dywedodd llefarydd ar ran heddlu’r Gogledd: “Mae dau ddyn a dwy dynes wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio ac yn helpu’r heddlu gyda’u ymholiadau.”