
Mae cerddwr wedi marw ar ôl bod mewn gwrthdrawiad â char yn Abertawe yn gynnar bore heddiw.
Digwyddodd y ddamwain tua 12.40 y bore. Bu car arian Subaru Impreza mewn gwrthdrawiad â cherddwr ar Ffordd Fabian yn y ddinas.
Mae’r heddlu yn trin y digwyddiad fel un anesboniadwy. Nid ydynt wedi rhyddhau unrhyw fanylion am y cerddwr a fu farw, ac maen nhw’n apelio am dystion i’r digwyddiad.
Dylai unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth gysylltu â Heddlu’r De neu Taclo’r Taclau ar 0800 555111.