Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Pryderon bod penaethiaid AWEMA i gael taliadau diswyddo

Chwefror 13, 2012 11:31


Mae Plaid Cymru wedi gofyn am sicrwydd gan Lywodraeth Cymru na fydd unrhyw arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio i dalu swyddogion AWEMA fu’n rhan o gamreolaeth ariannol yr elusen lleiafrifoedd ethnig.

Dywedodd Bethan Jenkins AC fod ffynonellau sy’n gysylltiedig ag AWEMA wedi codi pryderon y buasai swyddogion gafodd eu henwi  mewn adroddiad diweddar i gamreolaeth ariannol yn yr elusen yn  derbyn ‘taliadau diswyddo’ wrth i faterion yr elusen gael eu dirwyn i ben.

‘Gwarthus’
Dywedodd Bethan Jenkins, o ystyried maint y camweinyddu gafodd ei amlygu  yn adroddiad swyddogol y Llywodraeth  wythnos ddiwethaf, ac mewn adroddiadau blaenorol, y buasai’n “hollol warthus” i’r rhai fu’n gyfrifol dderbyn ceiniog arall o arian cyhoeddus.

Fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru wythnos ddiwethaf na fyddai AWEMA yn derbyn rhagor o arian wedi i adroddiad ganfod “diffygion sylfaenol ac arwyddocaol”.  Mae’r heddlu hefyd yn edrych ar y dystiolaeth yn adroddiad Llywodraeth Cymru.

‘Pryderon’

Mae AC Plaid Cymru Bethan Jenkins yn cynrychioli Gorllewin De Cymru lle mae canolfan AWEMA wedi ei sefydlu.

Dywedodd: “Mae pobl sy’n gysylltiedig ag AWEMA wedi codi pryderon y bydd y sawl fu ynghanol honiadau o gamreolaeth ariannol yn AWEMA yn awr yn derbyn taliadau diswyddo wrth i’r elusen gael ei dirwyn i ben.

“All hi ddim bod yn iawn i unrhyw arian cyhoeddus gael ei roi allan fel hyn. Ni ddylid caniatáu i’r sawl fu’n gyfrifol am gamreolaeth ariannol yn AWEMA dderbyn dim mwy o arian y trethdalwyr.

“Rwyf wedi gofyn i Weinidog Cyllid Cymru am warant hollol bendant na fydd unrhyw arian cyhoeddus yn cael ei roi i’r bobl hynny sydd ynghlwm â’r mater, oni phrofir yn gyntaf eu bod yn hollol ddieuog o unrhyw gamwedd.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ben Evans , Chwefror 14, 2012 9:19 am

Cytuno’n llwyr.

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.