Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Strategaeth Iaith – dim trafod gyda’r Bwrdd

Chwefror 13, 2012 16:27, Diweddarwyd am 19:21


Meirion Prys Jones
Chafodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg ddim rhan yn y gwaith o greu fersiwn terfynol Strategaeth Iaith newydd y Llywodraeth.

Er mai nhw yw’r corff statudol i roi cyngor am faterion yn ymwneud â’r iaith, fe ddatgelodd y Prif Weithredwr nad oedd y Llywodraeth wedi ymgynghori â nhw.

Wrth gael ei holi ar raglen Dan yr Wyneb ar Radio Cymru fe ddywedodd Meirion Prys Jones eu bod wedi cynnig helpu ond nad oedd hynny wedi ei dderbyn.

Doedd gan Meirion Prys Jones ddim esboniad am hynny. “Rhaid i chi ofyn iddyn nhw,” meddai.

Ond mae Llywodraeth Cymru wedi gwadu honiadau Meirion Prys Jones. Dywedodd llefarydd ar ran y gweinidog Leighton Andrews: “Mae Meirion Prys Jones yn hollol anghywir i ddatgan nad oedd Bwrdd yr Iaith yn rhan o’r gwaith o greu fersiwn terfynol y Strategaeth Iaith.

“Roedd ef ei hun yn aelod o’r grwp oedd wedi goruchwylio’r fersiwn terfynol,” meddai’r llefarydd.

Dod i ben

Fe fydd y Bwrdd yn dod i ben ddiwedd mis Mawrth ac mae ei waith yn cael ei drosglwyddo i swydd newydd y Comisiynydd Iaith ac i adran o fewn y Llywodraeth.

Roedd rhywfaint o anghytuno wedi bod rhwng y Bwrdd a’r gwasanaeth sifil tros gynnwys y Ddeddf Iaith a gafodd ei phasio y llynedd.

Mae Meirion Prys Jones hefyd wedi codi amheuon am allu’r Llywodraeth i gynnig syniadau creadigol a digon o hyblygrwydd i hyrwyddo’r iaith yn effeithiol.

Fe fydd strategaeth newydd y Llywodraeth yn cael ei chyhoeddi Ddydd Gŵyl Dewi.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Martin Wilias , Chwefror 13, 2012 5:18 pm

A wnaeth y Bonwr Iorwerth ofyn i MPJ am ei farn ynghylch yr ynfydrwydd o leoli pencadlys y Comisiynydd Iaith yng Nghaerdydd? Naddo. Pam?
Os bydd mwyafrif tim y Comisiynydd wedi eu lleoli yng Nghaerdydd yna bydd hyn yn un o’r pethau hurtaf yn hanes diweddar y Gymraeg!
Y mae yna wahaniaeth pwysig rhwng bod yn wrth-Caerdydd a deisyfu Cymru decach.

§

Mali , Chwefror 13, 2012 5:38 pm

Wir methu credu bod Llywodraeth Cymru heb hydnod trafod gyda Bwrdd yr Iaith. Ddim yn argoeli’n dda ar gyfer y dyfodol.

§

Gwyn, Cwm Taf , Chwefror 14, 2012 10:38 am

Rhyfedd – a’r prif weithredwr Meri Hughes yn Lafurwraig i’r carn

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.