Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Sianel 62 – Cymdeithas ar fin lansio’u sianel newydd

Chwefror 15, 2012 08:02



Bydd Sianel Gymraeg newydd yn cael ei lansio’r penwythnos hon fel rhan o ddathliadau hanner canmlwyddiant Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Bydd ‘Sianel 62’ yn cael ei darlledu ar y we am y tro cyntaf ddydd Sul yma gyda’r gobaith o wneud y slot darlledu dwy awr yn gyfle wythnosol i ddangos rhaglenni “heriol, gwleidyddol, doniol, dychanol, dwys ac ysgafn.”

Yn ôl Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Bethan Williams, mae’r sianel newydd yn addo bod yn “llai fel Noson Lawen ac yn fwy o Noson Chwyldroadol”.

Ymateb i ddiffyg

Cydlynydd newydd Sianel 62 yw Greg Bevan, ac mae’n dweud fod y sianel newydd – yr unig sianel newydd i Gymru ers 30 mlynedd – yn bwriadu llenwi bylchau mawr yn y rhaglenni sy’n cael eu darparu ar hyn o bryd.

“Mae hwn yn brosiect nid yn unig i ddathlu hanner canmlwyddiant y Gymdeithas, ond hefyd yn brotest yn erbyn diffyg rhaglenni heriol am y Gymru gyfoes ar hyn o bryd,” meddai.

“Mi fydd y sianel yn cynnig llwyfan newydd i leisiau amgen ac unigryw sydd yn tueddu cael eu hanwybyddu gan y darlledwyr traddodiadol.”

Dywedodd hefyd y byddai Sianel 62 yn “ifanc ei naws” ac mai “pobol gyffredin yn y gymuned fydd yn datblygu’r syniadau a chynhyrchu’r rhaglenni o dan arweiniad tîm proffesiynol.”

‘Canolog yn nyfodol y Gymdeithas’

Mae disgwyliadau mawr ar gyfer Sianel 62 ar drothwy ei lansiad, gyda’r sefydlwyr eisoes yn trafod potesnsial “dylanwadol a phwerus iawn” y cyfrwng.

“Mae hwn yn gyfle digynsail i sefydlu’r strwythurau i rywbeth gall fod yn ganolog i waith y Gymdeithas am flynyddoedd i ddod,” meddai Greg Bevan neithiwr.

Yn ôl Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Bethan Williams, mae’r darllediad dwy awr yn bwriadu rhoi arlwy newydd i wylwyr teledu Cymraeg.

“Fe fydd lleisiau a chynnwys gwleidyddol a dychanol na allwch weld ar y sianeli teledu presennol,” meddai.

“Bydd nifer o ddigwyddiadau i ddathlu ein hanner canmlwyddiant hefyd yn cael eu darlledu, gan fod y sianel yn gyfle arall i ddiolch i’r holl bobl sydd wedi ymgyrchu dros yr iaith dros y degawdau.”

Bydd y darllediad cyntaf, sydd i’w wneud nos Sul hyn am 8pm ar Sianel62.com, yn cynnwys hanes teulu Caerdegog yn Ynys Môn, clipiau comedi, Tynged yr Iaith II a cherddoriaeth gan fandiau y bydd yn perfformio yn yr ŵyl Hanner Cant ym Mhontrhydfendigaid ym Mis Gorffennaf.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Martin Wilias , Chwefror 17, 2012 3:39 pm

Gwych. Amlblatfform. Creu llwyfannau newydd. Dyfeisgarwch.
Nonsens pur hen ffasiwn bellach ydi credu mai S4C ydi unig gartref teledu Cymraeg.
Mae’n bwysig iawn, iawn pwysleisio hyn.
S4C-Calon Cenedl? Mae hi’n bwysig, ond mae’r oes aur yn yr wythdegau wedi hen basio heibio.
Hir oes i S4C AC HEFYD SIANEL 62!

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.