Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith yn ‘siarad rwtsh’

Chwefror 15, 2012 14:37, Diweddarwyd Chwefror 16, 2012 15:46


Leighton Andrews

Mae’r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg wedi cyhuddo Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith o “siarad rwtsh”.

Mae hefyd wedi beirniadu’r Bwrdd ei hun am fethu yn y gwaith o fesur pa mor effeithiol oedd eu cynlluniau.

Yn ôl Leighton Andrews, mae cyhuddiadau’r Prif Weithredwr fod  Llywodraeth Cymru wedi gwthio’r Bwrdd i’r ymylon wrth lunio’r Strategaeth Iaith newydd yn “gwbwl anghywir”.

“Mae’n ymddangos fod Prif Weithredwr y Bwrdd yn ddig am ei fod (y Bwrdd) yn cael ei ddiddymu,” meddai Leighton Andrews wrth Golwg 360 heddiw.

Y sylwadau gan y Gweinidog yw’r cam diweddaraf mewn ffrae flin sydd wedi codi ynglŷn â rhan Bwrdd yr Iaith wrth lunio Strategaeth Iaith newydd Llywodraeth Cymru.

Ddoe, fe ddywedodd Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith, Meirion Prys Jones, wrth Golwg 360 ei fod yn siomedig gyda’r ffaith nad oedd y Bwrdd bellach yn ddim ond rhan o Grŵp Ymgynghorol o 40 o gyrff eraill, yn hytrach nag yn rhan o’r broses o ddrafftio’r strategaeth.

“Fwy nag eistedd mewn ystafell gyda 40 o gyrff eraill fel Cymdeithas yr Iaith a Merched y Wawr, fuodd dim dialog uniongyrchol rhyngom ni â nhw,” meddai Meirion Prys Jones.

“Dydi hynny ddim cweit yr un peth ag ymgynghori â’r prif gorff statudol ar gynllunio iaith yng Nghymru.”

‘Trafodaethau cyson’

Ond mae Leighton Andrews yn dweud fod  Meirion Prys Jones yn “siarad rwtsh.”

Wrth siarad â Golwg 360 heddiw, mynnodd y Gweinidog ei fod wedi bod mewn “trafodaethau cyson” gyda Bwrdd yr Iaith ynglŷn â’r Strategaeth Iaith.

“Mae’r Bwrdd yn cael ei gynrychioli ar Grŵp Ymgynghorol y Gweinidog sydd wedi cael tri chyfarfod ers etholiadau mis Mai – er bod y Bwrdd wedi methu ag anfon neb i’r cyfarfod diwethaf.”

Yn ôl Bwrdd yr Iaith, roedden nhw wedi rhybuddio’r Llywodraeth ers tro na fyddai eu cynrychiolwyr yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod olaf ar 15 Rhagfyr.

Chwerwi

Yn ôl Leighton Andrews, mae’n rhaid bod yn glir am y ffaith mai “dyma Strategaeth Llywodraeth Cymru ar ddiwedd y dydd.

“Mae Bwrdd yr Iaith yn dod i ben, mae’n dod i ben oherwydd penderfyniad a gymerwyd gan Lywodraeth flaenorol Cymru’n Un ac wrth basio’r Mesur Iaith Gymraeg – sef penderfyniad dwi’n ei gefnogi ac yn ei gynnal.”

Mae’n mynnu bod y Llywodraeth wedi “ymgynghori’n eang, gydag ystod eang o grwpiau gan gynnwys Bwrdd yr Iaith Gymraeg, ac mae Bwrdd yr Iaith wedi bod â chysylltiad uniongyrchol i fy swyddogion i drwy gydol y broses.”

Israddio

Ond roedd yn gwrthod cydnabod bod rôl Bwrdd yr Iaith wedi cael ei israddio, o’i gymharu â thystiolaeth Meirion Prys Jones bod y Bwrdd wedi drafftio talpiau sylweddol o’r Strategaeth Ddrafft dan Lywodraeth Cymru’n Un.

“Dydw i’n cyfaddef i ddim byd,” meddai. “Maen nhw wedi bod ynghlwm ag awgrymu drafftiau ar ei gyfer, ond Strategaeth y Llywodraeth yw hwn, ac mae Bwrdd yr Iaith yn dod i ben.

“Ond dydyn nhw heb gael eu hisraddio, maen nhw wedi bod yn rhan llawn, does neb wedi cael eu hisraddio o gwbwl, mae hyn yn rwtsh llwyr,” meddai.

“Dwi’n meddwl mai beth sy’n digwydd fan hyn yw fod rhai pobol yn anhapus bod Llywodraeth Cymru yn symud ymlaen gyda strategaeth newydd, gan adeiladu ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru’n Un.”

Y Strategaeth

Bydd y strategaeth newydd yn cael ei chyhoeddi ar 1 Mawrth eleni, wrth i Fwrdd yr Iaith ddechrau pacio’u bagiau yn barod ar gyfer dyfodiad y Comisiynydd Iaith newydd ddechrau Ebrill. Bydd cyfrifoldebau eraill yn cael eu llyncu gan y Llywodraeth.

Wrth siarad â Golwg 360 heddiw, dywedodd Leighton Andrews fod ganddo weledigaeth ar gyfer diogelu nifer siaradwyr Cymraeg y dyfodol, ac y byddai gan y strategaeth newydd le pwysig i chwarae yn hynny.

“Mae’n rhaid i’r strategaeth newydd edrych ar sut fyddwn ni’n delio gyda cholli siaradwyr Cymraeg blwyddyn ar ôl blwyddyn,” meddai, wrth ymateb i’r adroddiad ddoe fod Cymru’n colli hyd at 3,000 o siaradwyr Cymraeg bob blwyddyn.

“Ond mae angen i ni edrych ar beth sy’n gweithio ar hyn o bryd, o ran y cynlluniau sydd eisoes ganddon ni.”

Beirniadu’r Bwrdd

“Yn anffodus, mae’n anodd gweld pa ymchwil y mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi bod yn ei gyflwyno dros y blynyddoedd o ran y cynlluniau y maen nhw wedi bod yn eu rhedeg ac sydd wedi gweithio.

“Mae’n ymddangos bod yna brinder tystiolaeth ynglŷn â’r ffyrdd gorau i annog pobol i ddenfyddio’r iaith, er gwaetha’r cynlluniau sydd wedi bod yn cael eu rhedeg dros yr 20 mlynedd diwethaf.

“Does dim digon o werthuso wedi bod ar gynlluniau sydd wedi bod yn rhedeg yn y gymuned,” meddai.

Comisiynydd Iaith

Dywedodd y Gweinidog ei fod yn hyderus fod y Comisiynydd Iaith newydd, sef cyn-Gadeirydd Bwrdd yr Iaith, Meri Huws, yn “cytuno gyda ni bod angen mwy o werthuso, ac fe fydd hynny’n cael ei drafod yn y strategaeth.”

Dywedodd y Gweinidog fod y “Bwrdd wedi chwarae rhan bwysig yn y 15 i 20 mlynedd ddiwethaf, a tydw i ddim yn tynnu oddi ar hynny, ond wrth i ni symud ymlaen mae’n rhaid i ni edrych gyda mwy o drylwyredd ar werthuso cynlluniau ac adnabod beth sy’n gweithio orau o ran gwarchod yr iaith ar gyfer y dyfodol.”

Catrin Haf Jones

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Nodi Camddefnydd
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y ddolen ’Nodi camddefnydd’ sy’n ymddangos wrth ymyl pob sylwad. Os bydd dau berson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.


Ifor Hughes , Chwefror 15, 2012 2:58 pm

Leighton Andrews y gwleidydd mwya annymunol yng Nghymru.

§

Steffan Llysdinam , Chwefror 15, 2012 4:58 pm

Mae bob gwleidydd gwerth ei halen yn annymunol Ifor, y cwestiwn yw – ydy’n iawn neu beidio?

Dw i’n hoff iawn o glywed bach o siarad di-flewyn ar dafod. All aelodau’r Bwrdd ymateb yn yr un modd? Efallai y caiff Cymru ddadlau werth ei glywed wedyn…

§| Nodi camddefnydd

Efrogwr , Chwefror 15, 2012 5:11 pm

Pob lwc i’r strategaeth. Un peth uniongyrchol y gall y Llywodraeth ei wneud er mwyn rhoi hwb unionigyrchol i’r iaith (yn hytrach na dim ond disgwyl i bobl eraill yn unig cyflawni) yw dechrau gweinyddu’n fewnol trwy’r Gymraeg. Ni ellid gwneud hyn dros nos, wrth reswm, a byddai angen andros o lot o hyfforddi iaith a newid agwedd ond beth amdani, Leighton? Beth am ddechrau gyda’r Adran Addysg? Targed i fod wedi symud drosodd o’r Saesneg i’r Gymraeg erbyn, dyweder, etholiad nesaf i’r Cynulliad?

§| Nodi camddefnydd

John Griffith , Chwefror 15, 2012 5:53 pm

Clywch, Clywch Efrogwr. Paham mae ein Llywodraeth yn cyflogi unigolion di-Gymraeg yng Ngwynedd?

Os yw ein Llywodraeth yn cymryd swydd Bwrdd yr Iaith, sut mae cwyno am ddarpariaeth Cymraeg y Llywodraeth?

§

Ifor Hughes , Chwefror 15, 2012 6:59 pm

Dyma’r gwleidydd gafodd y ‘panic attack’ laddodd Prifysgol Cymru – sefydliad cenedlathol yn cael ei lorio gan ohebydd ifanc o’r BBC a’r ‘headless chicken’ ma o’r Blaid Lafur – sut ar wyneb ddaear oedd y Brifysgol I wybod fod colegau gyda chyrsiau oedd Prifysgol Cymru yn validate yn derbyn illegal immigrants ? Job y police a’r border authorities yw hynny ! Typical o self destruct Cymreig a Leighton Andrews oedd wrth wraidd y cyfan. Ma’r pwrs o Sais wnaeth yr ‘investigation’ bellach yn gweithio yn Llundain I C4 news ac ar ei gwefan y broliant ‘ the reporter who bought down the University of Wales. Ma Prifysgol Havard wedi validate colegau ac illegal immigrants ond does moyn yn cau nhw. Validate cyrsiau ma nhw nid rhedeg y colegau neu blismona y ffiniau !

§

Sion , Chwefror 15, 2012 8:17 pm

Oes rywun am egluro wrth Ifor Hughes bod y “pwrs o Sais” yn Gymro Cymraeg o Ferthyr?

§

Ifor Hughes , Chwefror 16, 2012 12:22 am

His recent report into a scam set up to help overseas students obtain visas led to the effective abolition of the University of Wales.

http://www.channel4.com/news/channel-4-news-completes-onscreen-line-up-with-new-talent

Dangos faint o asgwrn cefn sydd da Leighton Andrews, story gan ‘here today gone tomorrow’ newyddiadurwr yn ei ugeiniau cynnar yn peri iddo ddileu Prifysgol Cymru !

“The University of Wales was brought into being through the enthusiasm for learning and the determination, not to mention the generosity, of ordinary Welsh people: the miners, farmers and quarry workers who contributed to ‘the University of the People’ close to a hundred and twenty years ago”.

God knows sut wnaeth e ymateb i crisis go-iawn !

Not a man for the trenches Mr.Andrews.

§

Ifor Hughes , Chwefror 16, 2012 8:33 am

Roedd e’n siarad fel ‘pwrs o Sais’ ar Weak In Weak Out .

Newydd ddarllen bod e’n frawd i Bethan Jenkins – rhyfedd o fyd

§| Nodi camddefnydd

Ifor Hughes , Chwefror 16, 2012 8:39 am

Ac anyway yn ol y son roedd Leighton Andrews yn casau guts un Prof a dyna pam oedd e am gau’r Brifysgol.

Ma ‘The Professor Who Shoots from the Hip’ yn Dori ac roedd e Leighton yn Dori ei hun unwaith neu’n Liberal – anyway ddim yn Socialist.

‘people hate in others what they see in themselves really I suppose.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Nodi Camddefnydd
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y ddolen ’Nodi camddefnydd’ sy’n ymddangos wrth ymyl pob sylwad. Os bydd dau berson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.