Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Elinor Wigley yn cefnogi Leanne Wood

Chwefror 16, 2012 09:19, Diweddarwyd am 16:06


Leanne Wood
Mae’r delynores adnabyddus Elinor Bennett Wigley wedi datgan ei chefnogaeth i Leanne Wood yn y ras ar gyfer arweinyddiaeth Plaid Cymru.

Er bod ei gŵr, Dafydd Wigley, wedi gwrthod dweud pwy y bydd yn ei gefnogi gan y byddai’n “amhriodol i mi wneud, fel Llywydd Anrhydeddus y blaid,” mae ei wraig wedi datgan ei chefnogaeth ddi-flewyn-ar-dafod i’r ymgeisydd o’r Cymoedd.

“Mae’n bleser gen i ddatgan fy nghefnogaeth i Leanne Wood fel arweinydd nesaf Plaid Cymru,” meddai heddiw.

“Credaf ei bod yn bwysig iawn fod person ifanc yn cymryd yr awenau er mwyn sicrhau ymlyniad y to ifanc i Blaid Cymru.”

Wrth gyhoeddi ei chefnogaeth i’r Aelod Cynulliad dros Ganol De Cymru, dywedodd Elinor Bennett fod Leanne Wood yn “arweinydd naturiol a chanddi’r gallu i ysbrydoli eraill”.

“Mae hi ar dân dros y materion hynny a ystyriaf yn bwysig – cyfiawnder cymdeithasol, iawnderau dynol, hawliau merched, dyfodol yr iaith a’n diwylliant, a ffyniant economaidd ein gwlad,” meddai.

“Mae Cymru angen llais newydd i symud ymlaen i gyfnod cyffrous yn ein hanes ac mae’n rhaid i Blaid Cymru ennill pleidleisiau yng Nghymoedd y De i fod yn gredadwy fel plaid lywodraethol. Dangosodd Leanne yn barod ei bod yn wleidydd effeithiol iawn yn ei chymuned yn y Rhondda ac yn genedlaethol. Gobeithiaf y caiff gyfle i barhau ac ehangu ei gwaith dros Gymru gyfan.

Elinor Bennett yw’r enw diweddaraf o rengoedd Plaid Cymru i ddatgelu pwy fydd yn cael eu pleidlais pan ddaw hi’n bryd ethol arweinydd newydd i’r Blaid ddechrau mis Mawrth.

Yr wythnos diwethaf fe gyhoeddodd Alun Ffred Jones ei gefnogaeth i Elin Jones yn y ras arweinyddol.

Ond gyda Leanne Wood mae’r rhestr hiraf o gefnogwyr blaenllaw hyd yn hyn, gyda chyn-lywydd Plaid Cymru Dafydd Iwan, Jonathan Edwards AS, y cyn-AS Adam Price, yr Aelodau Cynulliad Bethan Jenkins a Lindsey Whittle, a chyn-brif-weithredwr y Blaid Gwenllian Lansdown Davies, i gyd y tu ôl iddi.

Dywedodd Leanne Wood ei bod yn “hapus iawn i gael cefnogaeth Elinor Bennett, llysgenhades dros ddiwylliant Cymru.”

Mae’r blaid ar ganol tair wythnos o hystings cyhoeddus ar hyn o bryd, gyda’r diweddaraf neithiwr yn Aberystwyth.

Fe fydd rhain yn para nes 26 Chwefror, pan fydd pleidleisiau post aelodau Plaid Cymru yn cael eu gyrru allan, er mwyn eu dychwelyd ar gyfer y cyfri, a’r canlyniad, ar 16 Mawrth.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ifor Hughes , Chwefror 16, 2012 9:45 am

Sori ond roedd hi’n hopeless a’r Sharp End a CF99, dwi really moyn cefnogi hi ond bydd e’n embaras enfawr os geith hi yr arweinyddiaeth.

Mor wahanol i Dafydd Wigley !

Dim ond Dafydd El sy’n gallu siarad yn gall ac yn rhugl yn y ddwy iaith

§

Jonathan Tomos , Chwefror 16, 2012 9:55 am

Anghytuno’n llwyr, roedd hi’n wych ar y ddwy raglen. Hi yw’r unig obaith i ehangu apel y blaid.

§

Dafydd , Chwefror 16, 2012 10:34 am

Efallai bod fy nisgwyliadau o Leanne Wood yn rhy uchel yn dilyn yr holl heip, ond roedd Elin Jones yn llawn cystal siaradwraig ac areithwraig â Leanne yn yr hystings yn Aber neithiwr – os nad gwell. Roeddwn i, yn gam neu’n gymwys, wedi cael y syniad yn fy mhen taw Dafydd Êl fyddai’r areithiwr huotlaf, Leanne Wood â’r gallu i ysbrydoli a thanio brwdfrydedd, ac Elin Jones y gwannaf o ran “carisma” (hen air a chysyniad hyll). Ond mor wahanol y bu pethau neithiwr: Leanne yn fwy llugoer nag y dychmygais y byddai hi, Dafydd Êl yn insyltio pawb a phopeth, ac Elin ar dân!

§

Helen , Chwefror 16, 2012 11:32 am

“Dim ond Dafydd El sy’n gallu siarad yn gall ac yn rhugl yn y ddwy iaith”

Bobl fawr. Dwi ‘di clwad bob dim rŵan do. Does na’m byd ‘call’ am y dyn yma dyddia hyn. Prydeinwr ‘di o, ac felly does ganddo fo ddim lle gyda Plaid Cymru yn fy marn i. Os fydd o’n dod yn arweinydd eto, siŵr o fod bydd y 23% sydd wedi aelodi’n ddiweddar yn gadael eto!

§

Ben , Chwefror 16, 2012 11:50 am

“Dim ond Dafydd El sy’n gallu siarad yn gall ac yn rhugl yn y ddwy iaith”
Nid yw pawb yng Nghymru yn siarad Cymraeg- deliwch gyda’r peth! Yn ail, nid Cymraeg fydd yn creu gwlad annibynnol ffyniannus ond gwleidyddiaeth. Yn drydydd, mae siarad byth a beunydd am yr iaith yn gwyntyllu’r hen agwedd mai plaid i’r Cymry Cymraeg yn unig ydy hi: dyw hi ddim. Yn olaf, bydd pobl yn edrych ar Dafydd El yn y de a gweld Prydeiniwr nawddoglyd, bydd pobl yn y de yn edrych ar Elin fel cardi o’r gorllewin. Leanne yw’r opsiwn gorau

§

Dafydd , Chwefror 16, 2012 12:36 pm

Ben: “bydd pobl yn edrych ar Dafydd El yn y de a gweld Prydeiniwr nawddoglyd, bydd pobl yn y de yn edrych ar Elin fel cardi o’r gorllewin”

Iawn, ond dylid ychwanegu, “a bydd pobol yn edrych ar Leanne fel merch o’r cymoedd”

Dwi ddim yn deall beth sydd o’i le ar fod yn gardi o’r gorllewin, ddim mwy na bod yn hwntw o’r sowth, neu’n gog o’r north. Beth yw’r “issue”? Pam fod cael rhywun o’r de yn llawer rhagorach na chardi?

§

athro , Chwefror 16, 2012 1:59 pm

Beth bynnag am iaith Leanne Wood (a gobeithiwn y gwnaiff hi’r ymdrech i ddod yn rhugl mewn byr o dro, fel y dylai pob ffigur cyhoeddus yng Nghymru ond yn enwedig aelodau’r Blaid) dyma nodyn ar iaith yr erthygl:

“Er bod ei gŵr, Dafydd Wigley, wedi gwrthod dweud pwy fydd yn ei gefnogi”

Cofiwn fod treiglo yn bwysig:

i) ‘pwy (a) fydd yn ei gefnogi’ = D.W. yn cael cefnogaeth!!
ii) ‘pwy (y) bydd yn ei gefnogi’ = D.W. yn cefnogi rhywun

§

Lowri , Chwefror 16, 2012 2:32 pm

clywch clywch Dafydd! – pam mai’r Cymry yn y cymoedd ddylai gael yr ystyriaeth fwyaf o ran pwy sy’n addas i arwain? Ydi hi’n fwy pwysig na dim byd arall i’r arweinydd newydd yma i gael ei derbyn gan y di-Gymraeg yn y cymoedd ydi? Mae Elin Jones (a DET) yn rhygl ac yn gallu trosglwyddo’u neges yn y DDWY iaith – ac felly yn llawer mwy cymwys i arwain y blaid ar ran CYMRU GYFAN

§

Ben , Chwefror 16, 2012 3:55 pm

Dafydd- mae rhan fwyaf o boblogaeth Cymru yn byw yng Nghaerdydd, Casnewydd a Gwent, lle mae gan Lafur fwyafrif. Yn fy marn bydd hi’n apelio’n fwy atynt o achos ei chefndir , dyna i gyd.

§

Ben , Chwefror 16, 2012 4:01 pm

Mae’n dysgu Cymraeg, a dyw e ddim yn deg bod pobl yn ei rhoi i lawr achos bod hi ddim yn rhugl eto. Mae ei gwerthoedd fel gwleidydd hefyd yn apelio ataf i, mae’n weriniaethwr e.e. Lowri- dw i yn cytuno gyda chi ond beth sydd a wnelo gallu ieithyddol yr arweinydd ag economi Cymru ac annibynniaeth? Dim. Mae ganddi agwedd eithriadol o dda at yr iaith ; mae’n dysgu, mae’n anfon ei merch i ysgol gymraeg a mae wedi bod i sawl cyfarfod a rali Cymdeithas yr Iaith, a welais i ddim Elin neu Dafydd El yn yr un ohonyn nhw. Mae’r Gymraeg yn drysor, ac y mae ganddi le ym mhob agwedd o fywyd yng Nghymru. Ond er lles Duw newidiwch y record.

§

Jones , Chwefror 16, 2012 4:18 pm

Lowri: mae’n dibynnu be mae’r Blaid wedi’i sefydlu i wneud. Os mai i enill grym yn G’dydd. Felly ie, mae Ben yn gywir i ddweud mai Leanne fysar gorau. Pam? oherwydd i enill Llywodraeth, fydd rhais enill y seddi mae Llafur hefo lawr yn y cymoedd. A dwin meddwl yn y byd modern- dyma yw amcan y Blaid.

Ond dwin cytuno da lot sydd wedi’i ddweud. O nin meddwl mai Daf El fysa y siaradwr gorau (ond y polisiau gwaethaf) – ond na, mae’r gweddill wedi siarad yn well na fo – sydd yn fy synu i.

Onim yn meddwl y bysa Elin yn siarad yn gret – llais rhy ddistaw- ond main wneud yn dda iawn.

Tra, er fy mod i yn cytuno gyda BRON bob dim mae Leanne yn ei ddweud. Dwim yn teimlo bod na tan yn eu bol hi- mwy fel trafodaeth na “REIT- dwisio hyn ar llall”. Hwn ywr unig peth dwin poeni am dan LW – efallai y fysa hi yn cael ei cyfleu yn eithaf diflas, dim llawer o hyder. Ond eto, gyda chydig o training- geith hynny i sortio.

Fyddain penderfynnu yn 100% yn G’fon. Onin eithaf sicr mai LW fysan cael fy mhleidlais- ond mae rhaid iddi gwellau y ffordd main siarad a ddim jest darllen o ryw ddarn o bapur.

§

Jones , Chwefror 16, 2012 4:21 pm

Ac ynglyn ar iaith Gymraeg. Be maer ddynes isio ydy hyder i allu i ddefnyddio fo- dim isio pobol ar gwefanau fel Golwg yn deud bod hin neud yn wael.

Main dysgur iaith, main gyrru ei merch hi i ysgol gymraeg – dylsa y bod nin llongyfarch hi am hyn. Caria mlaen LW- tin neud yn dda, dim ond angen hyder fel mae lot fawr o ddysgwyr angen wyt ti!

§

Ben , Chwefror 16, 2012 5:09 pm

Clywch clywch Jones- hyder sydd angen arni hefyd, nage pobl yn dweud bod hi ddim yn gallu siarad yr iaith

§

Marc , Chwefror 16, 2012 6:10 pm

Diwrnod trist iawn yn hanes y Blaid fyddai ethol arweinydd sydd ddim yn Gymro Cymraeg/Gymraes Gymraeg. Er cymaint yw rhinweddau honedig Leanne Wood, all hi ddim uniaethu â ni sy’n byw yn neu’n hannu o’r Fro Gymraeg, na chwaith â’r profiad o fod yn Gymro Cymraeg. Elin Jones fyddai’r dewis gorau fel arweinydd.

§

Ifor Hughes , Chwefror 16, 2012 8:03 pm

Ma y ddadl ma wedi mynd ar tangent braidd – yr hyn dwi’n trio i ddeud oedd fod Leanne yn hopeless yn Saesneg .

Plis peidiwch a deud diw’r gallu i gyflwyno eich hun ar y teledu ddim yn bwysig – dyna beth SYDD yn bwysig.

Eto yn wahanol i Dafydd Wigley roedd Leanne ( rhywun dwi moyn gefnogi) yn hopless ar CF99 a Sharp End .

§

Blaidd , Chwefror 16, 2012 8:11 pm

“mae rhan fwyaf o boblogaeth Cymru yn byw yng Nghaerdydd, Casnewydd a Gwent, lle mae gan Lafur fwyafrif.”

Ac mae pobol o’r cymoedd yn fwy estron iddyn nhw na’r Cymry Cymraeg ;)

§

Crebwyll , Chwefror 16, 2012 8:54 pm

@ Marc. Os wyt ti’n gweld cymaint a hynna o raniad ymhlith dy bobl dy hun mae wir ar ben yn dyw hi? Ond rwyf i’n anghytuno a dy ddadansoddiad. Wrth gwrs y medr Leanne uniaethu a’r ardaloedd Cymraeg a’r chwareli ayb. Yn union fel gall yr ardaloedd Cymraeg uniaethau a’r cymoedd glofaol a oedd yn meddu ar y Gymraeg hyd at yn gymharol ddiweddar iawn. Canlyniad ein hegsbloetio a’n darnio gan ein gelynion yw’r rhaniad iaith nid rhywbeth i’w barhau wrth osod ein hunain tu ol i faracéds i ddrwgdybio ein gilydd. Dyna yn union eto fyddai ein gelynion yn ddymuno ein gweld yn wneud.

§

O'R MORLAN , Chwefror 16, 2012 8:59 pm

Dyma’r marciau allan o 10 yn dilyn hysting Aberystwyth

Dafydd: Gormod o siarad di-flewyn ar dafod. Fel pawb dros ‘i 60 byddai’n dda iddo fe gyfrif ‘i farblis cyn mynd mas yn y bore. Henaint. Piti mawr. Ces fy siomi ac fe gollodd e bleidlais(iau). 4 marc.
Leanne: Siomedig. Methu deall pam mae hi sy’n denu’r holl sylw. Mae’n amlwg taw clochdar y we sy’n ei chynnal. Yn brin o swmp a sylwedd. Methodd fy argyhoeddi. 6 marc
Elin: Syrpreis y noson! Ai dyma’r Elin newydd? 8 marc

Dwi’n dal mewn pembleth! Piti nad oes run o’r tri yn taro deuddeg . . . hyd yn hyn.

§

Jones , Chwefror 16, 2012 10:18 pm

Oherwydd pobl fel Marc tydy Cymru ddim yn mynd yn ei flaen (fel mae’r Alban ar y funud).

Yndw, dwi’n cytuno y bysa fon ofnadwy petai CyI yn cael arweinydd di gymraeg. Ond nid Plaid syn ymladd am yr iaith yn unig yw Plaid Cymru – ond ia, the Party of Wales. Plaid i unrhyw un yng Nghymru. Felly ni ddylai sgiliau iaith ddod i fewn ir cwestiwn, dim ond bod rhaid ir arweinydd cytuno a polisiau ac amcanion y iaith.

Fe fysa cael Leanne yn helpu ni ddwyn seddi oddi ar Llafur (fel wnaethon ni yn 1999). A da ni angen y rhain i gael i fewn i Llywodraeth. Dim ond wrth wneud hyn allwn ni ddefnyddio grym i mynd a Cymru ar Chymraeg ymlaen.

Tydy bod yn Blaid ymylol – sydd dim ond yn edrych ar ol gofynion rheini yn y Gogledd Orllewin byth yn gallu gwneud hynny oherwydd nid oes digon o seddi yma!

§

Iwan Prys , Chwefror 16, 2012 10:39 pm

Roedd Leanne yn arbennig o dda yn y dadleuon teledu. Pob lwc iddi – hi yw’r ymgeisydd gorau o bell ffordd, rhywbeth efallai bod mwy nag un aelod o deulu Wigley yn ei feddwl.

§

Iwan Rhys , Chwefror 17, 2012 8:48 am

Marc: “Diwrnod trist iawn yn hanes y Blaid fyddai ethol arweinydd sydd ddim yn Gymro Cymraeg/Gymraes Gymraeg.”

Pam?! Ac rwyt ti’n dweud hynny fel petai rhyw ‘birth-right’ arbennig gan y rhai ohonom sy’n ddigon ffodus i gael ein geni’n Gymru a’n magu mewn teulu sy’n siarad Cymraeg.

Dwirnod llawer tristach yn hanes y Blaid fyddai ethol arweinydd sy’n methu cyfleu yn glir beth yw ei farn ar annibyniaeth i Gymru, gan wrth-ddweud ei hun dro ar ol tro, sydd â chymaint o ddiffyg uchelgais i’r Blaid fel iddo ddweud yn blaen ar y teledu, dan bwffian chwerthin, na fydd Plaid Cymru yn goddiweddyd Llafur fel y blaid fwyaf yn y Cynulliad, ac sydd yn dweud wedi dweud yn blaen yn ei ohebiaeth mai priod swyddogaeth Plaid Cymru yw cefnogi’r Blaid Lafur yn y Cynulliad!

Ro’n i o’r farn mai Leanne Wood oedd yn ateb cwestiynau yn fwyaf plaen a gonest ar y rhaglenni teledu, heb falu’r diarhebol. Dwi hefyd wedi bod i sawl un o’i chyfarfodydd, ac mae’n llwyddo i ateb pob cwestiwn i’r pwynt, gan lynu wrth ei hegwyddorion – heb ddod drosodd fel rhyw wleidydd sy’n barod i wyro o’i hegwyddorion er mwyn ceisio ennill ambell bleidlais ychwanegol yn y gynulleidfa benodol honno.

§

Rhys Gethin , Chwefror 17, 2012 11:57 am

@O’R MORLAN – annheg iawn yw disgwyl i’r ymgeiswyr daro deuddeg pan wyt yn eu marcio allan o ddeg.

Ond rwy’n cytuno â thi – mae’r heip annaturiol hwn yngylch Leanne Wood ar y we yn golygu fy mod yn cael fy nadrithio ychydig pan glywaf hi’n siarad. Ac os yw hi mor wych â hyn, pam nad yw’r heip wedi bodoli ers blynyddoedd?

§

Rhys Gethin , Chwefror 17, 2012 12:06 pm

Yn y neges uchod, darllener “ynghylch” am “yngylch”!

§

O'R MORLAN , Chwefror 17, 2012 2:38 pm

Gai sicrhau Rhys Gethin mod i’n gallu cyfrif. Gair o eglurhad. Buaswn fodlon gweld arweinydd y Blaid yn sgorio 10 ond petai gan fe neu hi y clyfrwch i sgorio 12 fel mae Al Sam yn medru gwneud, buasai hynny yn fonws eithriadol.

§

Ifor Hughes , Chwefror 17, 2012 7:09 pm

Dwi am ddtagan yn glir dwi ddim yn elyniaethus i LW am nad yw hi’n gallu siarad Cymraeg – dwi’n deud yn blwmp ac yn blaen fedrith hi dim cyflwyno eu dadleuon yn clir yn SAESNEG! Dyna’r broblem wnaeth y cyfrnygau ‘mince meat ‘ o honni.

Pledleiswch i DET da chi neu fydd y Blaid ar ymylon yr ymylon.

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.