Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Llofruddiaeth – Heddlu o Gymru’n teithio i Wlad Thai

Chwefror 16, 2012 16:16, Diweddarwyd am 18:09


Kirsty Jones
Bydd dau swyddog o Heddlu Dyfed-Powys yn mynd i Wlad Thai i ymchwilio i lofruddiaeth merch 23 oed o Gymru yno yn y flwyddyn 2000.

Cafodd Kirsty Jones, 23, o Dredomen ger Aberhonddu ei threisio a’i chrogi wrth deithio yng Ngwlad Thai 12 mlynedd yn ôl.

Bydd y swyddogion yn mynd allan yno i wneud ymchwiliad pellach yn ystod y dyddiau nesaf.

Roedd y ferch o Bowys newydd ddechrau ar daith dwy flynedd o gwmpas y byd, pan gafodd ei llofruddio.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys wrth Golwg 360 heddiw y byddai dau o’u swyddogion heddlu yn cael eu hanfon allan i Wlad Thai dros y penwythnos er mwyn cyfarfod â swyddogion o Awdurdod Chiang Mai’r wythnos nesaf.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Ian Arundale heddiw fod awdurdodau Gwlad Thai yn “ymwybodol o ymroddiad y swyddogion i ddarganfod y gwir a sicrhau cyfiawnder i Kirsty a’i theulu”.

“Mae uwch-swyddogion yn parhau i gredu y gall yr achos hwn ddod i derfyn llwyddiannus,” meddai.

“Mae’n achos anarferol ac ry’n ni’n credu y gallwn ni, 12 mlynedd yn ddiweddarach, roi cymorth i heddlu Gwlad Thai i ddal y troseddwr.”

Tystiolaeth

Un o’r rhai fydd yn mynd allan i Wlad Thai fydd y Ditectif Uwcharolygydd Steve Wilkins, sydd yn arwain yr achos ar ran Heddlu Dyfed Powys.

Heddiw, dywedodd ei fod yn credu y dylai’r dystiolaeth fforensig fod yn “ganolbwynt i’r ymchwiliad, ac rydyn ni’n barod i’w helpu nhw wrth ddadansoddi ei werth”.

“Rydyn ni’n credu bod yr atebion i’w achos hwn i’w cael yng Ngwlad Thai, yn enwedig yn Chiang Mai,” meddai.

“Yn ôl ym mis Hydref 2010, fe wnaethon ni ymateb i gais gan Dwrne Cyffredinol Gwlad Thai. Rydyn ni’n dal i ddisgwyl ymateb i nifer o’r materion a godwyd yn ymwneud â’r gwaith a wnaed bryd hynny.

“Mae’r gwaith hwn yn cynnwys ail-gyfweld nifer o dystion sydd bellach yn byw yn y Deyrnas Unedig, yn ogystal â chyd-weithio ar draws y ffin gyda Swyddfa’r Goron ac asiantaethau a lluoedd eraill yr heddlu. Roedden ni hefyd wedi dod o hyd i nifer o dystion yn byw yng Ngwlad Thai, ac un sy’n byw yn India.”

Bydd y Ditectifs yn teithio i Wlad Thai dros y penwythnos i barhau â’r ymchwiliad.

Er gwaetha’r ffaith bod sawl person wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â’r achos dros y blynyddoedd, does neb erioed wedi eu cyhuddo mewn cysylltiad â’r farwolaeth.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.