Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



San Steffan yn ceisio ‘dadlwytho cyfrifoldebau’ ar Gymru

Chwefror 17, 2012 11:57, Diweddarwyd am 12:20


Mark Drakeford
Mae un o ACau Llafur wedi rhybuddio bod San Steffan yn bwriadu “dadlwytho cyfrifoldebau” ar Lywodraeth Cymru nad ydyn nhw eu heisiau.

Daw rhybudd Mark Drakeford wrth i bapur gwyn ar newidiadau i’r wladwriaeth les gael eu trafod yn Nhŷ’r Cyffredin.

Mae’n dweud fod San Steffan wedi cynnig trosglwyddo cyfrifoldeb dros y Gronfa Gymdeithasol i Fae Caerdydd, er mwyn osgoi gorfod delio ag ef eu hunain.

Mae’r gronfa werth £9.8 miliwm ac yn darparu grantiau cymdeithasol i’r rheini sydd eu hangen.

Y llynedd fe wnaed cais am gefnogaeth ariannol gan y Gronfa Gymdeithasol gan 93,000 o Gymry.

Hwn fydd y tro cyntaf i Lywodraeth San Steffan gynnig trosglwyddo grym dros unrhyw faes i Lywodraeth Cymru heb fod Cymru wedi gorfod gofyn amdano gyntaf.

Roedd hynny wedi cynyddu’r amheuaeth, medd Mark Drakeford, fod San Steffan eisiau dadlwytho’r cyfrifoldebau llai deniadol ar y gwledydd datganoledig.

“Dros ddegawd o ddatganoli mae’r Cynulliad wedi gofyn i San Steffan i drosglwyddo grymoedd bob tro,” meddai.

“Yn yr achos yma mae San Steffan wedi dweud wrth Gymru a’r Alban nad ydyn nhw erioed wedi gofyn am hyn, ond ei fod yn rhywbeth y maen nhw’n mynd i orfod cymryd cyfrifoldeb drosto.

“Yn yr Alban yn sicr mae yna drafodaeth y dylid derbyn hyn ai peidio. A yw’n bosib gorfodi’r gwledydd datganoledig i dderbyn grymoedd? Dwi’n meddwl mai dyma’r tro cyntaf i hyn ddigwydd.”

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi dogfen ymgynghorol ar y mater, gan ystyried sut y byddai’r arian yn cael ei ddosbarthu yng Nghymru petai’r grym yn cael ei drosglwyddo i Fae Caerdydd yn sgil y Bil Newidiadau i’r System Lles.

Y drafferth

Mae Mark Drakeford yn rhybuddio y gallai rheoli’r Gronfa Gymdeithasol fod yn drafferthus, ac nad yw’r arian sydd ar gael yn y gronfa wedi cwrdd â’r galw.

“Byth ers iddo gael ei sefydlu ddiwedd yr 80au, mae’r gronfa wedi ei lethu gan y galw. Dyw’r gronfa erioed wedi gallu ymdopi â’r galw arno,” meddai.

“Dwi’n meddwl y system sydd y tu cefn i’r Gronfa Gymdeithasol yn ddiffygiol iawn. Bydd y galw yn cynyddu â’r cynnydd mewn diweithdra a thoriadau i sefydliadau eraill.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ann , Chwefror 17, 2012 12:45 pm

Mae pwerau datganoli yn golygu delio â phethau llai poblogaidd hefyd. Ffaith

§

Jones , Chwefror 17, 2012 3:51 pm

Cytuno Ann,
Got to take the rough with the smooth. Llawer haws i Lafur gael y pethau ‘neis’ fel datganoli darlledu. Ond rhaid hefyd cael y pethau anodd – os ddim nawni byth sefyll i fyny dros ein hunain.

Ac yn sicr – pe bai Cymru yn cael pwerau dros rhywbeth fel Benefits, bysa, mi fysa yn costio bomb ir cynulliad. Ond nes bod rhywbeth fel hyn yn digwydd- maen digon hawdd i Bae Caerdydd eistedd yn ol a gweld teuluoedd yn Merthyr yn parhau i fod yn ddiwaith. Efallai, pe bai Cymru yn cael pwerau yma- oherwydd bod o MOR gostus, fe fysa nin cael yn gorfodi i sortio’r broblem unwaith ac am byth.

§

CGT , Chwefror 17, 2012 5:28 pm

Dyna beth ydi ystyr datganoli. Rhaid gwynebu’r chwerw yn ogystal a’r melus. Mae’r un dadl wedi cael ei godi’n ddiweddar am ddatganoli cyflogau athrawon – mae cenedlaetholwyr naturiol yn dadlau yn ei erbyn oherwydd fod NASUWT yn ei wrthwynebu mor chwyrn . Y mwyaf annibynnol yr ydym, y mwyaf y posibilrwydd o olud neu o dlodi. Dyna’r risg mae’n
rhaid ei gymeryd.
Mae ACau y Blaid Lafur eisiau cyn lleied o rym a phosibl oherwydd ei bod, yn ei hanfod yng Nghymru, yn blaid y bobl ddiog .

§

DC , Chwefror 17, 2012 6:24 pm

Diolch yn fawr i chdi Mark am fod mor hael ag i feddwl ar ein rhan ni – rydym ni’n graduriaid mor drist, analluog ac anwybodus nad allen ni byth benderfynu drosom ni ein hunain.

§

Crebwyll , Chwefror 17, 2012 6:48 pm

Na pkoener Marc bach. Ys dywedodd yr hen Wil – “Be not afraid of cyfrifoldebau: some are born with cyfrifoldebau, some achieve cyfrifoldebau and
some have cyfrifoldebau thrust upon them”.

§

Crebwyll , Chwefror 17, 2012 6:48 pm

Na phoener Marc bach. Ys dywedodd yr hen Wil – “Be not afraid of cyfrifoldebau: some are born with cyfrifoldebau, some achieve cyfrifoldebau and
some have cyfrifoldebau thrust upon them”.

§| Nodi camddefnydd

Martin , Chwefror 17, 2012 7:24 pm

Mae’r sylwadau hyn gan Aelod o’r Cynulliad yn hurt – be ddiawl mae’r mul dwl yn disgwyl gwneud yn y Senedd, ac yntau’n derbyn cyflog hael?
Mae dataganoli yn golygu derbyn cyfrifoldeb, gwneud penderfyniadau a gweithredu er ein lles ein hunain.

Sut ar wyneb daear mae llipryn fel hwn yn cael ei ethol i’r Cynulliad?

§| Nodi camddefnydd

Iwan Prys , Chwefror 17, 2012 8:28 pm

Mae Mark Drakeford yn ddyn galluog iawn, ond yn anffodus mae fe’n defnyddio ei allu i ddatblygu achos yn erbyn datganoli yn hytrach na gwella bywydau pobl Cymru. Eto, mae’n swnio fel y byddai’n well da fe gael y Torïaid yn rhedeg pethau yn hytrach nag ein Senedd ein hunain.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.