Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Brew yn gadael y Dreigiau

Chwefror 17, 2012 15:05


Aled Brew
Mae Dreigiau Casnewydd Gwent wedi cyhoeddi y bydd yr asgellwr, Aled Brew, yn gadael y rhanbarth ar ddiwedd y tymor.

Fe fydd yn ymuno â ‘Chlwb Ewropeaidd’ – ond does dim manylion ynglŷn ag enw’r clwb eto.

Mae’r asgellwr 24 oed wedi treulio dau gyfnod â’r Dreigiau, gan ennill dros 100 cap i’r rhanbarth, ac ennill wyth cap dros Gymru yn y cyfamser.

“Rydw i’n edrych ymlaen at symud dramor ond yn gadael y Dreigiau â chalon drom,” meddai.

“Cefais gynnig chwarae i dimoedd eraill yng Nghymru a Lloegr ond doedd gen i ddim diddordeb.

“Mae’r Dreigiau wedi rhoi’r cyfle i mi chwarae rygbi rhanbarthol, ac wedi helpu i mi gyflawni fy uchelgais o chwarae rygbi rhyngwladol.”

Halen yn y Brew

Roedd Aled Brew yn rhan o sgwad Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd ond ni chafodd ei gynnwys yn sgwad y Chwe Gwlad eleni.

“Roedd peidio â chael fy nghynnwys yn y sgwad wedi chwarae rhan yn fy mhenderfyniad i symud dramor. Ond rydw i hefyd yn gobeithio y bydd profi cynghrair gwahanol yn fy ngwneud i’n chwaraewr gwell,” meddai.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.