Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Miliband yn apelio dros barhad y Deyrnas Unedig

Chwefror 18, 2012 14:10


Arweinydd Llafur, Ed Miliband
Mewn araith yng Nghaerdydd heddiw, apeliodd arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, ar bobl yr Alban i beidio â gadael y Deyrnas Unedig.

Gan ddweud ei fod wrth ei fodd o gael bod yn ôl yn “Labour Wales”, meddai wrth gynhadledd Llafur Cymru yn stadiwm Swalec:

“Mae datganoli wedi gweithio. Nid yn unig i bobl Cymru ond i bobl yr Alban ac i bobl y Deyrnas Unedig yn ogystal.

“Mae gennym ddyletswydd, ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig, i ymladd dros ein Teyrnas Unedig.

“Yn economaidd, rydyn ni’n gryfach gyda’n gilydd.”

‘Cyfalafiaeth anghyfrifol’

Wrth ganmol llywodraeth Carwyn Jones am y ffordd “gyfrifol” yr oedden nhw’n rhedeg Cymru “er lles cymdeithas”, cyhuddodd lywodraeth Prydain o wneud llanast o’r economi ac o ledu’r bwlch rhwng y tlawd a’r cyfoethog.

“Mae gormod o’n heconomi’n seiliedig ar gyfalafiaeth anghyfrifol,” meddai.

Ymosododd hefyd ar Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan.

Dywedodd fod Aelod Seneddol Chesham ac Amersham â mwy o ddiddordeb mewn gwrthwynebu rheilffordd gyflym trwy ei hetholaeth nag mewn ymladd dros “bobl ddi-waith Caerdydd neu fusnesau bach Abertawe.”

“Nid dynes Cymru ar fwrdd y Cabinet yw hi’n gymaint â dynes swydd Buckingham yng Nghymru.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Iwan Rhys , Chwefror 18, 2012 4:05 pm

“cyhuddodd lywodraeth Prydain o wneud llanast o’r economi ac o ledu’r bwlch rhwng y tlawd a’r cyfoethog.”

Mae’n well i mi atoffa Miliband o record Llafur.

Yn 1997, roedd incwm cyfartalog yr 20% cyfoethocaf ym Mhrydain 6.9 x incwm cyfartalog yr 20% tlotaf. Erbyn 2010, roedd y ffactor wedi cynyddu i 7.2. A hynny ar ol 13 mlynedd o Lywodraeth LLAFUR!

Dyma beth yw rhagrithiwr!

§

CGT , Chwefror 18, 2012 4:45 pm

Brysied y dydd pan y gwnaiff etholwyr Cymru flino ar y sliwan yma a’i gynffonwyr .

§| Nodi camddefnydd

Mali , Chwefror 18, 2012 5:45 pm

Toris a Llafur Newydd yng Nghymru, be ydy’r gwahaniaeth??

§| Nodi camddefnydd

Crebwyll , Chwefror 18, 2012 6:48 pm

“Yn economaidd, rydyn ni’n gryfach gyda’n gilydd.”?

Ond Ed bach ti’m yn dalld dwa dyda ‘ni’ yn fan hyn ddim yn ‘gryf yn economaidd’ o gwbl nac ydan!!? A ‘da ni’n fotio i chdi a dy blaid a dy ‘union’ ers bron i gan mlynadd a da ni dal ddim callach!!!!

§| Nodi camddefnydd

Neilyn , Chwefror 19, 2012 2:16 pm

Yr un hen gelwydd, yr un hen ragrith. Pwrpas Llywodraeth Cymru yw ymladd dros ddyfodol economaidd, cymdeithasol a diwyllianol Cymru a’r Cymry Mr Milliband, nid poeni am Y Deyrnas Hunanbwysig.

§| Nodi camddefnydd

Ann , Chwefror 20, 2012 10:26 am

Llafur ollyngodd y jini allan o’r lamp, ac yn awr maent am ei gwthio yn ôl i mewn. Rhy hwyr iddynt dwi’n ofni!

§| Nodi camddefnydd

Rhygyfarch , Chwefror 20, 2012 9:50 pm

Fe wyliais yr araith brynhawn sadwrn, ac rown yn siomedig: tra ar yr un llaw yn ail-bobi’r dwli Sosialaidd am undod y dosbarthiadau drwy’r cenhedloedd (hollol briodol i lowyr yn 1926, annerbyniol i blaid y ‘sgwîsd midyl’), roedd hefyd yn chwarae ar senoffobia Cymreig trwy ymosod ar Seisnigrwydd Cheryl Gillan. Dwi’n dyheu am blaid yng Nghymru nad sy’n llywodraethu er mwyn llywodraethu, ond sydd a gofal gwirioneddol dros y bobl!

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.