Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Carwyn Jones yn dirmygu cynlluniau iechyd Lloegr

Chwefror 18, 2012 18:49


Y Prif Weinidog Carwyn Jones
Mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi galw ar David Cameron i gael y gwyleidd-dra i gydnabod fod cynlluniau ei blaid i ddiwygio’r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr yn anghywir.

Yn ei araith yng nghynhadledd Llafur Cymru yn stadiwm Swalec yng Nghaerdydd, addawodd y byddai Llywodraeth Cymru’n gwarchod y Gwasanaeth Iechyd rhag cael ei breifateiddio.

“Dw i’n credu mewn gwasanaethau o safon uchel sydd ar gael i bawb – nid yn ddewis i’r ychydig,” meddai.

“Yn wahanol i’r Torïaid, fyddwn ni ddim yn dadfeilio’r Gwasanaeth Iechyd.”

Gan gyfeirio at feirniadaeth David Cameron o Wasanaeth Iechyd Cymru yn Nhŷ’r Cyffredin yn ddiweddar, tynnodd Carwyn Jones sylw at y trafferthion y mae Llywodraeth Prydain yn eu cael wrth geisio cyflwyno’r Mesur Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

“Pe bai angen unrhyw brawf ein bod ni’n symud y Gwasanaeth Iechyd i’r cyfeiriad iawn yma yng Nghymru, does ond angen edrych ar yr hyn sy’n digwydd yn Lloegr ar hyn o bryd,” meddai.

“Rhesymau ideolegol sydd y tu ôl i’r hyn y mae’r Torïaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ei wneud i’r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr.

“Pam na chân nhw hyd i’r gwyleidd-dra i ddweud ‘roedden ni’n anghywir’?”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ken , Chwefror 18, 2012 7:43 pm

Beth am Bronglais , Carwyn ?
Buasai chi a’ch cyfeillion yn hapusach petai pob ysbyty y tu allan i’r Cyntedd M4 yn cael eu cau .

§

gweriniaethwr , Chwefror 18, 2012 11:28 pm

Ma Carwyn Jones yn un pert i siarad am gwneud y peth iawn ar y mater hyn fel ma Ken wedi pwyntio m’as.

§

Crefishgyn , Chwefror 19, 2012 10:25 pm

Rhagrith. Mae fe’n rhedeg llywodraeth sy’n cwtogi ar gyllidebau’r Gwasanaeth Iechyd. Ac mae Llafur wedi camarwain Cymru ar ddyfodol ein hysbytai cyffredinol rhanbarthol. Rhag ei gywilydd.

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.