Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Llafur yn targedu pleidleiswyr Plaid Cymru

Chwefror 19, 2012 11:26, Diweddarwyd am 11:29


Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn cadarnhau bod Llafur yn targedu pleidleisiau cefnogwyr Plaid Cymru ar gyfer etholiadau’r cynghorau ym mis Mai.

Dywed fod cefnogwyr Plaid Cymru wedi cael eu dadrithio dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Mae Plaid Cymru mewn twll dwfn o’u gwneuthuriad eu hunain,” meddai. “A oes unrhyw syndod mai nhw yw’r drydedd blaid yng ngwleidyddiaeth Cymru bellach?

“Os edrychwch chi ar y poliau piniwn diweddaraf, fe wyddon ni nad yw dau draean o bleidleiswyr Plaid Cymru o blaid annibyniaeth – ond eto annibyniaeth yw prif thema gornest arweinyddol y Blaid.

“Ein neges i’r bobl sy’n falch iawn o fod yn Gymry yw mai Llafur Cymru yw eu cartref naturiol, ac nid Plaid Cymru.”

Yn ei araith yng nghynhadledd Llafur Cymru yng Nghaerdydd ddoe, dywedodd fod Llafur wedi gwneud mwy dros yr iaith Gymraeg nag a wnaeth Plaid Cymru erioed.

“Tra bod Plaid Cymru wrthi’n pendroni a ddylen nhw greu enw Saesneg iddyn nhw’u hunain, mae Llafur wedi creu’r swydd o gomisiynydd yr iaith Gymraeg,” meddai.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


DC , Chwefror 19, 2012 7:40 pm

A heb Plaid Cymru’n rhan o glymblaid Cymru’n un fuaset ti ddim wedi codi bys o blaid y Gymraeg, Carwyn. Mi fuaset ti ‘di plygu i Hain a’i griw a gwneud yr un peth ag rwyt ti wedi gwneud dros yr wyth mis diwethaf efo’r hawliau newydd i ddeddfu – dim.

§

Lewis , Chwefror 19, 2012 8:41 pm

Camgymeriad i Lafur. Maen nhw’n gymryd Plaid Cymru yn ddifri, a fydd bobl yn weld hynny. Maen nhw’n dweud bod Plaid yn blaid digon o bwysig i eu herio nhw. Fyddai hwn yn dda iawn i Blaid yn y dyfodol. Dylai cefnogwyr Plaid Cymru yn eu gweld hwn fel peth da iawn.

§

Crefishgyn , Chwefror 19, 2012 10:28 pm

Ffaelu aros i weld arweinydd newydd Plaid Cymru yn taclo Carwyn Jones ar record ei “lywodraeth” dros y flwyddyn i ddod!

§

Llew , Chwefror 19, 2012 11:08 pm

Rhagrith unwaith eto gan y Blaid Lafur. Cael eu GORFODI ddaru nhw ers y 60au i gymeryd y Gymraeg o ddifrif diolch i garfan bwyso Cymdeithas yr Iaith. Cael eu gorfodi i gyflwyno arwyddion ffordd ddwyieithog ayyb. Mae fatha cael gwaed allan o garreg i basio ‘mlaen deddfau iaith a chynlluniau cyffrous o dan y Blaid Lafur e.e. yn nghyfnod y Glymblaid drwy gael deddf iaith newydd.

§

Mali , Chwefror 20, 2012 12:24 pm

Cytuno a’r uchod. Os yna rhywun heblaw Carwyn Jones wir yn credu fuaswn ni wedi gael mesur iaith newydd heblaw am Plaid bod yn rhan o’r llywodraeth Cymru Un? Enwedig wrth gofio faint mor gwrthwynebus oedd Llafur ar y syniad o unrhyw fath o ddeddf iaith newydd cyn 2007.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.