
Elin Jones
Rhodri Glyn Thomas AC, yw’r diweddaraf i ddatgan ei gefnogaeth i Elin Jones am arweinyddiaeth Plaid Cymru.
Dywedodd Aelod Cynulliad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr a’r cyn Weinidog Treftadaeth ei fod yn credu bod gan Elin Jones y gallu i ailadeiladu’r blaid.
“Rwyf i, fel llawer o aelodau eraill, wedi cael fy nghyffroi a’m hysbrydoli gan ymgyrch Leanne. Mae’r agenda ar gyfer y blaid wedi ei osod yn glir.
“Serch hynny, ochr yn ochr â’r weledigaeth yma o ymgyrchu mae angen ailadeiladu’r blaid. Credaf bod gan Elin y gallu i greu ac arwain tîm o bobl i wneud hyn ac rwy’n disgwyl i Leanne gael rôl bwysig yn y tîm hwnnw. Ar sail hynny byddaf yn cefnogi Elin yn ei hymgyrch i ddod yn arweinydd nesaf Plaid Cymru.”
Mwyafrif
Rhodri Glyn Thomas yw’r aelod diweddaraf o Grŵp Cynulliad Plaid Cymru i ddatgan ei gefnogaeth i Elin, sydd bellach yn golygu bod mwyafrif clir o’i chyd Aelodau Cynulliad yn ei chefnogi i ddod yn arweinydd nesaf y Blaid.
Dywedodd Elin Jones: “Nawr bod Rhodri Glyn Thomas wedi cadarnhau ei gefnogaeth i’m hymgyrch arweinyddol, rwy’n falch fy mod felly wedi derbyn cefnogaeth y mwyafrif o’m cyd-aelodau yn Grŵp Cynulliad Plaid Cymru.
“Rwyf wastad wedi dweud fy mod am ddod â’r Blaid ynghyd o dan fy arweinyddiaeth a symud ymlaen i’n cyfnod newydd yn hyderus. Rwyf felly’n croesawu derbyn y gefnogaeth i gyflawni hyn gan y rhan fwyaf o’m cyd Aelodau Cynulliad.
“Fodd bynnag, rwyf wastad wedi credu fod angen i’r arweinydd newydd hefyd ennill ymddiriedaeth a chefnogaeth yr aelodau ar lawr gwlad, ac edrychaf ymlaen at esbonio fy ngweledigaeth ar gyfer y Blaid a Chymru i gynifer ohonynt â phosibl yn ystod yr wythnosau olaf yr ymgyrch arweinyddol”.
Mae’r blaid yn cynnal tair wythnos o hystings cyhoeddus ar hyn o bryd. Fe fydd rhain yn para nes 26 Chwefror, pan fydd pleidleisiau post aelodau Plaid Cymru yn cael eu dosbarthu, er mwyn eu dychwelyd ar gyfer y cyfri, a’r canlyniad, ar 16 Mawrth.
Iwan Prys , Chwefror 20, 2012 10:08 am
§