Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Dafydd El yn lansio ffilm fer wedi ei hanimeiddio fel rhan o’i ymgyrch

Chwefror 20, 2012 11:42, Diweddarwyd am 17:28


Dafydd Elis-Thomas
Mae Dafydd Elis-Thomas AC yn lansio ffilm fer wedi ei hanimeiddio gan y cartwnydd ‘Mumph’ fel rhan o’i ymgyrch am arweinyddiaeth Plaid Cymru heddiw.

Mae’r animeiddiad yn ddwyieithog, ac yn amlinellu rhai o brif themâu ymgyrch yr Arglwydd Elis-Thomas i fod yn “arweinydd cynaliadwy i Blaid Cymru.”

Bydd Malcolm Humphreys, sef ‘Mumph,’ yn ymuno ag AC Dwyfor Meirionnydd ar gyfer y lansiad, ac yn esbonio pam mae’n cefnogi ymgyrch Dafydd Elis-Thomas.

Bydd y ffilm fer gan y cartwnydd ‘Mumph’ hefyd i’w gweld ar wefan  ymgyrch Dafydd Elis-Thomas, sef http://www.dafyddelisthomas.org/cy

Bydd y lansiad yn y Black Boy yng Nghaernarfon, rhwng 4 a 5 pm, heddiw.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ifor Hughes , Chwefror 20, 2012 2:09 pm

Yr UNIG ddewis call.

§| Nodi camddefnydd

Martin Wilias , Chwefror 20, 2012 5:12 pm

Ef yw’r dewis gorau.
Fodd bynnag, ceir llun ohonno ar ei wefan swyddogol. Mae’n mynd i dorri cacen a ceir “bring out the Cymraeg in you” yn y cefndir.
Wel, mae gwlad waraidd angen papur llydan ym mhriod iaith y wlad honno. Nid yw papur llydan Cymraeg o safon 7(ia 7!) diwrnod yr wythnos yn cael ceiniog o arian cyhoeddus.
Byd Cymraeg difyr-nid yw hyn yn ormod i’w ofyn.
Beth yw pwynt Cymru? Cafodd Saunders ei siomi’n arw gan Gymru a’r byd Cymraeg. Mae hyn yn bwnc cau-mynd-i-ffwrdd.

Paned a chyfle i ddarllen stwff difyr miniog yn ddyddiol. Rhywbeth normal mewn gwlad gall. Mae pobl sy’n mwynhau paned tra’n darllen stwff ar sgrin yn od.

§| Nodi camddefnydd

Martin Wilias , Chwefror 20, 2012 5:56 pm

Ar ben hynny, mae ei wefan yn cynnwys llythyr o gefnogaeth gan HPJ- yn y Western Mail. Nid oes gennym bapur dyddiol Cymraeg. Wel,wel…
Y mae hi’n bwysig na fydd arweinydd newydd Plaid Cymru yn blydi rhythu ar sgrin cyfrifiadur a ffidlan hefo llygoden yn ystod trafodaethau pwysig ym mhrif siambr y Senedd. Mater o synnwyr cyffredin ydi hyn. Ein prif fforwm cenedlaethol-heb bapur o safon ym mhriod iaith ein gwlad.
Mae’n brolio ei hun ei fod yn ddeallus. Hunanweniaith a hunan-dyb gan wleidydd- syniad gwael.
OND ef yw’r dewis gorau.

§| Nodi camddefnydd

Ifor Hughes , Chwefror 20, 2012 9:41 pm

Gobeithio wnaeth e ennill

§| Nodi camddefnydd

IGAM-OGAM , Chwefror 21, 2012 11:47 am

DET 1 LW 2

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.