Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Plaid yn galw am weithredu ar bris alcohol

Chwefror 20, 2012 17:19, Diweddarwyd am 17:44


Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wrando ar rybuddion arbenigwyr meddygol a gweithio i sicrhau datganoli prisio alcohol i Gymru.

Mae’n dilyn adroddiad yng nghylchgrawn meddygol y Lancet sy’n rhybuddio y gallai nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru godi i 14,000 dros yr 20 mlynedd nesaf, oni bai bod camau yn cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r broblem.

Yn dilyn yr adroddiad mae llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Elin Jones wedi galw eto am ddatganoli  prisio alcohol fel y gall Cymru gael rheolaeth dros y broblem hon a’r effaith gaiff ar y Gwasanaeth Iechyd ac economi Cymru.

Dywedodd Elin Jones: “Mae Plaid Cymru wedi bod yn galw am hyn ers amser maith, ac yr ydym yn falch fod Llywodraeth Lafur Cymru bellach wedi gwrando arnom. Buasai isafswm pris yr uned o alcohol yn gam effeithiol fel rhan o becyn ehangach o fesurau i sicrhau bod llai yn yfed alcohol rhy rad, a dyna pam ein bod am weld datganoli’r pwerau dros y maes polisi hwn i Gymru.

“Mae yfed gwallgo yn arbennig o niweidiol, a buasai isafswm pris yn targedu pegwn mwyaf peryglus y farchnad alcohol a gallai arwain at gael cwsmeriaid yn dychwelyd i dafarndai lleol.”

‘Camau pendant’

Daw’r rhybudd am beryglon gor-yfed alcohol  wythnos ar ôl i David Cameron ddweud ei fod am fynd i’r afael â’r broblem. Dywedodd y byddai’n edrych ar brisiau alcohol a sut mae ysbytai yn delio gydag effeithiau gor-yfed.

Wrth ysgrifennu yn y Lancet heddiw, mae’r arbenigwyr yn dweud ei bod “o fewn gallu Llywodraeth y DU” i wella’r broblem o or-yfed alcohol.

“Mae’r arbenigwyr hyn wedi amlinellu difrifoldeb peryglon gor-yfed alcohol, a pha mor niweidiol y gall hyn fod oni chymerir camau pendant,” meddai Elin Jones.

“Maent yn dweud wrthym fod 14,000 o fywydau mewn perygl yng Nghymru, a dyletswydd Llywodraeth Cymru yw gwneud rhywbeth am y peth.

“Efallai bod y blaid Lafur o’r diwedd yn unedig ar y pwnc hwn ac y byddant yn sylweddoli fod isafswm pris alcohol yn gam synhwyrol tuag at fynd i’r afael â phwnc gorddibyniaeth ar alcohol. Gobeithio y byddant o’r diwedd yn cymryd camau i ddatganoli’r pwerau angenrheidiol i Gymru, ac y gwelwn weithredu cadarnhaol yn hyn o beth.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ifor Hughes , Chwefror 21, 2012 5:06 am

Plaid yn galw am weithredu ar bris alcohol

Cytuno angen dod a’r pris lawr !

Seriously os gan Blaid Cymru death wish ? So much am ennill y Cymoedd gyda Leanne Wood sut ma cyfeillion Ms. Wood ar benefits mynd i dalu am eu cwrw ?

Seriously Leanne they wont thank you for it.. neu dim ond pobl posh Caerdydd ddyle yfed . Triple gins all round as we don’t say in Ystrad Mynach.

§

Ann , Chwefror 21, 2012 11:14 am

Nid y pris yw’r broblem gydag alcohol, ond y ffaith ei fod yn cael ei gamddefnyddio. Yr unig ffordd all codi’r pris gael effaith yw ei godi i £1,000 am botel o win neu £100 am beint o gwrw. Fel arall wnaiff codi’r pris affliw o wahaniaeth.

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.