Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



‘Llywodraeth Cymru wedi colli sawl cyfle i fuddsoddi yn y wlad’

Chwefror 21, 2012 07:59, Diweddarwyd am 11:36


Dan y lach: Edwina Hart
Mae Llywodraeth  Cymru wedi colli sawl cyfle i fuddsoddi yn y wlad, yn ôl adroddiad beirniadol sy’n cael ei gyhoeddi heddiw gan  Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan.

Yn yr adroddiad, mae’r pwyllgor yn dweud bod diddymu Awdurdod Datblygu Cymru bum mlynedd yn ôl wedi golygu bod Cymru yn llai “gweledol” yn y farchnad fyd-eang.

Dywed y pwyllgor bod yn rhaid i Lyowdraeth Cymru ystyried ar fyrder sut mae nhw’n mynd i godi ymwybyddiaeth o Gymru dramor. Mae nhw’n dadlau y dylai’r Llywodraeth sefydlu asiantaeth benodol i hybu masnach, un ai fel rhan o Lywodraeth Cymru neu fel corff yn y sector preifat.

Mae’r Pwyllgor hefyd yn dadlau nad oes gan Gymru yr adnoddau i ddenu buddsoddiad i’r wlad a bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gydweithio’n agosach gyda gwleidyddion a swyddogion yn Llywodraeth San Steffan er mwyn gwneud y mwya o’r cyfleon.

‘Beirniadaeth’

Mae’r Gweinidog Busnes, Edwina Hart hefyd wedi dod dan y lach am wrthod trafod datblygiadau economaidd gyda’r pwyllgor.

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor yr Aelod Seneddol David Davies: “Mae Cymru bellach yn un o’r ardaloedd sy’n perfformio waethaf yn y DU yn nhermau denu buddsoddiad. Ni allwn ddibynnu ar ddulliau traddodiadol fel grantiau a chostau llafur isel i ddenu buddsoddiad. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried ffyrdd mwy dyfeisgar i geisio denu buddsoddiad a datblygu strategaeth economaidd glir.

“Fe ddylai Gweinidogion Llywodraeth Cymru fod yn barod i drafod gyda gweinidogion yn San Steffan ac mae penderfyniad Gweinidog Busnes Cymru i wrthod trafod gyda’r pwyllgor wedi bod yn siomedig iawn,” meddai.

‘Pryder’

Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd llefarydd busnes y Democratiaid Rhyddfrydol Eluned Parrott ei bod yn croesawu adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig.

Ond ychwanegodd bod amharodrwydd y Gweinidog Busnes Edwina Hart i roi tystiolaeth i’r pwyllgor “ar fater hollbwysig fel economi Cymru yn bryderus iawn.”

“Rwy’n credu bod hyn yn gamgymeriad dybryd ar ei rhan gan ei body n chwarae rol mor allweddol yn hybu Cymru fel gwlad sy’n agored i fusnes.”

Buddsoddi mewnol Cymru ‘wedi hanneru ers diddymu’r WDA’

Dywed Ceidwadwyr Cymru fod y penderfyniad i ddiddymu Awdurdod Datblygu Cymru wedi bod yn “gam yn ôl i Gymru”.

Wrth ymateb i’r adroddiad heddiw, dywedodd llefarydd Busnes y Ceidwadwyr Cymreig, Nick Ramsay, fod y penderfyniad i ddiddymu’r WDA, a disgwyl i Lywodraeth Cymru gyflawni’r un gwaith yn fewnol yn un “naïf.”

“Ers cael gwared â’r WDA, mae’r canran o fuddsoddi mewnol gan y DU i Gymru wedi hanneru. Dan y WDA, roedd gan Gymru un o’r lefelau uchaf o fuddsoddi mewnol o holl wledydd y DU, ond nawr Cymru yw’r ail isaf,” meddai Nick Ramsay.

“Mae angen i Weinidogion Llafur roi eu meddwl ar waith ynglyn â chreu amodau ar gyfer twf economaidd a denu pobol i greu gwaith yng Nghymru.

“Mae angen i Lywodraeth Lafur Cymru ddechrau cyd-weithio’n adeiladol gyda’r Glymblaid yn San Steffan er mwyn cyflwyno neges unedig a hyder yn ein heconomi.”

‘Agwedd newydd tuag at fuddsoddiad’

Ond mae Llywodraeth Cymru yn mynnu bod diddymu’r WDA wedi bod yn ddechrau ar ffordd ‘ffres’ o ddenu buddsoddiad.

Dywedodd llefarydd ar ran y Llwyodraeth heddiw eu bod nhw “eisoes wedi cydnabod yr angen i ymestyn eu hymdrechion masnachol yn yr adeg economaidd anodd sydd ohoni ac yn y farchnad gynyddol gystadleuol. Mae ganddon ni dîm prosiectau mawr yn arwain ar fasnach a buddsoddiad.”

Dywedodd y llefarydd fod y Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan wedi derbyn eu cynnig i agor swyddfa newydd yn Llundain, a bod hynny’n gyfle i fabwysiadu “agwedd ffres tuag at fuddsoddi mewnol.

“Mae ein model newydd yn fwy hyblyg ac ymatebol ac addas ar gyfer y dyfodol, yn hytrach na  adlais o Awdurdod Datblygu Cymru, a oedd wedi chwythu ei blwc.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


John Griffith , Chwefror 21, 2012 9:13 am

Oni ddylai Llywodraeth Cymru sylweddoli nad oes rhaid iddynt wneud pob dim eu hunain. Mae Bwrdd yr Iaith yn mynd yr un ffordd. Atgyfodwch Awdurdod Datblygu Cymru.

§

Ifor , Chwefror 21, 2012 9:51 am

Dim yn unig bod y llywodraeth ar fai, mae yna fai mawr pan mae yna gymaint o bwyslais ar bobl ifanc i berfformio ar lwyfan.
Mae hyn ar drael meithrin ein pobl ifanc i ddysgu sgliau go iawn ym meusydd gwyddoniaeth, peirianeg, meddyginiaeth ac amaethyddiaeth.
Os yw’r sgiliau cywir gennym fel cenedl, yna mae yna ddipyn gwell siawns o gael gwaith go iawn yma.

§| Nodi camddefnydd

Jones , Chwefror 21, 2012 11:08 am

Rhaid i ni fel cenedl gwestiynu lle yn union mae £biliynau o arian Ewrop y gafodd Llywodraeth Cymru wedi mynd.

Yn lle gwario fo ar lonydd neu rheilffyrdd, rydym wedi gwario fo ar bethau fel AWEMA, ryw statutes mewn pentrefi neu ryw ‘community centres’.

Hwn, mwy na ddim byd arall sydd wedi bod yn methiant llwyr o ddatganoli. Mae’r gwastraff wedi bod yn hollol warthus.

§

losin , Chwefror 21, 2012 12:37 pm

@ifor AM UNWAITH (ac ma’ gen i deimlad mai unwaith yn unig fydd hyn yn digwydd) DWI’N CYTUNO GYDA TI!
Hefyd, ma’ Cymru mor ar ‘i hol hi o rhan gwerthu’r wlad i weddill y byd.Iwerddon yn wych yn gwneud hyn ond sdim siap arno ni.

§| Nodi camddefnydd

CGT , Chwefror 21, 2012 1:22 pm

Ifor – taro’r hoelen ar ei phen. Mae’r gwastraff amser o fewn ein hysgolion uwchradd i weithgareddau allgyrsiol ayb yn frawychus , a’r ysgolion Cymraeg sydd mwyaf ar fai.

§

Andrew , Chwefror 21, 2012 6:05 pm

Cyn ein bod ni’n rhedeg gweithgareddau diwylliannol ein gwlad lawr ormod, efallai byddai’n werth edrych nol ar fis Awst llynnedd. Tra roedd pobl ifanc Cymru yn canu, dawnsio ac adrodd, roedd pobl ifanc Lloegr yn llosgi, dinistrio a dwyn, felly ‘dyw pethau ddim mor wych mewn rhannau eraill o’r DU. Oni bai am frolio eu hunain a rhedeg pawb arall lawr, tanc eitha’ gwag sydd gan lywodraeth a gwleidyddion San Steffan hefyd.
Mae ‘na werth i’r pethau diwylliannol yma, felly dylid eu hyrwyddo. Ond, ‘rwy’n cytuno hefyd y byddai gwerth mewn hybu astudiaethau a gweithgareddau a fyddai’n helpu ein gwlad yn economaidd. Felly, oni fyddai’n bosib cyfuno pethau. Pam na allai’r Eisteddfod (a sefydliadau eraill hefyd, e.e. Sioe Llanelwedd, yr Urdd, unrhyw un) ddechrau cystadlaethau busnes, menter, technoleg, meddygaeth, peirianneg ayyb a fyddai a’r un statws a chystadleuaeth y Gadair neu’r Goron er mwyn creu meddylfryd busnes yng Nghymru? Mae’n siwr fod ‘na gystadlaethau a digwyddiadau yn cymryd lle yn barod ond mae angen rhywbeth eitha’ sylweddol a stamp Cymreig arno.

§

CGT , Chwefror 21, 2012 10:17 pm

Mae yna gystadlaethau gwyddonol dilys yn yr eisteddfodau , ond mae’n anoddach creu dyfais/gwneud darganfyddiad na chreu cerdd ! .

§

Andrew , Chwefror 21, 2012 11:26 pm

Ie, nid creu rhywbeth yn benodol ar gyfer yr Eisteddfod (neu’r Sioe) oedd gyda fi mewn golwg, ond, yn hytrach, fod yna wobr(au) yn cael eu rhoi i unigolion neu fusnesau a oedd wedi gwneud rhywbeth (nid yn unig ym maes gwyddoniaeth neu dechnoleg) yn ystod y flwyddyn a oedd o fudd i berfformiad economaidd Gymru fel gwlad. Cael eu henwebu fydden nhw, nid cymryd rhan mewn cystadleuaeth. Rwy’n gwybod fod ‘na gystadlaethau gwyddonol yn yr Eisteddfod, ond fel gwyl ddiwylliannol mae’r rhan fwyaf ohonom yn meddwl amdani. Yn yr un modd, fel gwyl gefn gwlad mae’r Sioe Fawr yn cael ei gweld gan y rhan fwyaf, ond a fyddai’n bosib i ehangu hyn i gynnwys busnesau sydd ddim yn gysylltiedig ag amaeth ond sydd wedi eu lleoli yng nghefn gwlad?

§| Nodi camddefnydd

Iwan Rhys , Chwefror 22, 2012 3:15 pm

Beth am rywbeth mor syml â chystadleuaeth yn Eisteddfod yr Urdd i lunio cynllun busnes ar gyfer syniad busnes newydd? A chael pob fusnes lwyddiannus i feirniadu.

Dwi’n cofio llawer o bwyslais yn yr ysgol a’r brifysgol ar ddatblygu CV da er mwyn apelio at gyflogwyr (profiad gwaith, gwirfoddoli, cymryd rhan mewn gwahanol bethau cymunedol), ond doedd dim sôn o gwbl am y posibilrwydd o ddatblygu eich syniadau busnes eich hun, llunio cynllun busnes, cofrestru cwmni, marchnata, oni bai eich bod yn dilyn cwrs busnes yn benodol. Rwy wedi gadael yr ysgol ers 10 mlynedd, felly falle bod pethau wedi newid ers hynny.

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.