Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Heddlu’n cyhoeddi enw dynes fu farw mewn gwrthdrawiad car

Chwefror 21, 2012 11:18, Diweddarwyd am 14:33


Mae’r heddlu wedi cyhoeddi mai dynes 20 oed o Ddinbych fu farw ar ôl i’w char fod mewn gwrthdrawiad â lori yn  Sir Amwythig ddydd Sul.

Roedd Catrin Rebecca Pickles yn gyrru ei char Vauxhall Corsa Hatch lliw arian ar yr A525 i gyfeiriad yr Eglwys Wen (Whitchurch) pan fu mewn  gwrthdrawiad â lori Volvo lliw gwyn oedd yn teithio yn y cyfeiriad arall, tua 9.20pm nos Sul.

Bu farw Catrin Pickles yn y fan a’r lle. Ni chafodd y gyrrwr ei anafu ond cafodd driniaeth am sioc.

Mae Heddlu Gorllewin Mercia yn dal i ymchwilio i achos y ddamwain ac wedi apelio eto am wybodaeth. Mae nhw’n awyddus i holi unrhyw un a welodd y ddamwain neu a oedd wedi gweld y cerbydau’n cael eu gyrru ychydig cyn y gwrthdrawiad. Y rhif i’w ffonio yw 101.

Fe fydd post mortem yn cael ei gynnal a disgwylir i gwest gael ei agor a’i ohirio yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.