Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Englyn o gefnogaeth i Leanne

Chwefror 21, 2012 12:05, Diweddarwyd am 12:42


Leanne Wood
Mae criw llengar o gefnogwyr Leanne Wood wedi datgan eu cefnogaeth i’r ymgeisydd am arweinyddiaeth Plaid Cymru  heddiw trwy lunio englyn iddi.

Mae’r beirdd a’r llenorion Dewi Prysor, Catrin Dafydd, Mike Jenkins ac Iwan Rhys i gyd wedi datgan eu cefnogaeth i Leanne Wood erbyn hyn.

I ddathlu’r gefnogaeth honno mae un o’r beirdd, Iwan Rhys, cyn-enillydd Cadair yr Urdd a brodor o Gwm Gwendraeth sydd bellach yn byw yng Nghaergybi, wedi cyfansoddi englyn i ymgrych Leanne Wood:

Leanne, rhaid mynd amdani – ac uno’r
genedl; bydd â’i hegni’n
arweinydd eiddgar inni.
Leanne Wood – ymlaen â ni!

‘Gosod yr agenda’

Yn ôl yr awdures Catrin Dafydd, sydd yn byw yng Nghaerdydd, mae’r criw wedi penderfynu cefnogi Leanne Wood am fod angen “arweinydd ar y mudiad cenedlaethol fydd yn medru gosod yr agenda i Gymru.”

Wrth ychwanegu ei henw at y rhestr hir sydd eisoes wedi datgan eu cefnogaeth i Leanne Wood, dywedodd Catrin Dafydd fod y “newidiadau cyfansoddiadol enfawr” sy’n digwydd yn y DU ar hyn o bryd yn golygu bod angen “arweinydd sy’n glir ynglŷn â’r camau nesaf at annibyniaeth. Arweinydd all apelio at bobl Cymru benbaladr a sicrhau ein bod yn gwella economi Cymru,” meddai.

“Leanne Wood sydd â’r weledigaeth honno i’n symud ni ymlaen. Yn barod ry’n ni wedi gweld fod ganddi’r gallu i uno ac ysbrydoli aelodau’r Blaid ond mae hi hefyd wrthi’n torri tir newydd wrth i undebau ac aelodau newydd fel ei gilydd gefnogi’r Blaid am y tro cyntaf erioed.”

Wrth i’r llenor o Ferthyr, Mike Jenkins, ddatgan ei gefnogaeth i Leanne Wood, dywedodd ei fod yn teimlo, “fel awdur, fod gweledigaeth ymarferol a dychmygus Leanne ar gyfer Cymru wahanol yn un gyffrous iawn: cyfuniad unigryw o gynaliadwyedd a sosialaeth fel gwrthbwynt i negyddiaeth polisïau’r toriadau.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Rhys Gethin , Chwefror 21, 2012 2:49 pm

Onid yw’n hen bryd i Golwg360 ymuno’n swyddogol ag ymgyrch Leanne Wood? Mae’n anhygoel pa mor unllygeidiog yw’r erthygl hon.

§| Nodi camddefnydd

Ifor Hughes , Chwefror 21, 2012 3:42 pm

Ar ol ei performance ar CF99 & Sharp End – marwnad sydd ei angen.

§

jones2 , Chwefror 21, 2012 3:57 pm

perfformiad ofnadwy yn yr hystings neithiwr hefyd. Doedd hi ddim yn gallu ateb dim byd heb edrych mewn rhyw ffolder fawr am yr atebion.

§

Adam Jones , Chwefror 21, 2012 4:04 pm

I’r sawl sydd yn clebar bod gan Golwg rhyw feias tyfwch i fynny er mwyn duw, cofier roedd stori am Elin ddoe dim sôn am Leanne, mae na gydbwysedd rydych yn darllen yn ormodol i’r peth, os unrhyw beth gellid dadlau bod na ffafriaeth i Elin am leolwyd swyddfa golwg yn Llambed – Sir Geredigion.

Nawr tyfwch i fynny er mwyn duw!

§

CGT , Chwefror 21, 2012 4:18 pm

Wedi bod yn frwd iawn dros Leanne Wood i ddechrau – ond mae sawl adroddiad yn son am berfformiadau cyhoeddus siomedig arni. Mae angen dipyn o dan ar arweinydd Plaid Cymru – mae Carwyn Jones yn dymuno gwrthwynebwyr sydd gymaint o gadach marw ac yntau – ond rhaid i’r tan yna gael ei gyfeirio’n fedrus a llithrig. Dechrau tueddu at Elin Jones eto, ond mae’r cam gwag wnaeth drwy hanner-urddo Simon Thomas wedi ei difrodi’n arw gyda llawer.
Mae cymaint o ddirmyg gennyf at yr ymgeisydd arall nad wyf am grebwyll ei enw .
A oes arweinydd addas yn y ras ? Dechrau poeni nad oes. Mae IWJ wedi llwyddo i roi llaw farw ar genhedlaeth gyfan ,ac mae’r gwleidyddion galluocaf a huotlaf y tu allan i’r cynulliad – buasai Elfyn Llwyd yn ennill y ras yma yn hawdd . Peth rhyfedd nad yw yntau erioed wedi dangos diddordeb – mater o’r dyn iawn yn y lle anghywir ar yr adeg iawn, fel petai.

§

Beti Fach , Chwefror 21, 2012 4:45 pm

Dwi’n meddwl mai tim o bobl sy’n dda iawn am godi ‘hype’ a rhyddhau storiau ac sydd wedi cynllunio hyn o’r dechrau sydd i gyfrif am y ffaith fod Leanne yn cael cymaint o sylw – a does dim byd yn bod ar hynny.

Adam, roedd yna gyfeiriad hollbresennol at Leanne gan RGT ddoe – oedd yn gwneud i rai amau pwy oedd ei ffefryn! ;)

“Rwyf i, fel llawer o aelodau eraill, wedi cael fy nghyffroi a’m hysbrydoli gan ymgyrch Leanne. Mae’r agenda ar gyfer y blaid wedi ei osod yn glir.”

§

Eifion Williams , Chwefror 21, 2012 5:41 pm

Elin Jones – Siaradwraig grymus ond efallai ddim yn mynd i apelio i’r cymoedd.
Leanne Wood – Mynd i apelio yn fwy na’r gweddill ond gormod i’r chwith, gormod o risg.
Dafydd Elis Thomas – Dyn craff a profiadol ond ddim yn mynd i ysbrydoli.
Yr ateb = Adam Price

§

Helen , Chwefror 21, 2012 6:01 pm

Jones2 dwi’n anghytuno. Does na’m byd yn mater hefo sgwennu nodiadau pan mae rhywun yn gofyn cwestiwn. Mi oedd Leanne ac Elin hefyd wedi siarad yn dda. Dafydd-êl yn ffraeo hefo pawb a dangos ei hyn. Sa gen i bwcad swn i wedi chwydu ynddo fo! Leanne dwi eisiau fel arweinydd, ond swn i’n derbyn Elin hefyd, er dwi ddim yn meddwl wneith hi ddenu pleidleisiau newydd. Os fydd Dafydd-êl yn cael i mewn, fydda i a llawer o bobl eraill yn gadael y Blaid yn syth. Wnai fyth deall sut mae ganddo fo gefnogaeth. Tori bach dio, a tori ddylia fo fod, dim PC. Mae’n hen bryd rhoi’r awennau i’r genhedlaeth nesaf. Mae Dafydd-êl wedi cael ei dwrn.

§

Andrew , Chwefror 21, 2012 6:40 pm

O! Leanne, mawr yw’r gobeithion
Ond i arwain y Blaid, ‘dyw dy ddawn di’n ddim digon
A Dafydd El fyddai dewis y Queen
Felly, i mi, yn bersonnol, Elin yw’r un.

§

jones2 , Chwefror 22, 2012 7:37 am

Lol Helen. Dychmygwch hi yn cael ei holi gan gwestinwr praff mewn cyfweliad teledu byw. Byddai’n drychineb. Dafydd Elis-Thomas yw’r unig ddewis call.

§

Ifor Hughes , Chwefror 22, 2012 8:17 am

@Jones2 never a truer word

§

Jonathan Tomos , Chwefror 22, 2012 11:32 am

“Lol Helen. Dychmygwch hi yn cael ei holi gan gwestinwr praff mewn cyfweliad teledu byw. Byddai’n drychineb. ”

Lol, dwi’n cofio Leanne Wood ar Question Time. Mi oedd hi’n wych pob tro.

§

Crebwyll , Chwefror 22, 2012 12:24 pm

Pwy sy’n debygol o ysbrydoli a chreu’r momentwm adnewyddol i lifo drwy’r aelodaeth fel y bydd hwnnw wedyn yn arwain at lwyddiant etholiadiol ym mis Mai a thu hwnt? Un guess.

§

Jones , Chwefror 22, 2012 5:02 pm

Syniad:
Pam neith Golwg ddim wneud ryw ‘online poll’ ar y wefan ryw bryd yn gofyn pwy yw yr ymgeisydd ffefryn (fel mae SKY news yn ei wneud).

Er fydd o ddim yn hollol wyddonol- dwi’n siwr bysan digon difyr (yn enwedig os ydych yn gwneud mwy nag un rhwng nawr a Mawrth).

Mae ddigonedd o bethau ar y lein a fysa yn gwneud hyn (ag am ddim!!!).

Syniad da?

§| Nodi camddefnydd

Crebwyll , Chwefror 22, 2012 5:14 pm

Eidial Jones

§

Martin Wilias , Chwefror 27, 2012 4:31 pm

Carwyn Jones ydi’r unigolyn gorau i arwain Cymru am y 10 mlynedd nesaf.
Nid E Jones.
Nid L Wood.
Nid DET.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.