Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Barnwr yn ystyried cais Giggs am iawndal

Chwefror 21, 2012 17:40


Ryan Giggs
Cafodd Ryan Giggs ei enwi yn y llys am y tro cynta’ fel y pêl-droediwr a oedd wedi sicrhau gorchymyn llys i atal papur newydd y Sun rhag cyhoeddi honiadau ei fod wedi cael perthynas gyda’r fodel Imogen Thomas.

Fe gytunodd seren Manchester United a Chymru i godi’r gwaharddiad yn ystod gwrandawiad yn yr Uchel Lys heddiw.

Roedd Giggs, 38, wedi sicrhau’r gorchymyn llys fis Ebrill y llynedd ond cafodd ei enw ei ddatgelu gan filoedd o bobl ar wefan Twitter ac yn y Senedd gan yr Aelod Seneddol John Hemming.

Iawndal

Mae’r  barnwr Mr Ustus Tugendhat bellach yn ystyried cais am iawndal gan Giggs sy’n honni bod y Sun wedi amharu ar ei breifatrwydd.

Ond mae News Group Newspapers, sy’n cyhoeddi’r Sun, yn dadlau y dylai’r cais gael ei atal.

Mae’r pel-droediwr hefyd yn ceisio sicrhau gorchymyn llys i atal cyhoeddi unrhyw wybodaeth breifat amdano yn y dyfodol.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.