Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



S4C yn gwadu ‘diffyg dychymyg’ wrth lansio rhaglenni newydd

Chwefror 21, 2012 18:02, Diweddarwyd Chwefror 22, 2012 15:56


Rhodri Williams a Emma Walford
Mae S4C wedi gwadu mai diffyg dychymyg sydd wedi arwain at ail lansio rhai o gyfresi oes aur S4C yn arlwy newydd y sianel o 1 Mawrth ymlaen.

Wrth lansio eu hamserlen ar gyfer rhaglenni’r gwanwyn, mae S4C hefyd wedi gwadu mai cael eu gorfodi i atgyfodi hen raglenni fel ‘Sion a Sian’ a ‘Jacpot’ y maen nhw, oherwydd toriadau yn eu cyllideb.

“Ro’n i’n sylwi ar Twitter bod rhywun wedi nodi wythnos hyn na allen ni fod wedi dod lan â syniadau gwell,” meddai Geraint Rowlands, Cyfarwyddwr Comisiynu Dros Dro y sianel.

“Ond dw i yn credu bod hi yn bwysig iawn i ni beidio anghofio am boblogrwydd y cyfresi yma yn y gorffennol.”

‘Esblygu’r fformat’

Dywedodd fod dod yn ôl â rhai o hen ffefrynnau S4C yn gyfle i “esblygu’r fformat i wneud e yn fwy addas ar gyfer cynulleidfa fodern, hynny yw cynulleidfa heddi a chynulleidfa fory.”

Mae’r arlwy newydd hefyd yn cynnwys rhaglen fydd yn edrych yn ôl ar bigion yr wythnos ar S4C gydag Aled Sam bob nos Sul, o’r enw Sam ar y Sgrîn.

Mae S4C yn dweud y bydd y rhaglen yn “glo ar un wythnos, ac i groesawu’r wythnos nesa’,” gyda chyfle i’r gwylwyr roi eu barn ar arlwy’r wythnos.

“Nid dim ond casgliad o raglenni a chlipiau fydd hwn,” meddai Geraint Rowlands.

“Mae’r dewis Aled Sam yn gyflwynydd yn nodi’n glir ein hawydd ni ac awydd Tinopolis a’r tim cynhyrchu i greu arlwy a rhaglen adloniant. Mae Aled yn gyflwynydd ffraeth. Mae e yn chwim ei feddwl, yn glyfar iawn wrth sgriptio a fydd hon ddim yn rhaglen sych.”

Wynebau newydd

Mae Geraint Rowlands hefyd yn addo y bydd wynebau newydd i’w gweld ar S4C o fis Mawrth ymlaen, ac yn eu plith bydd cyflwynwyr ifanc newydd yn cael cyfle i hogi eu sgiliau.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n datblygu talent newydd. Ond mae yna bryd a lle i ddatblygu’r talent hwnnw,” meddai.

Ond mae’n mynnu nad yw’r cyflwynwyr ifanc yn cael eu cyflwyno ar draul y rhai mwy profiadol – er gwaetha’r ffaith mai Emma Walford a Mari Grug fydd yn cymryd drosodd gan Angharad Mair a Sian Thomas ar hen soffa Wedi 7.

Bydd y ddwy olaf yn dechrau cyflwyno rhaglen gylchgrawn ddyddiol Prynhawn Da am 1pm o fis Mawrth ymlaen ynghyd a Rhodri Ogwen.

Yn ôl y Cyfarwyddwr Comisiynu, mater o “gydbwysedd” yw’r drefn gyflwyno newydd, a bod Angharad Mair ei hun yn awyddus i symud i’r prynhawniau.

“Cadw y cydbwysedd sydd angen,” meddai, wrth sôn am yr amrywiaeth wynebau ac oedrannau fydd gan amserlen newydd S4C, o Elin Fflur i Dai Jones. “Ond dydyn ni yn bendant ddim yn ageist.”

Uchafbwyntiau S4C ar gyfer y Gwanwyn:

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Eifion Williams , Chwefror 21, 2012 8:09 pm

Pam y ddaear na gawn ni fwy o rhaglenni grefyddol ar dydd Sul? Hoffwn weld awr o Dechrau Canu Dechrau Canmol, nid hanner awr. A efallai dangos pregeth oedfa bore yn fyw ar S4C rhwng 10 – 1100 yb.

§

Ifor Hughes , Chwefror 22, 2012 7:17 am

Beth am Iona Jones yn chware ‘spoons’ neu’r llif, fel y bachan dawnus yma ? Gall hi wneud ddim fwy o ddrwg na beth wnaeth hi’n barod :-

http://www.youtube.com/watch?v=O31CFDrlVlk&feature=related

§

Ben , Chwefror 22, 2012 12:20 pm

Achos nid pawb sy’n gristion Eifion

§

Eifion Williams , Chwefror 22, 2012 12:32 pm

Ond gwlad Cristonogol yw Cymru a mae mwyafrif o’r Cymry Cymraeg yn mynychu oedfaeon Caepli, a ddylse S4C adlewyrchu hynny yn well.

§

Dylan , Chwefror 22, 2012 1:02 pm

Be di’r canran o Cymru Cymraeg sydd yn Cristnogol Eifion? Ti wir yn meddwl bod y rhan helaeth yn mynychu oeadfaeon? os felly, pam fysa nhw angen ei gwylio ar y teledu? Mae Dechrau canu dechrau canmol yn fwy nac ddigon fel mai, be am hanner awr bob wythnos am stori arall diddorol, Harry Potter ella?

§

Siôn , Chwefror 22, 2012 1:16 pm

Rhaglen Tony ac Aloma’n edrych yn……ddiddorol! A beth ddiawl ma’ Ifor ap Glyn yn ‘neud yn cyflwyno rhaglen am dai bach, dwedwch?!

§

Marc , Chwefror 22, 2012 3:02 pm

“Ond gwlad Cristonogol yw Cymru a mae mwyafrif o’r Cymry Cymraeg yn mynychu oedfaeon Caepli, a ddylse S4C adlewyrchu hynny yn well.”

Clywch, clywch. Da o beth fyddai i S4C dderbyn y ffaith fod mwyafrif helaeth ei gwylwyr yn perthyn i’r categori honedig “gul” hynny sydd yn mynychu’r capel, MYW, cymdeithasau Cymraeg, ayb, a dechrau darparu rhaglenni iddyn nhw yn hytrach nag i ryw garfan “trendy” o’r boblogaeth sydd prin yn bodoli.

§

John bach , Chwefror 22, 2012 3:20 pm

Yn dilyn Deddf Eglwys Cymru 1913, Eifion, gwlad seciwlar yw Cymru, er bod Cristnogaeth yn parhau yn ddylanwadol (e.e. gwasanaethau mewn ysgolion a gwyliau cyhoeddus ac ati). Mae Ymchwil Paul Chambers (2003) yn awgrymu mai ond 9% o boblogaeth Cymru sy’n mynychu gwasanaeth crefyddol. Gan ystyried bod ryw 25% o boblogaeth eich gwlad yn siarad Cymraeg, ni all y Cymry Cymraeg sy’n mynychu gwasanaethau crefyddol bod mewn mwyafrif, hyd yn oed os mai Cymry Cymraeg yw pob un o’r 9% hyn!

Fodd bynnag, rwy’n meddwl fod y drafodaeth hon yn adlewyrchu’r her i S4C – rhai gwylwyr am weld pethau sy’n cyd-ymffurfio â dehongliad gymharol draddodiadol o Gymreictod, eraill am weld pethau sy’n herio’r ffiniau hynn. I’r BBC, nid yw’n broblem gan fu modd targedu BBC1 at un gynulleidfa, a BBC2 at gynulleidfa arall. Nid yw hwn yn ymarferol i S4C, ac efallai bod yna her brandio’r sianel gan fod gwylwyr yn cwyno nad oes yna ddigon o’r rhaglenni maent am weld, a gormod o raglenni nad ydynt am weld.

§

Gwilym , Chwefror 22, 2012 4:21 pm

Wow, mar gwanwyn ma yn edrych yn wych! Popeth bydden ni moyn gwylio, flwyddyn gore S4C hyd belled yn sicr. Toni ac Aloma, MOR ‘ecseitid’!

§

Rheinallt , Chwefror 22, 2012 8:38 pm

Annwyl s4c,

Ers fy mhlentyndod, bu gennyf obaith dirgel – sef ymddangos ar Jacpot.

Weithiau byddwn yn cael breuddwydion mor real fel y dychmygwn fy mod yno yn y stiwdio a’r amlen yn fy llaw- ond wrth ei hagor, deffrown mewn i stafell dywyll, unig, sibrwd y geiriau – ‘dim jacpot’ yn llawn hiraeth tawel, gan wybod na ddoi’r freuddwyd fyth yn wir.

Llifodd y dagrau’n lli pan welais y ddalen hon; mewn ennyd troes byd o derfynnau pendant yn alaeth llawn posibiliadau newydd a llon. Diolch, S4C – a cha i awgrymu slogan newydd? ‘yn helpu’r Cymro i ail-ddarganfod diben bywyd ers 1982′.
Cofion cynnes,

§

Hari , Chwefror 23, 2012 1:12 am

Wrth fy modd gydag arlwy y Gwanwyn – erdrych ymlaen at yr holl ddramau newydd!!!
Eifion – i fi mae Dechrau Canu Dechrau Canmol yn cael ei ddarlledu hanner awr yn ormod ar hyn o bryd – prin bod angen mwy!

§

irfon , Chwefror 23, 2012 7:29 am

Tony ac Aloma, Sion a Sian, Jacpot, Heno, Aled Sam- yndi, mae’r Gwanwyn yn edrych yn ecseiting iawn.

Gwanwyn 1985 hynny yw.
Doedd Superted ddim ar gael?

§| Nodi camddefnydd

Ifor Hughes , Chwefror 23, 2012 9:44 am

Back to the future Irfon

§| Nodi camddefnydd

irfon , Chwefror 23, 2012 9:51 am

Mmm…wel mi wn i am o leia un person fydd yn penderfynnu falla darllen mwy y Gwanwyn ‘ma.
A gwylio BBC 4.

§| Nodi camddefnydd

eirwen haf , Chwefror 25, 2012 12:32 am

Ie cytuno da Irfon- S4C ma 1990 yn galw- mae ishe ei rhaglenni nol! Sdim cliw da nhw-amlwg bod y boi newydd yn dda i ddim. Arlwy sy ar y cyfan yn ddiog, hen-ffasiwn a phlwyfol. Man a man atgyfodi Tipit tra bo nhw wrthi! Lle mae’r rhaglenni ‘must-see’ heriol? HBO, FX , BBC4 a Sky Atlantic amdani!

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.