Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Hanner o oedolion Cymru yn ordew

Chwefror 22, 2012 13:00



Mae dros 50% o oedolion Cymru dros bwysau neu’n ordew, ac mae rhybudd heddiw y gallai’r ffigwr hwnnw godi i 85% mewn llai na degawd os nad yw camau brys yn cael eu cymryd.

Cymru yw’r wlad gyda’r nifer uchaf o bobol dros bwysau o holl wledydd y Deyrnas Unedig, ac mae nifer y Cymry gordew wedi mwy na dyblu yn y 25 mlynedd ddiwethaf.

Dyma’r rhybudd mewn adroddiad gan Academi Iechyd Cymru sy’n cael ei drafod mewn cynhadledd gan y Sefydliad Materion Cymreig heddiw.  Fe fydd yn edrych ar “epidemig gordewdra Cymru” ac yn awgymru polisiau y dylid eu cyflwyno i fynd i’r afael â nhw.

Costau cynyddol

Mae’r ystadegau’n dangos os mai parhau wna’r duedd bresennol, gallai 60% o ddynion a 50% o fenywod fod yn ordew ym Mhrydrain erbyn 2050.

Mae disgwyl y byddai cynnydd o’r fath yn golygu bod costau gofal iechyd uniongyrchol i ddelio â gordewdra yn cynyddu saith gwaith, gyda chostau ehangach i gymdeithas yn cyrraedd £45 biliwn y flwyddyn.

Mae gordewdra hefyd yn cynyddu’r risg o ddatblygu clefydau cronig, gan gynnwys math 2 o glefyd y siwgr, clefyd cardiofasgwlaidd, a rhai mathau o ganser.

Mae’r Gynhadledd, sy’n cael ei chynnal ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, yn gobeithio cynnig atebion ar sut mae mynd i’r afael â’r problemau hyn, a sut i daclo’r duedd o fwyta bwydydd sy’n cynnwys llawer o fraster, a diffyg ymarfer corff ymhlith pobol Cymru.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ann , Chwefror 24, 2012 10:26 am

Nid problem y llywodraeth ddylai hon fod, cyfrifoldeb yr unigolyn yw gofalu ar ôl eu pwysau.

§| Nodi camddefnydd

gaynor , Chwefror 24, 2012 8:23 pm

Dylid trethi bwyd fflwcsaidd, mae smygwyr a diotwyr i gyd yn talu treth ar y ffags a’r cwrw/gwirodydd/gwin.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.