Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Siom i Ysgol y Parc: pleidlais derfynol yn cymeradwyo cau

Mawrth 1, 2012 16:04


Protest Cymdeithas yr Iaith yn 2011
Mae ymgyrchwyr wedi mynegi siom heddiw wedi i Gyngor Gwynedd bleidleisio’n derfynol ar ddyfodol Ysgol Gynradd y Parc, ger y Bala.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran y Cyngor wrth Golwg 360 heddiw fod mwyafrif cynghorwyr y sir wedi pleidleisio o blaid cau’r ysgol.

Daw’r bleidlais ddiweddaraf ar ddyfodol Ysgol y Parc ar ôl i Gyngor Gwynedd orfod ail-ystyried eu cynlluniau, yn sgil cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru eu bod yn mynd i leihau eu cyfraniad ariannol tuag at ysgolion newydd o 70% i 50%.

Ond heddiw fe benderfynodd Cyngor Gwynedd i fwrw ymlaen â’r cynllun i gau Ysgol y Parc, er gwaetha’r “ansicrwydd ariannol.”

Wrth ymateb i’r bleidlais, dywedodd llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith, Ffred Ffransis, ei fod yn “gresynu at benderfyniad Cyngor Gwynedd.”

Rhybudd statudol

Mae’r Cyngor bellach wedi cyhoeddi Rhybudd Statudol i gau Ysgol y Parc, gan ddechrau ar fis o gyfnod lle gall y cyhoedd gyflwyno’u rhesymau dros wrthwynebu cau’r ysgol.

“Bydd Cymdeithas yr Iaith yn rhoi cefnogaeth lawn i’r Parc ac i unrhyw gymunedau eraill ym Meirion a fydd yn brwydro yn erbyn y rhybuddion i gau eu hysgolion,” meddai Ffred Ffransis.

“Byddwn yn cyhoeddi’n fyw ar Sianel 62 nos Sul yma ein cynlluniau i gefnogi’r Parc ac i godi gwrthwynebiad eang i’r bwriad i gau’r ysgol.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dan Puw , Mawrth 1, 2012 11:14 pm

Wel, wel, – ffordd unigryw ein Cyngor o ddathlu Gwyl Ddewi. Ar ddiwrnod pan bwysleisiwyd yr angen am wella sgiliau dysgwyr, mae nhw yng Nghaernarfon yn penderfynu amddifadu ardal, sydd a dros 90% o’r boblogaeth yn Gymry Cymraeg naturiol, o un o’n hasedau pwysicaf i sicrhau parhad yr iaith. Mae cau ysgol y Parc yn mynd i gostio dros hanner miliwn o bunnoedd i drethdalwyr Gwynedd, a hynny er mwyn arbediad pitw bob blwyddyn. Mae hyn yn golygu fod dros hanner cynghorwyr Gwynedd yn hollol wrth-Gymreig a thwp.

§

Dan Puw , Mawrth 2, 2012 8:48 am

Pa bwrpas ychwanegu sylw os mai ond am ychydig funudau y caiff aros ar eich gwefan? Mae’n amlwg fod Golwg 360 yn cefnogi gweithredoedd gwrth-Gymreig.

§| Nodi camddefnydd

Gwawr Jones , Mawrth 2, 2012 9:25 am

Mae eraill llawer mwy cymwys na fi wedi rhoi eu dadleuon o blaid yr ysgol, ac rwy’n eu cefnogi i’r carn. Nid mater yn unig o gau ysgol wledig yw hon, ond popeth arall sydd ymhlyg yn y symudiad hwn. Fe fyddai’n chwalfa arall yn y fath o gymdeithas sy’n mynd yn eithriadol o brin yng Nghymru, ac fe fyddwn i gyd ar ein colled oherwydd hynny.

Yr oedd y rhan fwyaf o rieni’r plant oedd yn mynd i’r un ysgol ^a ‘mhlant i yn gweithio yn y sector cyhoeddus, felly ‘roedd yr ysgol yn cael ei chefnogi gan y pwrs cyhoeddus, yn anuniongyrchol. ‘I’r pant y rhed y d^wr’, oedd hi. Mae’n amheus gen i a ydi hyn yn wir yn y Parc.

Mae’n gywilydd mawr fod Cyngor Gwynedd yn gymaint o fwlis.

§| Nodi camddefnydd

Elfed Puw , Mawrth 2, 2012 12:23 pm

Pam mae Ysgol Y Parc yn cael yr holl sylw? Beth am Ysgol Aberdyfi? Ysgol Llwyngwril? Ysgol Llanegryn? Ysgol Bryncrug? Ysgol Abergynolwyn? Ysgol Ieuan Gwynedd? Ysgol Llanfachreth?

Cymdeithas yr Iaith am drin cymunedau ac ysgolion yn wahanol i’w gilydd yndi? Sawl gwaith maent wedi mynnu cael ei llais dros pawb arall yn y Cyngor ac yn y papurau – mae mwy o Gymry Cymraeg na rhieni 20 o blant Y Parc!!

Beth bynnag – mae’r plant yn cael cynnig i fynd i Ysgol O M Edwards sydd yn ardal gyfystur y Gymraeg ac wedi cael arolwg Estyn gwell na’r Parc beth bynnag! Wel yn wir – Gwyn eu byd o gymharu ag opsiynau eraill fydd yn gwynebu rhai o’n hysgolion!!

§

Geraint , Mawrth 2, 2012 2:44 pm

@Elfed
Mae’r ad-drefnu yn Nolgellau wedi llithro o dan y radar rhywsut.

Dydy’r ad-drefnu yn nhalgylch Dolgellau’n gwneud fawr o synnwyr mewn sawl cymal (e.e cau safle Rhydymain a hwnnw’n adeilad dra newydd gyda 80% o’r plant o gartrefi Cymraeg), a buodd penderfyniad y cynghorydd Llais Gwynedd lleol i roi cynnig i gau Ysgol Machreth yn siom aruthrol i’r niferoedd bleileisiodd iddynt yn 2008.

§

Dan Puw , Mawrth 2, 2012 4:44 pm

Elfed Puw (dim perthynas gobeithio!), mae ysgol y Parc yn cael sylw oherwydd fod yr ardalwyr gant y cant o blaid ei chadw, ac yn mynd i droi pob carreg i gyrraedd ein nod. Gwyddom fod ysgolion eraill yn y sir yn yr un sefyllfa, a hynny oherwydd yr ymddengys fod gennym swyddogion a chynghorwyr hollol gibddall i synnwyr cyffredin. Rwy’n siwr y caiff pob ysgol sydd mewn argyfwng tebyg gefnogaeth gan drigolion Gwynedd, Cymdeithas yr Iaith, a llawer mudiad arall ond gofyn amdano.
Yr ysgol leol yw ein cyfrifodeb ni yma, fe ddaliwn i ymgyrchu, ac fe rown gefnogaeth i bawb sydd yn yr un cwch â ni. Sylweddoled EP fod ysgol yn rhan annatod o gymuned Gymreig fyw ac iach, a cholled i’r plant a’u cymuned fydd cludo disgyblion i ardal arall, hyd yn oed os yw’r addysg yno rhyw fymryn bach, bach yn well.
A yw trethdalwyr Gwynedd yn sylweddoli, yn yr oes hon o doriadau, fod ein Cyngor yn mynd i fenthyca miliwn o bunnoedd i adeiladu estyniad i ysgol O.M.Edwards ar gyfer 25 o ddisgyblion ychwanegol, heb unrhyw sicrwydd y cânt ei hanner yn grant gan y Cynulliad. Yn ôl y sôn bydd pethau rhyfeddach fyth yn digwydd yn nalgylch Ysgol y Gader. Cawn weld.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.