Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Beirniadu cau safle chwaraeon Cymraeg y BBC

Chwefror 4, 2011 10:58


Gwefan chwaraeon y BBC
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu’n penderfyniad i gau gwasanaeth chwaraeon Cymraeg ar-lein y BBC.

Dywedodd llefarydd ar ran y gymdeithas, Menna Machreth, bod y ddadl yn “hollol annerbyniol o ystyried y diffyg buddsoddiad sydd wedi bod yn y gwasanaeth”.

Cadarnhaodd y BBC ddoe y byddai’r gwasanaeth ar-lein Cymraeg yn dod i ben wrth i’w safle newyddion wynebu toriadau o 25% a cholli 360 o swyddi.

Mewn datganiad dywedodd y gorfforaeth ei bod yn “glir bod galw am gynnwys chwaraeon ar-lein yn yr iaith Gymraeg yn isel iawn.”

‘Ar ei hôl hi’

“Mae’r safle yn amlwg ymhell ar ei hôl hi yn dechnegol o’i gymharu’r â’r safle Saesneg, a does ‘na ddim hyrwyddo wedi bod o gwbl,” meddai Menna Machreth.

“Os ewch chi i safle chwaraeon Saesneg y BBC does yna ddim sôn am fodolaeth gwasanaeth Cymraeg. Does dim rhyfedd bod y ffigyrau yn isel os yw’r BBC wedi gwneud job mor dda o’i guddio.

“Mae hyn yn profi mai trychineb fyddai iddyn nhw draflyncu S4C hefyd, gan fod y cyfryngau newydd yn mynd i fod yn hollbwysig i ddyfodol y Gymraeg.”

Ychwanegodd mai dyma “dechrau toriadau eithafol i’r gwasanaeth ar-lein Cymraeg” a bod y Gymdeithas “ar ddeall fod rhagor o doriadau i’r adran ar-lein i ddod”.

“Mae Radio Cymru eisoes wedi gorfod cwtogi oriau oherwydd y toriadau. Sut allwn ni ymddiried y BBC i ofalu am S4C yn iawn os mai dyma fel maen nhw’n trin y gwasanaethau Cymraeg sydd ganddyn nhw’n barod?”

Ymateb

Dywedodd colofnydd chwaraeon cylchgrawn Golwg, Phil Stead, ei fod yn teimlo “nad yw cynnwys gwefan chwaraeon Cymraeg y BBC yn ddigon da”.

“Dydyn nhw ddim yn cyfro uwch gynghrair Pêl droed Cymru a does ganddyn nhw ddim hawliau i ddangos y gemau cenedlaethol,” meddai Phil Stead.

“Mae yna fwy o stwff Cymraeg ar wefan Sgorio.

“Problem y BBC ydi nad ydyn nhw eisiau talu am yr hawliau i ddangos gemau pêl droed Cenedlaethol ac Uwch Gynghrair Cymru – maen nhw’n ystyried rygbi yn llawer pwysicach i Gymru.

“Fedri di ddim ei roi o’i fyny a disgwyl i bobl fynd yno – mae’n rhaid iddyn nhw ryngweithio. Maen nhw wedi bod yn araf iawn wrth gymryd mantais o’r cyfryngau cymdeithasol,” meddai.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Carl Morris , Chwefror 4, 2011 12:46 pm

Dyw BBC ddim yn hyrwyddo’r adran digon.

Maen nhw yn debyg i gwmnïau sy’n cynnig gwasanaethau Cymraeg dan y cownter ac wedyn cwyno am y diffyg galw.

§

Rhys Wynne , Chwefror 4, 2011 1:11 pm

Newyddion trist bodd y gwasanaeth am fynd, ond roedd mwy o wybodaeth i gael ar y ferswin Saesneg a modd tanysgrifio i’r ffrwd yno ar gyfer camp arbennig, cynhgrair arbennig neu glwb arbennig. Oce, felly bod mwy o adnoddau gan BBC Sport (doedd does dim rhaid i BBC Wales boeni am ddarparu cymaint o gynnwys a hynny gyn ei fod yn bodoli’n barod), ond fel sy’n cael ei nodi’n barod, allwch chi ddim hawlio bod dim galw, os nad yw cystal a beth sydd ar gael rhywle arall, neu nad yw’n cael ei hyrwyddo’n iawn.

Yn fy marn i (a siwr bydd llawer yn anghytuno), os cwtogi ar unrhwy beth byddai’n well cwtogi ar bethau ar-lein Cymraeg gan y BBC am y celfyddydau, achos mae’r rhain eisoes yn cael lot o sylw yn y cyfryngau Cymraeg eraill (mewn print ac ar-lein) – tra does fawr ddim o werth i’w gael am chwaraeon yn Gymraeg. Sori os dw i’n swnio’n sexist yma, ond dylid ystyried bod chwaraeon (boed yn rygbi, pêl-droed neu beth bynnag) yn boblogiadd tu hwnt ym mhob rhan o Gymru ymysg bechgyn ifanc, a mewn siwr mai dyma’r garfan anodda i’w denu i ddarllen am stwff yn Gymraeg.

§

cris , Chwefror 4, 2011 1:21 pm

Mae peryg mawr ein bod yn dechre swnio fel cenedl o blant bach wedi eu sbwylio – ishe hwn dadi, ishe’r llall mami…ishe ishe ishe..
Os nad oes galw am wasanaeth – pam y dylid ei gadw??

§

Rhodri ap Dyfrig , Chwefror 4, 2011 1:28 pm

>> “Mewn datganiad dywedodd y gorfforaeth ei bod yn “glir bod galw am gynnwys chwaraeon ar-lein yn yr iaith Gymraeg yn isel iawn.”

Mewn gwlad sydd yn fwy obsesd efo chwaraeon nac unrhyw beth arall, dwi’n amau hynny’n fawr.

Beth oedd y ffigyrau defnydd pan oedd yr adran yn newydd? Oes yna gwymp wedi digwydd yn y ‘galw’ am wefan chwaraeon BBC yn Saesneg? Os nad oes, yna’r unig reswm felly am diffyg galw ydi diffyg yn y wefan. Mae pobol yn dewis mynd i wefan BBC Wales Sport neu Sgorio dros BBC Chwaraeon. A phwy allai eu beio. Yr unig beth sydd angen gwneud yw edrych ar BBC Chwaraeon ac yna ar BBC Wales Sport / BBC Sport ac fe welwch yn gwahaniaeth yn glir.

Lle mae’r datblygiad wedi bod? Mae’r wefan wedi aros yn static ei diwyg a’i natur ers oes. Mae’r BBC wedi gadael iddi edwino ar y gainc a nawr yn beio’r gynulleidfa am beidio ei defnyddio pan fo toriadau a gafodd eu gwneud heb unrhyw ymgynghoriad a BBC Cymru yn golygu bod rhaid torri nol.

Dyna chi be ydi cheek.

§

Rhodri ap Dyfrig , Chwefror 4, 2011 1:34 pm

Dim ond un peth positif efallai a ddaw o hyn ydi y gall S4C, ITV a Golwg360 gydweithio i lenwi’r bwlch. Efallai byddai’n creu gwasanaeth chwaraeon sydd a blas gwahanol i’r hyn a roddir gan BBC Wales Sport a BBC Sport. Byddai hynny’n rhywbeth i’w ganmol, ac o leia wedyn byddai ei ffawd yn nwylo Cymru ac nid prif weithredwyr y BBC yn Llundain.

§

Ifan Morgan Jones , Chwefror 4, 2011 2:16 pm

Wedi blogio ar y pwnc yma fan hyn: http://www.golwg360.com/blog/ifan-morgan-jones/6820-diffyg-darllenwyr-esgus-cyfleus-i-dynnur-plwg

§

Adam Jones , Chwefror 4, 2011 2:52 pm

Cytuno â lot beth mae pobl yn ei ddweud fan hyn. mae’r bbc yn cuddio’i gwasanaethau Cymraeg yn aml ac yn ei wneud yn anodd iawn i ddod o hyd at wybodaeth yn y Gymraeg. Maent yn mynd i’r ymdrech o gyfieithu felly beth sydd o’i le gyda ychydig o hyrwyddo a marchnata hefyd?.

Yr hyn dwi ddim yn deall yw IPLAYER fel enghraifftt, cyfieithiwyd yr hen fersiwn i’r Gymraeg ar Aeleg ond eto mae’r fersiwn newydd wedi bodoli ers yr haf diwethaf a does dim ymdrech wedi bod i’w gyfieithu i’r Gymraeg na’r Aeleg, wrth ystyried arlwy Cymraeg a Gaeleg y BBC, rhaid holi cwestiynau pam felly? Gwasanaeth o’r radd flaenaf yn y Saesneg ond un eilradd ei naws yn y Gymraeg?

Ie does dim galw o gwbl nad oes BBC? Am eich bod chi wedi diwallu’r unrhyw alw a fuodd gan roi’r Gymraeg o dan anfantais o’r cychwyn cyntaf.

Traflyncu S4C? Sai’n meddwl ni rhywsut, chi ddim yn ffit i arwain siop shafins heb sôn am sianel ychwanegol.

§

Hedd Gwynfor , Chwefror 4, 2011 3:37 pm

Dwi’n cytuno’n llwyr gyda’r negeseuon uchod. Roedd gwasanaeth chwaraeon Cymraeg arlein y BBC yn uffernol yn dechnolegol ac o ran cynnwys. Nid bai y rhai oedd yn gweithio i’r adran chwaraeon arlein oedd hyn, ond bai ar y BBC am roi cyn lleied o arian i mewn iddo o’i gymharu a’r fersiwn Saesneg. Rhaid i mi ddweud mai at y fersiwn Chwaraeon Saesneg oeddwn i’n mynd o hyd.

Mae hyn yn gyfle gwych i Golwg360 i lenwi’r bwlch, ond bydd rhaid i safon adran chwaraeon Golwg360 godi llawer hefyd, a bydd rhaid i straeon ymddangos yn fwy aml. Pan dwi’n mynd i weld eitem chwaraeon, e.e. adroddiad o rhyw gem, dwi eisiau’r ffeithiau i gyd, nid dim ond adroddiad byr. Faint o bobl oedd yno, pwy oedd yn y timoedd, pwy gafodd ei eilyddio, ayb, ayb. Dwi hefyd eisiau dolenni at eitemau blaenorol perthnasol. Dwi eisiau adrannau unigol at bob camp, ac adrannau o fewn pob camp at y gwahanol dimoedd / gynghreiriau. Doedd gwasanaeth chwaraeon Cymraeg y BBC ddim yn darparu’r wybodaeth yma, ac o’r hyn dwi’n gweld nid yw Golwg yn darparu’r wybodaeth yma chwaeth ar hyn o bryd. Ond mae yna fwlch mawr yn awr y gellwch chi ei lenwi :-)

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.