Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Cwpwl hoyw ar Sion a Siân

Mawrth 31, 2012 11:04


Grant Vidgen a Berwyn Rowlands
Mae S4C wedi datgelu y bydd cwpwl hoyw yn ymddangos am y tro cyntaf erioed ar y gyfres eiconig Sion a Siân sy’n dychwelyd i’r sgrin fach yn fuan.

Mi fydd Berwyn Rowlands a Grant Vidgen yn ymddangos ar y rhaglen nos Sadwrn, 14 Ebrill. Bydd y gyfres newydd yn dechrau’r wythnos ynghynt, ar y 7fed.

“Mi fydd y gyfres yn cynnwys elfennau ffres newydd sy’n rhoi tro bach difyr i’r fformat cyplau poblogaidd,” meddai llefarydd ar ran S4C.

Mi gafodd Sion a Siân ei darlledu’n gyntaf ym 1964, a hynny ar sianel TWW. Ymysg y cyflwynwyr sydd wedi ymddangos ar y gyfres mae Dai Jones, Llanilar.

Y cyflwynwyr ar y fersiwn newydd yw Stifyn Parry a Heledd Cynwal. Meddai Stifyn, “Y cystadleuwyr ydy gwir sêr y sioe. Pobol o bob cwr o Gymru, o bob rhywioldeb ac o bob oed, a drwy ateb un cwestiwn fe allan nhw ennill £1,000. Dyna sydd yn ei gwneud hi mor ddifyr.”

“Yng Nghymru, mae gan y gyfres draddodiad pwysig gan iddi gael ei darlledu yma cyn i’r fersiwn Saesneg Mr a Mrs gael ei darlledu ar draws Prydain,” ychwanegodd.

Mae Berwyn Rowlands a Grant Vidgen wedi bod mewn partneriaeth sifil ers chwe blynedd, ac maen nhw’n byw yng Nghaerdydd. Mae Grant yn gweithio fel ymgynghorydd TG gyda chwmni Capita, ac mae Berwyn yn rhedeg cwmni o’r enw The Festival Company.

Meddai Berwyn, “Dydych chi byth yn adnabod unrhyw un cant y cant – a dyma ein cyfle i ddysgu rhywbeth am ein partner a hynny o flaen y genedl, mae hynny’n ddychryn!”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Nodi Camddefnydd
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y ddolen ’Nodi camddefnydd’ sy’n ymddangos wrth ymyl pob sylwad. Os bydd dau berson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.


Dwl , Mawrth 31, 2012 1:36 pm

Edrych ymlaen i weld y Siôn a Siôn neu Siân a Siân – pam lai. Da iawn S4C.

Dwi’n siwr fod cyplau hoyw mor disfuncitional a checrys â rhai strêt!

§| Nodi camddefnydd

Gwilym Prydderch , Ebrill 1, 2012 9:47 am

Dwi’n falch fod gan S4C ddigon o syniadau newydd, ffres. Edrych ymlaen at weld Fo a Fe, Miri Mawr a Hollol Bananas ar y sgrîn yn fuan. A beth am raglen o’r enw Heno, efallai efo Iestyn Garlick yn cyflwyno.

§| Nodi camddefnydd

CGT , Ebrill 1, 2012 11:54 am

Fo a Fe – dal ar y trywydd hoyw, efallai ?

§

AnnOnn , Ebrill 4, 2012 11:27 am

Gwarthus.

§

Dai Jones , Ebrill 5, 2012 6:01 pm

Be wede Mam Slaymaker tybed?

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Nodi Camddefnydd
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y ddolen ’Nodi camddefnydd’ sy’n ymddangos wrth ymyl pob sylwad. Os bydd dau berson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.