Mardi Gras yn Ynys Mon y llynedd
Mae grŵp Efengylwyr y Christian Voice wedi rhybuddio pobol Ynys Môn i gadw draw o Fardi Gras Biwmares eleni.

Mae’r grŵp wedi lansio ymgyrch yn erbyn cynlluniau i gynnal Mardi Gras ym Miwmares ddiwedd y mis, gan ddweud fod y “gorymdeithiau hoyw yn ymosodol a bygythiol.”

Yn ôl Christian Voice, mae’r digwyddiad wedi cael ei gynllunio i “hyrwyddo homorywioldeb a hawliau hoywon ac yn dychryn a dad-sensiteiddio pobol gyffredin.”

Dywedodd Stephen Green, cyfarwyddwr cenedlaethol Christian Voice, wrth Golwg 360 heddiw eu bod nhw’n “rhybuddio pobol Ynys Môn rhag mynd i Fiwmares” yn ystod y digwyddiad ar 28 Ebrill.

Yn ôl Stehen Green, fydd Christian Voice yn mynd i’r Mardi Gras eu hunain er mwyn dweud wrth y bobol yno “nad oes raid iddyn nhw aros yn hoyw, a bod ffordd allan i’w gael gyda help Iesu Grist.”

Ymosod ar homorywioldeb

Mae’r grŵp hefyd wedi anfon pamffledi at drigolion Biwmares yn ymosod ar homorywioldeb, ac yn gwrthwynebu’r Mardi Gras. Mae Cyngor Tref Biwmares bellach wedi tynnu sylw’r heddlu at y pamffledi.

Ond wrth siarad â Golwg 360 heddiw, dywedodd trefnydd y Mardi Gras, Alan Jones, ei fod e’n ddigon bodlon i’r Efengylwyr gymryd rhan yn y digwyddiad.

“Mae ’na groeso i bawb ddod i’r Mardi Gras, yn hoyw, yn strêt, yn ddu, yn wyn. Ac mae hawl gan rhain i brotestio os ydyn nhw eisiau gwneud hynny, felly croeso.”

Hon fydd yr ail Fardi Gras i gael ei chynnal yn Ynys Môn gan Alan Jones a’i wraig, ac mae’n dweud mai prif amcan y digwyddiad yw rhoi cyfle i uno gwahanol garfanau o gymdeithas.

“Adeiladu pontydd ydy’r syniad,” meddai Alan Jones, sydd â phrofiad helaeth o drefnu digwyddiadau cerddorol ar draws Ynys Môn gyda’i wraig, gan gynnwys gigiau gyda Bryn Fôn a Celt er mwyn codi arian at elusennau.

“Dwi ddim yn hoyw fy hun, na’r missus chwaith,” meddai, “ond fe welson ni fod cyfle fan hyn i gynnal digwyddiad, doedd dim byd ar y scale yma i gael yng ngogledd Cymru cyn y llynedd.”

‘Parchu hawl i brotestio’

Cynhaliwyd y Mardi Gras cyntaf ar faes y Sioe ym Mona, Ynys Môn, y llynedd, ac roedd grwpiau Efengylol yno bryd hynny hefyd.

“Sa’n well gynnon ni iddyn nhw beidio bod yno, wrth gwrs, ond rydan ni’n dal i roi croeso iddyn nhw, ac yn parchu eu hawl nhw i brotestio,” meddai.

“Rydan ni hefyd wedi gyrru llythyr allan at bobol Biwmares a’r bobol fydd yn dod i’r digwyddiad yn gofyn iddyn nhw barchu’r protestwyr ac i beidio rhoi unrhyw reswm iddyn nhw greu stwr.”

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal  yng Nghanolfan Biwmares ar 28 Ebrill eleni.