Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Iaith genedlaethol yn bwysicach i’r Saeson nag i’r Cymry

Ebrill 23, 2012 14:34


Mae arolwg yn awgrymu bod eu hiaith genedlaethol yn bwysicach i bobl Lloegr nag i bobl Cymru.

Mae’r arolwg, ar gyfer sefydliad British Future, hefyd yn awgrymu mai’r Cymry sydd fwyaf balch o’u baner genedlaethol o blith gwledydd Prydain, ac mai’r Cymry sydd lleiaf balch o’r Frenhines fel rhan o’u hymdeimlad cenedlaethol.

Cynhaliodd YouGov arolwg o blith 2,600 o oedolion ym Mhrydain, gan gynnwys 565 oedolyn yng Nghymru, ac mae sefydliad British Future wedi cyhoeddi adroddiad o’r arolwg heddiw dan y teitl This Sceptred Isle.

Dywed yr adroddiad bod 89% o bobl Lloegr yn falch o’u hiaith, tra yng Nghymru 78% o bobl Cymru oedd yn falch o’r Gymraeg a 67% o Albanwyr oedd yn falch o’r Aeleg.

Mae balchder ieithyddol yn tueddu i amrywio yn ôl plaid wleidyddol, medd yr arolwg, gyda 68% o gefnogwyr y Ceidwadwyr yng Nghymru yn falch o’r Gymraeg, 81% o gefnogwyr Llafur, 92% o gefnogwyr y Democratiaid Rhyddfrydol a 95% o gefnogwyr Plaid Cymru.

Cymru yw’r wlad sydd fwyaf balch o’u baner genedlaethol, gyda 86% yn cysylltu’r  Ddraig Goch gyda balchder a chenedligrwydd, o’i gymharu â 61% o Saeson a 84% o Albanwyr ar gyfer eu baneri nhw.

Cymry’n falch o’u timau cenedlaethol

Gall llwyddiant Cymru ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad fod wedi cael effaith gan mai Cymru yw’r wlad sydd fwyaf balch o’i thimau chwaraeon cenedlaethol – 90% o’i gymharu â 65% yn Lloegr a 68% yn yr Alban.

Mae 78% o bobl Cymru yn falch o’r Eisteddfod Genedlaethol, sy’n fwy o lawer na’r 51% o bobl Lloegr sy’n falch o ŵyl Glastonbury ond yn llai na’r 84% o bobl yr Alban sy’n falch o ŵyl Caeredin.

Mae’r canlyniadau yn awgrymu bod chwarter oedolion Cymru yn cyfrif eu hunain yn Saeson, tra yn yr Alban 11% oedd y ffigwr.

Mae 43% o bobl Cymru yn uniaethu fwy gyda Chymru na gyda Phrydain, sy’n cyfateb gyda 57% sy’n uniaethu fwy gyda’r Alban yn y wlad honno a 37% o Saeson sy’n uniaethu gyda Lloegr cyn Prydain.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Nodi Camddefnydd
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y ddolen ’Nodi camddefnydd’ sy’n ymddangos wrth ymyl pob sylwad. Os bydd dau berson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.


Dafydd Trystan , Ebrill 23, 2012 5:19 pm

Tybed ydy Golwg 360 di methu rhywbeth fan hyn – sef cyd-destun defnydd y ‘ieithoedd cenedlaethol’. Mae’n destun rhyfeddod a balchder rwy’n tybio fod dros 75% o’r rhai a holwyd yng Nghymru yn falch o’r Gymraeg (er fod y rhan helaethaf ohonynt ddim yn siarad yr iaith). Nol i JR Jones?

§| Nodi camddefnydd

Hedd , Ebrill 23, 2012 9:12 pm

Yn union Dafydd, dyna beth oedd yn mynd trwy fy meddwl i hefyd. 75% yn ffigwr cadarnhaol iawn.

§| Nodi camddefnydd

Siôn Eurfyl Jones , Ebrill 23, 2012 9:20 pm

Yn lloeger, gallwn dybio for pob un o’r rhai atebodd y cestiynnau yn mexdru Saesneg. Nid felly yng Nghymru. Felly, yn fy nhyb i mae’r faith for 4 of bob 5 yn cefnogi’r iaith yn galonogol dros ben. Allan or 20% arall, mae’n debyg fod cyfran sylweddon yn y categori ‘ddim yn gwybod’, felly ddim yn eliniaethol. Felly, i’n nhyb i, canlyniad cadarnhaol!

§| Nodi camddefnydd

CGT , Ebrill 23, 2012 10:09 pm

Os yw 75% o’r boblogaeth mor frwd am yr iaith , sut nad yw 75% o’n disgyblion ysgol yn rhugl ynddi ? (Neu hyd yn oed yn gallu yngan un brawddeg)
Rhaid dod i’r casgliad :

(a) Mae llawer o’r 75% yn frwd i bobl eraill siarad yr iaith .

Neu

(b) Nid yw eu plant yn rhannu’r un brwdfrydedd a hwy .

Neu

(c) Mae rhywbeth mawr iawn yn bod ar addysgu’r Gymraeg fel
ail iaith . Wedi’r cyfan , mae ar y cwricwlwm cenedlaethol
am chwarter canrif bellach .

Neu

(ch) Nid yw’n wleidyddol gywir bellach i ddweud eich bod yn
ddifater am yr iaith, ac maent yn dweud y peth ‘neis’ .

Petaech yn gwrando ar iaith ein hiardiau yn y Fro Gymraeg ,
(neu unrhywle arall) , ni fuasech mor galonogol.

§| Nodi camddefnydd

John Vaughan Williams , Ebrill 27, 2012 2:22 pm

Ti’n lygad dy le CGT – Saesneg yw iaith yr iard dros y lle i gyd – sut ydyn ni am ddatrys hyn? Mae plant ein hysgolion yn troi i’r Saesneg heb ail-feddwl am eiliad.

§| Nodi camddefnydd

glesni llwyd , Ebrill 27, 2012 8:45 pm

Faint o bobol bangor sydd yn ymfalchio yn yr iaith ateb = 0

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Nodi Camddefnydd
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y ddolen ’Nodi camddefnydd’ sy’n ymddangos wrth ymyl pob sylwad. Os bydd dau berson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.