Mae penderfyniad tafarn Owain Glyndŵr, Caerdydd, i ddathlu Jiwbilî’r Frenhines fis nesaf, wedi cythruddo rhai cenedlaetholwyr a gweriniaethwyr.

Dechreuodd y cwyno wedi i daflenni gael eu cylchlythyru yn hysbysebu ‘Owain Glyndwr Jubilee Celebrations’ yn y dafarn ar 4 Mehefin.

Mae cyfres o negeseuon ar dudalen Facebook y cwmni yn beirniadu’r penderfyniad i ddathlu’r achlysur.

“Ydi’r perchnogion yn gwybod pwy oedd Owain Glyndŵr?” gofynnodd Iago ap Steffan ar wal Facebook y dafarn. “Mae dathlu Jiwbilî Lloegr yn ei enw ef yn slap yn y wyneb ac rydw i’n meddwl ei fod yn afiach.”

Dywedodd Russell Gwilym Morris bod y dafarn yn “dathlu tŷ brenhinol o dramor yr oedd Owain Glyndŵr wedi brwydro i ryddhau Cymru o’i afael”.

“Naill ai mai hyn yn tynnu coes bwriadol neu mae angen gofyn beth sy’n mynd drwy ben rhywun yn Owain Glyndŵr,” meddai.

Dywed Nia Marshall Lloyd bod y “dafarn yn dathlu Jiwbilî brenhines Lloegr. Mae’n warth ar enw Owain Glyndŵr. Fe fydda’i yn boicotio’r dafarn o hyd ymlaen”.

Dywedodd Llysgenhadaeth Glyndŵr eu bod nhw eisoes wedi anfon llythyr at y dafarn yn galw arnyn nhw i roi’r gorau i’w cynlluniau i ddathlu’r Jiwbilî.

“Os oes rhaid cynnal digwyddiad er mwyn rhoi hwb i’ch elw beth am ddathlu coroni  Owain Glyndŵr a sefydlu ei Senedd ar 21 Mehefin,” meddai’r llythyr.

Mae Golwg 360 yn disgwyl am ymateb gan dafarn Owain Glyndŵr.